Cafodd tîm Profiad Dysgwr Coleg Cambria ddechrau prysur i’r flwyddyn academaidd, wrth gynnal sesiynau Materion Ariannol a oedd yn canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw, gan sicrhau bod dysgwyr yn annibynnol ac yn barod ar gyfer heriau ariannol pan maen nhw’n mynd i’r byd gwaith neu addysg uwch.
Roedd y sesiynau’n cynnwys pedwar gweithdy rapio gyda mentor Syniadau Mawr Cymru Joseph George – sef Joey G – a’r Siop Cyfnewid Dillad poblogaidd ar safle Iâl y coleg, a gafodd cyfraniad o £250 gan Grant Ieuenctid Cyngor Sir Wrecsam er mwyn eu galluogi nhw i brynu teclynnau stemio, hongwyr dillad, a rheiliau i arddangos yr eitemau.
Dywedodd Judith Alexander Cydlynydd Mentergarwch ac Entrepreneuriaeth: “Trwy gydol y flwyddyn mi fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau mewn partneriaeth â sefydliadau blaenllaw ac unigolion i dynnu sylw at y ffyrdd mae’r gymdeithas fodern yn pwyso’n drwm arnom ni, yn enwedig costau cynyddol ynni a thanwydd, argyfwng costau byw a rhagor.
“Dydyn ni ddim yn ceisio rhoi braw i’r myfyrwyr, ond rydyn ni’n ceisio sicrhau eu bod nhw yn y lle gorau posib ac yn gallu mynd i’r afael ag unrhyw beth mae bywyd yn ei daflu atyn nhw pan maen nhw’n gadael y coleg ac yn mynd i’r brifysgol neu’n dechrau eu gyrfaoedd.”
Ychwanegodd hi: “Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i Syniadau Mawr Cymru a phawb sydd wedi ein cefnogi ni, mi fydd yr wybodaeth a’r arweiniad yma yn amhrisiadwy i’r dysgwyr rŵan ac yn y dyfodol.”
Daeth Tilly Cook sy’n fyfyriwr Cerdd i’r siop gyfnewid, dywedodd: “ Mae hyn wedi bod yn wych i’r rhai ohonom ni sydd ddim eisiau prynu gan y diwydiannau mawr, a chefnogi ailgylchu ac ailddefnyddio yn hytrach na thaflu pethau.
“Roedd cael y siop yn y coleg ac mor hygyrch mewn amgylchedd cynnes a hwyl yn fantais fawr hefyd.”
I weld y rhestr lawn o ddigwyddiadau sydd ar y gweill eleni, anfonwch e-bost at judith.alexander@cambria.ac.uk neu tim.feak@cambria.ac.uk.
Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.