Mae’r garfan gyntaf o ddysgwyr wedi cymryd eu lle ar Brentisiaethau Gradd Adeiladu cyntaf Cymru sydd wedi eu hariannu’n llawn.
Bydd myfyrwyr yn treulio dwy flynedd ar safle Ffordd y Bers Coleg Cambria yn Wrecsam cyn cwblhau dwy flynedd derfynol ym Mhrifysgol Wrecsam.
Wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd y cymwysterau yn rhoi cyfle iddynt ennill profiad gwaith gwerthfawr wrth ennill gradd, gan agor ystod eang o gyfleoedd gyrfa mewn Rheoli Adeiladu, Tirfesur Adeiladau, Peirianneg Sifil, a Mesur Meintiau.
Wrth groesawu’r grŵp, dywedodd Karl Jackson, Arweinydd Safle Coleg Cambria Ffordd y Bers – sydd wedi cael ei drawsnewid gwerth miliynau o bunnoedd yn y blynyddoedd diwethaf – a Phennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg: “Mae’r dysgwyr eisoes wedi ymgartrefu ar y rhaglen ac yn edrych ymlaen at gymysgu ochrau theori ac ymarferol y diwydiant, i hybu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u hyder.
“Bydd y prentisiaethau gradd yn datblygu eu cymhwysedd proffesiynol ond hefyd yn rhoi hyfforddiant hanfodol amser real, go iawn mewn lleoliad o ansawdd uchel.
“Rydyn ni’n falch iawn o gydweithio â Phrifysgol Wrecsam ar hyn ac yn edrych ymlaen at weld y berthynas yn tyfu yn y blynyddoedd i ddod.”
Yn lansio’r prentisiaethau gradd dros yr haf, dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, cyn Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Fel prifysgol, rydym yn adolygu ein portffolio a’n llwybrau dysgu yn barhaus ar draws pob lefel i ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr – ac mae’r Prentisiaethau Gradd Adeiladu yn enghraifft wych o ddiwallu’r anghenion hynny.
“O siarad gyda chyflogwyr yn y rhanbarth, rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n edrych ymlaen at weld y rhaglen yn cael ei lansio yma yn Wrecsam.”
Mae’r rhaglenni wedi’u llunio i fodloni’r gofynion gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau sydd wedi eu gosod yn Fframwaith Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â gofynion cyrff proffesiynol.
Roedd lansiad y llwybr yn ganlyniad cydweithrediad ac ymgysylltiad cryf â chyrff a chynrychiolwyr perthnasol yng Nghymru gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), Y Cyd-fwrdd Cymedrolwyr (JBM), Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE), Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB), a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).
Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Prifysgol Wrecsam, ewch i Home – Wrexham University a’u dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.