Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Mae myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu abableddau yn mwynhau llwyddiant chwaraeon yng Ngholeg Cambria.
Students with additional learning needs and/or disabilities are enjoying sports success at Coleg Cambria

Mae myfyrwyr SBA (Sgiliau Byw’n Annibynnol) ar safle Llaneurgain y coleg wedi rhagori mewn cyfres o gystadlaethau eleni.

Ar ôl brwydro i ddod yn fuddugol yng Nghynghrair Traws-Anabledd y Gogledd Orllewin Cymdeithas Colegau, llwyddodd y sgwad pêl-droed saith bob ochr i ddod yn ail. Gan guro timau fel Coleg Galwedigaethol Perry Pool, Blackpool a Fylde, Caerhirfryn a Morcambe, Newbridge, a Choleg Myerscough.

Mae grwpiau SBA hefyd wedi cymryd rhan mewn Boccia, pêl-llaw, pêl-rwyd, a hyd yn oed ras liwiau, wrth gystadlu mewn pedwar categori yng Nghystadleuaeth ddiweddar Sgiliau Cymru.

Dywedodd darlithydd SBA Steve Pearson bod y profiad yn “werthfawr iawn” i’r myfyrwyr.

“Mae cystadlu mewn chwaraeon tîm ar lwyfan lleol a chenedlaethol yn brofiad gwych, mae’n helpu i adeiladu hyder a chyfeillgarwch ymysg y myfyrwyr,” meddai.

“Mi wnaethon ni ennill twrnamaint pêl-droed yn erbyn tri choleg arall ac rydyn ni wedi datblygu fel tîm drwy’r tymor, felly dwi mor falch o’r dysgwyr. Maen nhw wedi bod yn glod i’r coleg mewn sawl maes.”

Yn ogystal â gweithgareddau chwaraeon, mae’r safle wedi cyflwyno clwb bocsio fel rhan o Cambria Heini ac yn parhau gyda’i ddarpariaeth Gwobr Dug Caeredin.

“Mae gan bob sesiwn a chwaraeon nifer wahanol i fyfyrwyr ond ar draws popeth rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn pobl ifanc yn cymryd rhan yn y gweithgareddau yma a rhaglenni iechyd a llesiant eraill,” meddai Steve.

“Mae twrnameintiau rhwng y safleoedd wedi bod yn boblogaidd a chystadleuol ac yn gyfle da i herio’r myfyrwyr.

“Rydyn ni hyd yn oed wedi dechrau menter glanhau ceir ar gyfer elusennau gwahanol: The Gleam Machine, sydd wedi datblygu eu sgiliau mentergarwch ac wedi bod yn boblogaidd iawn gyda’r cwsmeriaid – mae ein slotiau’n llawn tan fis Mai!”

Ychwanegodd: “Y nod ydy adeiladu hyder y myfyrwyr ar gyfer eu bywydau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol, sydd wedi bod yn hynod o werthfawr, ac mi fyddwn ni’n parhau i weithio ar gynyddu’r cyfranogiad ar gyfer ein myfyrwyr sy’n ferched gyda menter newydd o’r enw Arweinwyr Heini Cadarnhaol.

“Mi fyddwn ni’n ceisio adeiladu ar lwyddiant Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a’n timau chwaraeon, ac esblygu’r cynnig. Mi fydd hyn yn darparu’n dysgwyr SBA gyda llwyth o gyfleoedd i gynyddu eu sgiliau, profiad, a datblygiad, mewn amgylchedd hwyl a chystadleuol.

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost