Mae’r cymwysterau Trwsio Cerbydau Hybrid/Trydan 2 a 3 yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda hyd at 100 o ddysgwyr yn cwblhau cyrsiau dros yr 18 mis diwethaf.
Erbyn hyn mae’r coleg wedi datgelu cwrs newydd sef Dyfarniad Lefel 4 mewn Gwneud Diagnosis Namau mewn Cerbydau Trydan a Hybrid a’u Cywiro, sy’n gymhwyster mwy cynhwysfawr a fydd yn cael ei lansio ym mis Medi.
Yn ôl adroddiad gan think-tank mae’r Social Market Foundation yn datgelu y bydd Prydain yn rhedeg allan o fecanyddion i wasanaethu nifer cynyddol o gerbydau trydan sydd ar y ffyrdd erbyn diwedd y ddegawd. Dywed y darlithydd Charles Jones ei fod yn hanfodol bod mecanyddion ac unrhyw un sydd eisiau ymuno â’r diwydiant cerbydau modur yn ymwybodol o’r datblygiadau technolegol diweddaraf.
“Ar hyn o bryd rydyn ni’n cyflwyno’r cwrs dwywaith y flwyddyn ac mae lleoedd yn llenwi’n sydyn, felly rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â ni,” ychwanegodd.
“Rydyn ni wedi cael adborth cadarnhaol gan fyfyrwyr blaenorol sy’n dweud ei fod wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn eu gweithleoedd ac wedi rhoi pwynt gwerthu unigryw iddyn nhw o gymharu ag eraill yn y sector sydd heb gael profiad gyda cherbydau trydan, wrth ystyried y gallan nhw gefnogi’r sylfaen gwsmeriaid.
“Mae llawer o hyblygrwydd oherwydd bydd mwyafrif o’r bobl sy’n astudio’r cwrs mewn cyflogaeth yn barod felly maen nhw’n gallu dod ar y cwrs yn ôl yr angen, ac rydyn ni wedi ychwanegu modiwlau cerbydau trydan/hybrid at ein cyrsiau peirianneg fodurol presennol ar gyfer prentisiaid ac unrhyw un sydd am wneud cymhwyster ehangach ar ôl gadael yr ysgol.
“Mae llawer o’n dysgwyr Lefel 3 eisiau symud ymlaen at Lefel 4 ac wrth i gerbydau trydan a hybrid barhau i ddatblygu, mae’n hanfodol bod eu sgiliau yn gwneud yr un peth, er mwyn cadw ar flaen y gweddill a chadw ar yr un cyflymder â’r datblygiadau mewn technoleg, oherwydd mae cerbydau trydan yma i aros.”
Gyda chefnogaeth gan bartneriaid lleol, mae Cambria wedi cyflwyno adnoddau arbenigol newydd, cerbydau a pheiriannau, a bydd grwpiau Lefel 4 yn mynd i’r afael â phrosesau gwasanaethau a thrwsio uwch, fel stripio batris trydan, dewis hirdymor mwy cynaliadwy yn lle gosod rhai newydd yn eu lle, sy’n gostus ac yn llai buddiol i’r amgylchedd.
Mae Carl Black, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Peirianneg, Cerbydau Modur a Thechnegol Trydanol yng Nglannau Dyfrdwy yn meddwl ei fod yn hanfodol bod rhagor o fodurdai yn gwneud y newid ac yn cynhyrchu’r genhedlaeth newydd o dechnegwyr cerbydau trydan.
“Mae’n digwydd yn barod, a dim modurdai yn unig sy’n anfon pobl atom ni, rydyn ni wedi cael cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, cyfleustodau a chwmnïau trafnidiaeth a rhagor,” meddai.
“Mae cyllid Cyfrif Dysgu Personol (PLA) ar gael, yn amodol ar gymhwysedd, ac o ystyried y galw digynsail am bobl fedrus i weithio ar gludiant di-allyriadau – a’r cyfleusterau a’r arbenigedd rhagorol sydd gennym ni yma – dyma’r lle i ddod er mwyn datblygu eich gyrfa yn y diwydiant yma.”
Mae astudiaeth ac adroddiad y Social Market Foundation amcangyfrif na fydd digon o fecanyddion cymwys i gynnal yr holl gerbydau trydan yn y diwydiant ym Mhrydain erbyn 2027. Erbyn 2030, gallai’r wlad wynebu diffyg o 25,000 o dechnegwyr cymwys.
Am ragor o newyddion a gwybodaeth ar yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.