Roedd Amber-Leigh sy’n 18 oed yn cynllunio astudio pynciau Safon Uwch pan fu farw ei thad Myles yn ddim ond 42 oed, gan ei gadael hi’n ansicr o’r hyn oedd i ddod yn y dyfodol.
Er iddi frwydro pryder a phroblemau iechyd meddwl, gyda chefnogaeth gan ei mam Kim, penderfynodd Amber-Leigh wneud cais i astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid yng Ngholeg Cambria Llysfasi, ger Rhuthun.
Roedd rhaid iddi deithio ar fws o’i chartref yn Hen Golwyn bob dydd – a gan iddi gofrestru yn ystod y pandemig treuliodd hi fisoedd yn dysgu ar-lein. Erbyn hyn mae hi ar y trywydd i gael Rhagoriaeth* ac yn mynd i Ysgol Filfeddygol Harper a Keele ym mis Medi.
Mae Amber-Leigh sy’n gyn-ddisgybl Ysgol Bryn Elian yn gyffrous i ddechrau pennod newydd ac yn diolch i’r darlithydd Alex Morgan a’r staff yn Llysfasi am eu cymorth.
“Dwi wedi wynebu cyfnod anodd dros y blynyddoedd diwethaf, ond roeddwn i’n benderfynol o beidio â rhoi’r ffidil yn y to. Doeddwn i’n methu peidio â dychmygu bod yn filfeddyg a gwneud fy Nhad yn falch,” meddai Amber-Leigh.
“Roedd dad bob amser yn dweud wrtha’ i am weithio’n galed a bodloni fy nodau, roedd ei lais yn fy mhen yn fy ysgogi a dwi’n hapus iawn fy mod i ar y trywydd i wireddu’r breuddwydion hynny.
“Roedd yn gyfnod hynod o anodd i ni, gwnaeth fy nghynlluniau newid, a phenderfynais fynd i Cambria, sydd wedi bod yn benderfyniad gwych yn y pen draw. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r cwrs a gwnaeth pawb yno fy helpu i wynebu popeth.
“Buaswn i’n argymell y cwrs i unrhyw un fel llwybr o’r ysgol i addysg uwch, oherwydd y profiad rydych chi’n ei gael yn trin yr anifeiliaid a’r annibyniaeth sy’n eich paratoi chi ar gyfer bywyd yn y brifysgol.
“Yn dilyn popeth sydd wedi digwydd, doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n cyrraedd y fan yma, a dwi’n edrych ymlaen at y dyfodol.”
Gwnaeth tyfu i fyny mewn tŷ a oedd yn llawn anifeiliaid anwes roi Amber-Leigh o flaen y gweddill mewn gofalu am greaduriaid o bob lliw a llun, o gŵn a chathod i foch cwta, bochdewion, a chnofilod.
“Roeddwn i’n gwybod yn ifanc iawn fy mod i eisiau gweithio gydag anifeiliaid,” meddai hi.
“Pan oeddwn i’n fach ac wedi dechrau deall bod angen iddyn nhw fynd at y ‘doctor’, roeddwn i’n benderfynol o wneud hynny rhyw ddydd, roeddwn i eisiau eu helpu nhw os oeddent yn sâl neu wedi brifo.
“Dwi dal i deimlo mewn sioc fy mod i ar fin cwblhau fy astudiaethau yng Ngholeg Cambria – yn enwedig yn sgil heriau Coronafeirws a dysgu o bell. Dwi wrth fy modd fy mod i’n paratoi i ddechrau gradd mewn Meddygaeth a Llawfeddygaeth Filfeddygol.
“Diolch eto i’r tîm yn Llysfasi ac yn enwedig fy mam a fy nheulu anhygoel – buaswn i byth wedi gallu gwneud hyn heboch chi.”
Gwnaeth Alex longyfarch Amber-Leigh ar gael lle yn y brifysgol a dywedodd hi fod ei hagwedd benderfynol a chadarnhaol yn esiampl i eraill.
“Mae hi wedi gweithio’n hynod o galed ac mae hi’n gymaint o ysbrydoliaeth, rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddi a phob lwc iddi yn y dyfodol.” ychwanegodd hi.
“Does dim amheuaeth y bydd hi’n mynd ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus fel milfeddyg.”
Am ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth eang o gyrsiau’r tir a’r cymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria Llysfasi, ewch i: www.cambria.ac.uk.