main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

STUDENTS with learning difficulties bagged permanent roles at a leading supermarket chain.

Yn dilyn interniaeth a rhaglen lwyddiannus profiad gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Asda wedi cyhoeddi eu bod wedi cynnig swyddi parhaol i ddysgwyr yn y siop yn Queensferry.

Gwnaeth Coleg Cambria ac Asda gefnogi rhaglen interniaeth a chafodd ei lansio yn ystod yr haf y llynedd ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Mewn partneriaeth ag elusen DFN Project Search, gwnaeth Asda Queensferry gymryd grŵp o ddysgwyr SBA (Sgiliau Byw’n Annibynnol), gan ddarparu profiad gwaith llawn amser yn y siop ac yn y warws.

Yn dilyn lleoliad gwaith llwyddiannus, mae Asda wedi cynnig swyddi â thâl i Leah Aldridge, Cai Jones, Laura Woodward, Daniel Hodson a Courtney McGarry.

Dywedodd Leah, o Gei Connah: “Mae’n dda fy mod i wedi cael cynnig swydd, dwi’n gweithio’n galed ac wedi dysgu sut i wneud tasgau a gweithio gyda fy nghydweithwyr.

“Dwi’n teimlo fel rhan o’r tîm a dwi’n mwynhau fy swydd newydd yn fawr. Rŵan mae gen i swydd a dwi’n ennill cyflog i mi allu prynu pethau dwi’n eu hoffi a dwi ddim yn poeni am bres cymaint ag yr oeddwn i o’r blaen.”

Mae DFN Project Search yn ceisio cefnogi 10,000 o oedolion ifanc sydd ag anabledd dysgu, neu gyflwr sbectrwm awtistiaeth (neu’r ddau) i gael cyflogaeth â thâl erbyn 2023 ac maent wedi helpu dros 2,000 o bobl hyd yn hyn.

O fis Medi, bydd Asda Queensferry yn cymryd grŵp o wyth o ddysgwyr bob blwyddyn i gefnogi’r rhaglen a chadarnhau ei enw da yn rhagor fel cyflogwr amrywiol a chynhwysol.

Dywedodd rheolwr y siop Adele Quinn: “Rydyn ni wedi gweld newid mawr yn ein interniaid ers iddyn nhw ymuno â ni ym mis Hydref y llynedd, maen nhw wedi symud o amgylch ystod o adrannau gan weithio gyda’u gydweithwyr yn y siop i ennill y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnyn nhw. Maen nhw wedi’u hyfforddi i ddefnyddio ein hoffer ac yn gallu gwneud hynny yn ddidrafferth a hyderus.

“Maen nhw’n cwblhau bob math o dasgau gwahanol o sganio, creu archebion siopa cartref, helpu gyda chael cynnyrch ar y silffoedd yn y siop, i wasanaethu cwsmeriaid ar y tiliau.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod y rhaglen wedi bod yn llwyddiannus, ac mae ein interniaid wedi cael swyddi.

“Mae hyn yn dangos bod rhaglenni fel hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn ein cymunedau ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu wyth dysgwr arall i’r teulu yn Asda Queensferry ym mis Medi.”

Ychwanegodd Mentor Cyflogadwyedd Cambria Becs Hitchen-Rielly: “Rydyn ni mor falch o’r dysgwyr am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i’r rhaglen.

“Maen nhw’n elwa o’r rhaglen ac ar y trywydd i gael gyrfa lwyddiannus mewn manwerthu.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Asda a DFN Project Search am y cyfle yma a’r cyfleoedd sydd i ddod ar gyfer ein dysgwyr SBA.

“Mae hyn wedi dangos iddyn nhw bod yna llond trol o bosibiliadau ar gael, a gyda hyder a chefnogaeth fe allan nhw gael bywydau hapus a llwyddiannus.

“Yn fwy pwysig na dim, maen nhw wedi bod wrth eu bodd gyda phob eiliad o weithio ac ennill profiad mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar, gan wneud ffrindiau a chydweithwyr newydd – mae wedi bod yn brofiad anhygoel iddyn nhw, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael rhagor o ddysgwyr yn ymuno â nhw yn y dyfodol.”

Mae rhaglen Interniaeth â Chymorth Asda yn recriwtio rŵan ar gyfer mis Medi ac mae wedi’i dylunio i gefnogi dysgwyr lleol sydd ag anghenion ychwanegol ac anableddau i ennill sgiliau ymarferol i symud ymlaen i gyflogaeth. Os ydych chi rhwng 16-25 oed ac mae gennych chi Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal) neu CCD (Cynllun Cymorth Dysgu) ac eisiau gwybod rhagor cysylltwch â SBA@cambria.ac.uk neu gwyliwch y fideo hwn gan Asda: 16-9 – Interniaeth Queensferry ar Vimeo

I weld rhagor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Ewch i www.dfnprojectsearch.org i gael rhagor o wybodaeth am DFN Project Search.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost