Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

DSC_0534

Roedd MS Alun a Glannau Dyfrdwy Jack Sargeant yng Ngholeg Cambria ddoe i brofi’r ‘coridor bywyd gwyllt’ a’r ardd llesiant sydd wedi dod yn boblogaidd iawn gyda myfyrwyr a staff Glannau Dyfrdwy.

Dechreuodd dysgwyr Twf Swyddi Cymru+, staff ac aelodau o’r Academi Hyfforddeion Adeiladu weithio ar y safle 40 metr sgwâr flwyddyn yn ôl, gyda chefnogaeth Cadwch Gymru’n Daclus a’u prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Maent wedi cael nawdd gan fusnes lleol Monkey Lady Corporate Wear, ac wedi plannu mwy na 100 o goed, blodau gwyllt, a dolydd, 2000 o fylbiau brodorol, llwyni a rhagor.

Mae’r ardd yn edrych yn anhygoel yn ei blodau a bydd yn boblogaidd iawn yn ystod y flwyddyn academaidd yma.

“Mae’n wych gweld y gwaith mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ei hwyluso ar safle Coleg Cambria,” meddai Jack, sy’n dod o Gei Connah.

“Gall profi amgylchedd dysgu hamddenol a phleserus wella profiad myfyriwr yn fawr a dwi’n edrych ymlaen at weld yr ardd bywyd gwyllt yn datblygu.

“Mae’r prosiect yn rhoi cyfle gwych i fyfyrwyr sydd efallai ddim yn cael y cyfle i fynd i fannau gwyrdd gartref i gysylltu â natur a dysgu rhagor am dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain.

“Dyma un enghraifft yn unig o sut mae cyllid Llywodraeth Cymru drwy Cadwch Gymru’n Daclus o fudd i gymunedau wrth ddarparu lleoedd i fyd natur wrth wella’r amgylchedd lleol.”

Yn ogystal â thirlunio, bu’r dysgwyr hefyd yn adeiladu planwyr pren ac mae’r ardal wedi’i hadnewyddu yn cynnwys seddi, tŷ gwydr, mynediad i phobl sydd ag anableddau, porthwyr adar, blychau draenogod a gofod i bobl ymlacio, ac i diwtoriaid gynnal sesiynau dysgu awyr agored.

Roedd y cynorthwyydd dosbarth, Brian Valentine, yn sbardun i’r cynllun ac mae’n diolch i Cadwch Gymru’n Daclus am eu cymorth i drawsnewid darn o dir “gwag” yn ardd y gallant fod yn falch ohoni.

“Mae hyn wedi gwneud cymaint o wahaniaeth, yn enwedig i’r myfyrwyr ar ôl blynyddoedd o’r cyfnod clo, hunan-ynysu a’r heriau roedden nhw’n eu hwynebu yn ystod y pandemig,” meddai Brian.

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r canlyniad terfynol ac rydyn ni mor ddiolchgar am gefnogaeth Cadwch Gymru’n Daclus a phawb yma yn y coleg.”

Ychwanegodd Nicola Gaughran, Pennaeth Cynorthwyol Dysgu Sylfaen, SBA a Thwf Swyddi Cymru+: “Da iawn i bawb a fu’n ymwneud â chreu’r ardd wych yma, dwi’n siŵr y bydd yn darparu etifeddiaeth barhaus am lawer o flynyddoedd i ddod.

“Mae eisoes wedi bod yn hafan i ddysgwyr, ymwelwyr a staff ymlacio a mwynhau’r heddwch a’r tawelwch, a gan fod cymaint o natur yn ein milltir sgwâr bydd yn fuddiol fel ardal o gadwraeth i fywyd gwyllt – mae’n ofod anhygoel .”

Dywedodd Wendy Jones sef Swyddfa Prosiectau Sir y Fflint Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydyn ni wrth ein bodd i weld y gwahaniaeth gwirioneddol y mae Coleg Cambria wedi’i wneud trwy Leoedd Lleol ar gyfer Natur. Rydyn ni’n ymwybodol fod garddio a bod allan ymysg natur yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant meddyliol, yn ogystal â bod yn ffordd wych o gadw’n heini a chyfarfod â phobl newydd.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd cymunedau eraill yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan. Gwnewch gais am becyn am ddim i greu lle arbennig i natur a phobl ei fwynhau.”

Am ragor o wybodaeth ar brosiectau Cadwch Gymru’n Daclus ac i gefnogi’r sefydliad, ewch i’r wefan: https://keepwalestidy.cymru/cy/.

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost