Gwnaeth y sefydliad, sy’n cynrychioli diwydiannau ledled y DU, gynnal rownd Cymru yng Nghaerdydd i adnabod llwyddiannau cwmnïau ledled Cymru. Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i rownd derfynol y DU yn Llundain mis nesaf.
Gwnaeth Victoria Searle, sy’n Brentis Israddedig Peirianneg, gipio’r wobr Prentis Peirianneg: Gwobr Blwyddyn Olaf. Cafodd Victoria ei disgrifio gan y beirniaid fel “yr enillydd amlwg yn ei grŵp”.
Ychwanegodd y beirniaid: “Mae Victoria yn brentis ymroddedig a meddylgar iawn sydd â chymhelliant anhygoel ac sy’n gwybod beth mae’n rhaid iddi ei wneud er mwyn ffynnu mewn amgylchedd peirianneg. Mae hi’n dangos gwybodaeth ragorol, galluoedd technegol, a dawn.”
Yn y cyfamser, casglodd Jamie wobr Prentis Busnes: Blwyddyn Olaf. Mae Jamie yn Brentis Gradd mewn Datrysiadau Technoleg Ddigidol, cafodd ganmoliaeth am ei barodrwydd cyffredinol i fynd gam ymhellach.
Dywedodd y beirniaid: “Mae gan Jamie yrfa ragorol o’i flaen. Mae’n amlwg ei fod yn mwynhau’r hyn mae’n ei wneud, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld ei yrfa dros y blynyddoedd nesaf; Does dim dwywaith bydd Jamie yn arwain pobl yn y dyfodol agos.”
Mae Nick Tyson, Is-bennaeth Technoleg, Peirianneg ac Adeiladu yn Cambria, yn llongyfarch Victoria a Jamie ar eu llwyddiant ac yn dymuno’r gorau iddyn nhw yn rownd derfynol y DU.
Roedd hefyd yn canmol y prentis o Cambria, Ben Williams, a ddaeth yn ail yn y categori Prentis Peirianneg y Flwyddyn, a Grace Richards ar ei gwobr Seren sy’n Dod i’r Amlwg.
Ychwanegodd Janis Richards, Cyfarwyddwr Rhanbarth Make UK Cymru: “Mae’r gwobrau hyn yn dyst i’r cwmnïau a’r unigolion deinamig sy’n gweithio ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu.
“Mae’r sector yn parhau i fod wrth galon creu cyfoeth yng Nghymru ac, wrth i ni ailadeiladu ein heconomi, bydd dyfodol disglair i gwmnïau ac unigolion sy’n gwneud y mwyaf o’u dawn.”
Bydd rownd derfynol gwobrau Gweithgynhyrchu Made UK, sydd wedi’i noddi gan Sony Uk, yn cael ei chynnal yn Llundain ar 26 Ionawr.