Mae cangen Coleg Cambria o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – Cangen Cymraeg Cambria – wedi bod yn llwyddiant ysgubol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Gyda dros 600 o ddysgwyr ar draws safleoedd y coleg yn Wrecsam, Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy a Llysfasi yn siarad yr iaith yn rhugl, mae’r gefnogaeth i fyfyrwyr dwyieithog yn tyfu drwy’r amser.
Ymunodd swyddog y gangen Owain Williams, o’r Wyddgrug, â’r tîm yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae’n brysur yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan ei ragflaenydd Haf Everiss, gan gynnwys lansio Cymdeithas Gymraeg newydd yn y misoedd nesaf.
Ar ôl gweithio yng Ngholeg Gwent ac Urdd Gobaith Cymru yn y gorffennol, mae’n bwriadu parhau i gynnig cymorth ac arweiniad, trefnu digwyddiadau, a helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Mae Cangen Cymraeg Cambria wedi cael llawer o adborth cadarnhaol ac mae’n arbennig o boblogaidd gyda myfyrwyr sy’n ymuno o ysgolion Cymraeg a dwyieithog gan ein bod ni’n gallu’u cyfeirio at y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, a gwasanaethau dwyieithog yn y coleg,” meddai Owain, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Maes Garmon a myfyriwr Gwyddorau Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae’n fwy na dim ond ochr academaidd pethau, rydyn ni yma ar gyfer eu hiechyd a’u llesiant, dod â phobl at ei gilydd, cynnal sesiynau galw heibio a threfnu gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer y rhai sy’n well ganddyn nhw siarad eu hiaith gyntaf.
“Roedd gen i rolau tebyg yn fy swyddi blaenorol gyda Choleg Gwent a’r Urdd, felly rydw i wrth fy modd bod yma yn Cambria erbyn hyn, yn gwneud beth alla’i gyda’r Gangen i hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg am genedlaethau i ddod.”
Ychwanegodd: “Dim ond un gweithgaredd newydd rydyn ni’n yn bwriadu’i gyflwyno eleni ydi’r Gymdeithas Gymraeg, a gweithio’n agosach fyth gyda chymunedau yng ngogledd ddwyrain Cymru i hybu’r iaith ac atgyfnerthu ei hunaniaeth yn yr ardal.”
Mae’r galw am addysg Gymraeg wedi tyfu’n sylweddol wrth i nifer o gyflogwyr brofi’r manteision o gael gweithlu dwyieithog.
Dywedodd Llinos Roberts, Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a’r Gymraeg: “Mae’r coleg wedi ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg, darparu cyfleoedd a rhoi addysg ddwyieithog o’r radd flaenaf i’n dysgwyr.
“Ar ôl y pandemig, byddwn yn gwneud mwy fyth i gefnogi myfyrwyr a staff, gan hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth, yn anffurfiol ac yn y gweithle, a chreu amgylchedd croesawgar i bawb, yn arbennig ar ôl heriau’r blynyddoedd diwethaf.”
Am ragor o o wybodaeth, ewch i www.cambria.ac.uk a dilynwch @Cangen_Cambria ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ewch i www.colegcymraeg.ac.uk i ddysgu mwy am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, neu anfonwch e-bost at help.cymraeg@cambria.ac.uk.