Lansiwyd Sba Iâl gan Goleg Cambria ym mis Tachwedd sy’n ganolbwynt i’w Ganolfan Iechyd a Lles gwerth £14m ar Safle Iâl yn Wrecsam.
Mae hi wedi bod yn aeaf “eithriadol o brysur” i’r cyfleuster o’r radd flaenaf – sy’n cynnwys sauna, ystafell stêm, jacuzzi a bar bwyd iach – sydd wedi rhagori ar y disgwyliadau a’r targedau ar gyfer y tri mis cyntaf o fasnachu.
Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Masnachol Cambria, Maria Stevens y byddan nhw rŵan yn edrych ar recriwtio mwy o staff sy’n gymwys yn y diwydiant yn ogystal â phrentis i gadw i fyny gyda’r galw am wasanaethau masnachol fel triniaethau i’r corff a’r wyneb, tylino’r corff a mwy.
Mae diddordeb mawr wedi bod mewn ‘partïon pampro’ – neu ‘bartïon sba’ i blant a phobl ifanc yn eu harddegau ac mae cynlluniau i gyflogi myfyrwyr gyda’r nosau ac ar benwythnosau.
“Mae’r galw wedi bod yn anferthol ers y diwrnod cyntaf ac mae’r holl driniaethau a chyfleusterau wedi bod yn boblogaidd gyda’r cyhoedd – mae yna restr aros yn barod ar gyfer aelodaeth – ac o ganlyniad rydym yn edrych ar ddarparu rhagor o adnoddau i sicrhau fod ein cynnig yn cynnal ei safon o’r radd flaenaf” meddai Maria.
“Er ei fod yn gyfleuster addysg ac yn blatfform arbennig i fyfyrwyr ennill profiad gellir cymharu’r gwasanaeth a’r amgylchedd gydag unrhyw sba o safon uchel yn y rhanbarth sy’n agored a hygyrch a’r prisiau’n fforddiadwy.
“Mae’r adborth a’r adolygiadau am broffesiynoldeb staff a dysgwyr wedi bod yn wych yn ogystal â safon y cyfleusterau sy’n hyfryd i’w glywed yn enwedig gyda’r cyfleuster ond wedi bod ar agor am ychydig wythnosau.”
Mae Is-bennaeth Astudiaethau Technegol, Vicky Edwards wrth ei bodd gyda’r datblygiadau ar y safle ac yn ategu pwysigrwydd y ganolfan i addysg mewn Therapïau Harddwch a Chyflenwol ac addysg Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng ngogledd orllewin Cymru a thu hwnt.
“Mae cyflawni meincnod mor uchel mewn darparu a gwerthu masnachol yn anhygoel ac mae Sba Iâl wedi rhagori ar yr hyn y gwelwyd yn bosibl yn y flwyddyn gyntaf,” meddai.
“Mae ein disgwyliadau yn bositif ond realistig o ystyried ei fod mor newydd i’r sector academaidd a’r ddinas ond y mae pobl Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos wedi ymweld yn eu heidiau gan ddangos bod yna alw am y gwasanaeth.
“Mae hyn yn wych ar gyfer y myfyrwyr yn arbennig, maen nhw’n gweithio mewn sefydliad sy’n cynnig profiad go iawn o’r byd gwaith gyda chwsmeriaid ac arbenigwyr yn y diwydiant ac yn defnyddio cynnyrch, offer a thechnoleg o’r radd flaenaf – ni allwch efelychu hynny yn yr ystafell ddosbarth.”
Ychwanegodd Sarah Edwards, Rheolwr Masnachol Gwallt a Harddwch: “Mae Sba Iâl yn esiampl o ragoriaeth mewn addysg a’r diwydiant ac mae budd amlwg o gyfuno’r ddau.
“Mae gweld ein gweledigaeth yn cael ei wireddu fel realiti yn anhygoel, ond mae’r ymateb gan y cyhoedd yn coroni’r cyfan.
“O safbwynt masnachol ac academaidd mae’r sba ar frig y don ac mae’r gorau eto i ddod – dim ond megis dechrau yw hyn.”
I archebu triniaeth – Home – Ial Spa Wrexham neu i gael mwy o wybodaeth ar aelodaeth neu gynigion arbennig ewch i’r wefan a dilyn @ialspawrexham ar gyfryngau cymdeithasol.
I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf ar Goleg Cambria, dilynwch nhw ar gyfryngau cymdeithasol ac ewch i’r wefan fan hyn: www.cambria.ac.uk.