Wedi ei lansio yn 2022, nod y rhaglen oedd helpu pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru i gael gwaith ym maes coedwigaeth trwy roi hyfforddiant, cyfarpar iechyd a diogelwch, a mentora.
Wedi ei lansio yn 2022, nod y rhaglen oedd helpu pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru i gael gwaith ym maes coedwigaeth trwy roi hyfforddiant, cyfarpar iechyd a diogelwch, a mentora. Oherwydd ei llwyddiant, cafodd y rhaglen ei chynnig yn yr Alban y flwyddyn ganlynol.
Mae’r Deyrnas Unedig yn profi prinder difrifol mewn sgiliau coedwigaeth wrth iddo geisio cyflawni targedau plannu coed i fynd i’r afael â newid hinsawdd a bodloni’r galw cynyddol am bren sydd wedi ei dyfu gartref.
Yn 2023, roedd oddeutu 80% o’r pren a ddefnyddiwyd yn y Deyrnas Unedig wedi cael ei fewnforio, sy’n golygu mai dyma’r trydydd mewnforiwr mwyaf o bren yn fyd-eang – gan amlygu angen clir i well sgiliau ac ehangu’r gweithlu contractwyr coedwigaeth.
Cafwyd dros 70 o ymgeiswyr ar gyfer y cwrs diweddaraf ac mae’r 10 ymgeiswyr a ddewiswyd bellach wedi cwblhau eu hyfforddiant wedi ei ariannu’n llawn yng Ngholeg Cambria Llysfasi a Choleg Barony SRUC, Dumfries.
Mae’r hyfforddeion, Ynyr Roberts, Brychan Edwards, Rhys Ap Gwyndaf, a Bedwyr Roberts o Gymru wedi cael eu cyflogi gan Tilhill fel contractwyr i wneud gwaith plannu yn ei safleoedd creu coetiroedd.
Dywedodd David Edwards, Cyfarwyddwr Coedwigaeth Tilhill: “Mae’n bleser mawr gallu croesawu 10 o bobl sydd newydd gymhwyso i’r diwydiant coedwigaeth yn yr Alban ac yng Nghymru.
“Mae Tilhill yn falch iawn o fod wedi gweithio mewn partneriaeth â Choleg Cambria Llysfasi i gyflwyno’r rhaglen hon sydd wir wedi gwella sgiliau’r ymgeiswyr hyn mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n ymwneud â choedwigaeth gan sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol yn y diwydiant coedwigaeth.”
Ychwanegodd Andy White, Darlithydd Arweiniol Coedwigaeth yng Ngholeg Cambria Llysfasi: “Mae Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Coedwigaeth Cynaliadwy Foresight yn gyfle gwych i bobl ifanc sy’n chwilio am ffordd o ddechrau yn y diwydiant coedwigaeth.
“Mae myfyriwr llwyddiannus eleni wedi bod yn ddigon lwcus i gael hyfforddiant a chymwysterau mewn ystod eang o sgiliau ymarferol coedwigaeth gan gynnwys torri coed a defnyddio llif gadwyn, cymorth cyntaf, strimiwr, defnyddio torrwr prysgoed a llif glirio, gyrru a gweithredu tractor, a defnyddio plaladdwyr.
“Mae gwaed newydd yn brin ym maes coedwigaeth, felly mae croeso arbennig i’r rhaglen hon i annog pobl newydd i ddod, a rhoi’r hanfodion sydd eu hangen arnyn nhw i ddechrau.
“Mae haelioni Foresight wrth ariannu’r cyrsiau hyn, a darparu’r holl PPE angenrheidiol, yn dangos eu hymrwymiad i brifio’u cenhedlaeth newydd o goedwigwyr y dyfodol.”
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.