Gwnaeth Dylan sy’n 18 oed, syfrdanu’r beirniaid yn rownd gyntaf y gystadleuaeth, lle cafodd pum myfyriwr o safle Iâl y coleg yn Wrecsam eu profi gan goginio saig boeth, oer a phwdin Tseiniaidd.
Roedd y pwysau’n ddwys, a llwyddodd Dylan i weini’r pryd poeth ac oer gorau gan ennill y rownd gyntaf. Mike Jennings o’r Hospitality Hut oedd yn beirniadu’r rownd. Gwnaeth ei gyd-fyfyriwr Edward James gynhyrchu’r pwdin gorau yn y rownd.
Bydd Dylan yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol, a fydd yn cael ei chynnal ym Mwyty Lu Ban yn Lerpwl sydd wedi ennill gwobrau ar 17 Mehefin.
Dywedodd Mr Jennings: “Roedd hi’n wych gweld grŵp o fyfyrwyr mor egnïol a brwdfrydig yn cystadlu yn rownd y gystadleuaeth Wokstar.
“Roedd safon y coginio’n uchel iawn ac roedd eu dulliau’n fanwl iawn. Dylai’r holl fyfyrwyr a gymerodd rhan fod yn falch o’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld Dylan a’r myfyrwyr eraill yn Lerpwl.”
Mae’r gystadleuaeth Wokstar 2022 yn cael ei chefnogi gan Lu Ban Foundation, adran Tseiniaidd ar gyfer Addysg ac Ysgol Goginio Tianjin. Cafodd ei chyflwyno i hyrwyddo sgiliau mewn celfyddydau coginio Tseiniaidd ac i roi mewnwelediad i fwyd Tseiniaidd i’r myfyrwyr.
Dyma flwyddyn gyntaf y gystadleuaeth, ac mae cyfanswm o chwe choleg ledled Lloegr a Chymru yn cymryd rhan, gyda’r nod o’i ehangu ymhellach ar draws y DU y flwyddyn nesaf.
Mae cystadleuwyr eleni a’u tiwtoriaid wedi cael eu gwahodd i Lerpwl ar gyfer y rownd derfynol. Bydd enillwyr y rowndiau blaenorol yn neidio o’r badell i’r tân ac yn cael eu profi gan arbenigwyr bwyd a diod, wrth i bawb arall fwynhau taith o amgylch Lerpwl.
Bydd y ‘Seren Wok’ fuddugol yn cael eu cyhoeddi ar y diwrnod, a bydd y tiwtor buddugol yn cael eu gwahodd i fwynhau noson wrth fwrdd arbennig y chef yn Lu Ban.
Bydd y seremoni yn cael ei darlledu’n fyw yn Tsieina i gyd-fynd ag Wythnos Sgiliau Galwedigaethol Tianjin.
Gwnaeth Mike Mounfield sef cyfarwyddwr Sefydliad Lu Ban ac ymgynghorydd Wokstar egluro’r syniad sydd y tu ôl i’r gystadleuaeth a sut mae’r sefydliad yn cefnogi hynny.
Dywedodd: “Rydyn ni’n ymwybodol nad yw colegau’n cael llawer o gyfle i gymryd rhan mewn llawer o gystadlaethau coginio, felly yn dilyn y cyngor gan Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Addysg Arlwyo (PACE) ac ymgynghoriad gan ddarlithwyr bwyd uwch, datblygodd y Lu Ban Foundation gystadleuaeth Wokstar er mwyn chwalu’r heriau a’r cymhlethdodau.
“Mae hyn wedi cynnwys cefnogwyr Wokstar yn cyllido’r holl gynhwysion i’r myfyrwyr allu cystadlu yn y gystadleuaeth hon.”
Am ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth ac am fanylion o enillwyr y rowndiau blaenorol dilynwch gystadleuaeth Wokstar ar www.wokstar.org
Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria ewch i www.cambria.ac.uk.