Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

NaomiSpaven

Mae Naomi Spaven, prif bobydd a chef patisserie ym Mwyty Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam, yn ogystal â phobydd a chef crwst Ella Muddiman, sy’n gweithio yn lleoliad Hafod, wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobr Rising Star yn seremoni Gwobrau BIA (Baking Industry Awards) eleni.

Daw’r newyddion ar ôl i Naomi, o’r Wyddgrug – sydd â chyfrif cyfryngau poblogaidd iawn sef LittleWelshFoodie, sy’n annog pobl ifanc i ddechrau pobi – ennill y categori Cacen Ffrwythau yn y gystadleuaeth Britain’s Best Cake, lle ymunodd y beirniad Daryl Stephenson â hi, asesydd dysgu yn y gwaith Cambria.

Gan longyfarch y ddwy fedrus – sy’n ddwy allan o dair yn rownd derfynol y categori – dywedodd: “Dwi’n falch iawn o Ella a Naomi am gyrraedd rowndiau terfynol Baking Industry Awards ac yn teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi bod yn rhan o’u taith yrfa gyffrous hyd yn hyn.”

Dywedodd Maria Stevens, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol yng Ngholeg Cambria Iâl: “Ar ôl agor ein Bwyty Iâl gydag Ella tair blynedd yn ôl doedden ni erioed wedi meddwl y byddai’n gymaint o lwyddiant. Fyddai hyn i gyd heb fod yn bosib heb ein tîm gweithgar, ymroddedig sydd wedi datblygu’r brand a mynd o nerth i nerth.

“Ar ôl cyflwyno Becws Iâl yn ddiweddar a chroesawu ein ‘Little Welsh Foodie’ ein hunain, rydyn ni mor falch o’n pobwyr Cymreig o fri wrth iddyn nhw baratoi at y Gwobrau Rising Star.

“Ar ran pawb yng Ngholeg Cambria a minnau, llongyfarchiadau mawr a phob lwc i’r ddwy ohonoch chi.”

Yn gystadleuydd rownd terfynol Rising Star yn 2023, cafodd Naomi brofiad dros y 12 mis diwethaf gan dreulio wythnos yn Ysgol Artisan Food ac wythnos arall yng Nghanolfan Ragoriaeth Richemont yn Lucerne, Y Swistir.

Dywedodd beirniaid bod ei “hangerdd yn disgleirio” ac roedden nhw’n canmol ei gallu technegol a’i gallu i ddatrys problemau.

Yn y cyfamser, mae Ella – Dysgwr yn y Gwaith y flwyddyn 2024 Gweithgynhyrchu Bwyd – wedi mynd o nerth i nerth ar ôl dechrau pobi fel hobi ac mae’n benderfynol o helpu eraill fel “ysbrydoliaeth ar gyfer iechyd meddwl cadarnhaol”.

Mae wedi troi ei hangerdd yn yrfa gyda Cambria ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Sgiliau Diwydiant Pobi. Mae ar fin dechrau ei Lefel 3 ym mis Medi.

Caiff y gwobrau eu cynnal gan British Baker, cyhoeddiad blaenllaw ar gyfer y diwydiant pobi.

Dywedodd Amy North, Golygydd British Baker: “Mae Baking Industry Awards yn dathlu’r bobl, cynnyrch a’r busnesau sy’n gwneud y sector yn un mor anhygoel – o dorthau Surdoes Crefftwrol a’r bobl sy’n eu crefftio nhw gyda llaw, i’r gwneuthurwyr sy’n helpu i gadw’r genedl yn hapus ac wedi’u bwydo, a phawb arall sydd rhyngddyn nhw.

“Mae’r Wobr Rising Star yn gategori hynod o gystadleuol, ac mae ein tri sydd yn y rownd derfynol yn enghraifft o ragoriaeth, gan brofi eu bod yn unigolion talentog ac angerddol. Maen nhw’n gosod esiampl wych i’w cyfoedion a’r diwydiant ehangach.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Baking Industry Awards, ewch i’r wefan: Baking Industry Awards 2024 – Homepage (bakeryawards.co.uk) https://bakeryinfo.co.uk/events/meet-the-rising-star-award-finalists-for-2024/693829.article.

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost