main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

A Level Celebration

Heddiw (dydd Iau) mae’r Prif Weithredwr Yana Williams a’r Pennaeth Sue Price yn talu teyrnged i ddysgwyr am ymdopi â heriau ôl-bandemig ac am gyfrannu at ffigurau cyffredinol “anhygoel ac ysbrydoledig”.

Mae’r ddwy hefyd yn llongyfarch staff a darlithwyr ar safleoedd y coleg yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llaneurgain a Llysfasi am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i gefnogi pobl ifanc, yn enwedig y rhai hynny sydd wedi wynebu pwysau sylweddol yn yr ysgol uwchradd yn ystod y cyfnodau clo.

“Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae ein myfyrwyr wedi dangos gwytnwch anhygoel, sydd wedi arwain at ganlyniadau anhygoel ac ysbrydoledig yn gyffredinol,” meddai Ms Williams.

“Mae’n fwy na’r graddau uchaf yn unig. I lawer, mae llwyddiant yn golygu goresgyn anawsterau a mynychu gwersi, sefyll yr arholiadau a gwneud popeth o fewn eu gallu i gymryd y camau nesaf yn eu haddysg a’u gyrfaoedd.

“Rydyn ni’n falch iawn ohonyn nhw. Maen nhw’n glod llwyr i Goleg Cambria, i’w teuluoedd a’n cymuned, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut mae eu bywydau’n datblygu yn y blynyddoedd i ddod – da iawn i chi gyd.”

Dywedodd Mrs Price y bydd y myfyrwyr bob amser yn rhan o “deulu Cambria” wrth i’r coleg baratoi i groesawu myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

“Wrth i fyfyrwyr adael, mae dysgwyr newydd yn cychwyn ar eu taith gyda ni. Fe fyddwn ni yno iddyn nhw, nawr ac yn y dyfodol,” meddai.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag ysgolion yng ngogledd ddwyrain Cymru i gefnogi’r cyfnod pontio i’w helpu i gymryd y cam nesaf ar eu taith, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eu croesawu ym mis Medi.”

Ychwanegodd Mrs Price: “Unwaith eto, diolch yn fawr i’r myfyrwyr a’u teuluoedd am eu hymroddiad a’u gwaith caled yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddarparu addysg o’r radd flaenaf mewn amgylchedd croesawgar – gyda chyfleusterau heb eu hail yn unrhyw le yn yr ardal – i’r rhai sydd ar fin ymuno â ni yn ystod yr wythnosau nesaf.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost