Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Mae Eleri Turner yn mwynhau gyda Choleg Cambria a Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau, sef cynllun pum mlynedd wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri sy’n gwarchod ardal o Ogledd Eryri.

Mae Eleri sy’n 23 wedi bod yn gweithio gyda Cheidwad y Parc Abbie Edwards, ac mae’r ddwy ohonyn nhw’n dod o Fethesda – ac wedi bod ar bennod ddiweddar o’r rhaglen BBC, Countryfile.

Gwnaeth dros 6 miliwn o bobl wylio’r ddwy yn clirio eithin o amgylch cwt yr Oes Haearn sydd yn ôl y sôn dros 2,000 oed ar Foel Faban.

Mae Eleri wedi cadarnhau blwyddyn arall gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae hi’n gyffrous am yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol. Mae hi’n diolch i Cambria am ei helpu hi i wireddu ei huchelgeisiau.

“Dwi wedi mwynhau yn arw, yn enwedig yr ardal yma yn Eryri sydd mor agos i gartref,” meddai Eleri, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Tryfan, Bangor.

“Dwi’n edrych ymlaen at gael aros gyda’r adran cadwraeth a pharhau mewn swydd brentisiaeth bellach, gan fy mod i wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Dysgu yn y Gwaith gyda’r coleg.

“Oherwydd y pandemig mae’r rhan fwyaf o fy nysgu academaidd wedi bod ar-lein, ond roedd yn ddiddorol iawn, a chefais gyfle i gadw cofnod ar fy nhaith bersonol a’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud.”

Cymerodd Eleri ei chamau cyntaf ar ben Moel Faban, gan fod ei mam wedi mynd â hi yno i ddysgu cerdded pan oedd hi’n blentyn bach!

O hynny ymlaen roedd hi dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad gyda’r awyr agored, ac erbyn hyn dyma’r yrfa ddelfrydol iddi.

“Doeddwn i byth yn meddwl y buaswn i’n dal i fyw yn y pentref ar ôl gadael ysgol, ond dyma’r lle fwyaf hyfryd i wneud gwaith fel hyn a does unman yn debyg i gartref,” meddai hi.

“Mae cadwraeth yn bwysig iawn i mi, ac wrth gwrs mae’r rhan yma o’r byd mor arbennig, ond dwi’n cynllunio gwneud cymhwyster ysgol goedwig er mwyn i mi helpu i ddysgu rhagor i blant am y byd o’u cwmpas a’r amgylchedd.”

Wrth adfyfyrio ar ei phrofiad gyda Countryfile, ychwanegodd Eleri: “Roedd hi’n wych cael bod yn rhan o’r rhaglen ac yn gyffrous iawn gan roedd rhaid i mi siarad ac roedd angen iddyn nhw fy ffilmio i’n gweithio gyda’r cyflwynydd, gan ddangos iddyn nhw sut i glirio eithin.

“Yn fwy pwysig na dim, gwnaeth y rhaglen arddangos y prosiect arbennig yma, a dwi’n falch iawn o gael bod yn rhan ohono.”

Gwnaeth Rheolwr Dysgu yn y Gwaith Cambria sef Kate Muddiman longyfarch Eleri ar ei llwyddiant ac mae hi’n annog eraill i ystyried yr opsiwn i “ennill cyflog wrth ddysgu” ar brentisiaeth.

“Mae Eleri yn enghraifft ardderchog o rywun sy’n gwneud swydd mae’n ei charu wrth gydbwyso addysg a phrofiad,” meddai Kate.

“Mae hi wedi gwneud yn arbennig dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydyn ni’n dymuno pob lwc iddi yn y dyfodol.”

Dywedodd Beca Roberts sef Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned ar gyfer cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddaui: “Ers iddi ddechrau gyda ni llynedd mae Eleri wedi dod yn rhan amhrisiadwy o dîm cynllun y Carneddau.

“Mae ei swyddogaethau hi wedi amrywio o adeiladu micro-feithrinfa newydd sbon danlli, i arwain digwyddiadau gwirfoddoli, yr hyn oll mewn modd hyderus a phroffesiynol.

“Mae hi’n fodlon i dorchi ei llewys a mynd i’r afael ag unrhyw brosiect yn frwdfrydig, ac mae hi wedi cael cynnig swydd gyda thîm cadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar ôl gorffen y brentisiaeth.

“Rydyn ni’n falch iawn i weld ei chynnydd hi, ac rydyn ni’n gyffrous i weld ei gyrfa yn y sector cadwraeth yn datblygu.”

Am ragor o wybodaeth ar gynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, ewch i’r wefan: https://eryri.llyw.cymru/gwarchod/gwaith-cadwraeth/partneriaeth-tirwedd-y-carneddau/?switched=1&_gl=1*1fztpyx*_ga*MTQ1ODU4NzgzNi4xNjYzMjQ1NTg2*_ga_2SRYFPWD50*MTY2MzI0NTU4NS4xLjAuMTY2MzI0NTU4NS4wLjAuMA..

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld rhagor ar yr amrywiaeth eang o brentisiaethau, cyrsiau, a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost