Background Splash

Gan Alex Stockton

sophiecymraeg2

Dechreuodd Sophie, o Drelawnyd, ddysgu Cymraeg gyda Choleg Cambria dim ond bedair blynedd yn ôl pan ymunodd â dosbarth canolradd yn Nhreffynnon.

Gwnaeth y fam i ddau, sy’n rhedeg fferm laeth brysur gyda’i gŵr Emlyn, gynnydd cyflym mewn cyfnod byr o amser.

Yn sgil hyn, enillodd Sophie Gadair y Dysgwyr yn Eisteddfod y Gogledd Ddwyrain eleni, ac yna Cadair y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngwynedd yn ystod yr haf!

I nodi Wythnos Addysg Oedolion, anogodd eraill i ddilyn eu breuddwydion a pheidio â gadael i unrhyw beth fod yn rhwystr.

“Fe wnes i ddysgu ychydig o Gymraeg yn yr ysgol wrth dyfu fyny yn Sir Benfro ond mi wnes i golli’r iaith yn eithaf buan wedyn gan ein bod ni’n siarad Saesneg adref ac wedyn mi wnes i dreulio deng mlynedd yn byw yn Lloegr ar gyfer y brifysgol a gwaith,” meddai Sophie.

“Wrth symud i’r Gogledd gyda fy ngŵr, mi wnes i benderfynu ail-afael yn y Gymraeg fel rhywbeth ar gyfer fi fy hun ac i gyfarfod â phobl newydd.

“Roedd y dosbarth mor neis, roedd pawb yn gyfeillgar a chroesawgar, ac roedd fy nhiwtor Eilir Jones yn gwneud dysgu yn gymaint o hwyl ac wedi fy helpu i fagu llawer o hyder. Mae Eilir yn diwtor gwych, ac rydw i’n ddiolchgar iawn am ei gefnogaeth.”

Dywedodd hefyd: “Yn 2020, dechreuais y cwrs Cymraeg Uwch 1 gyda Cambria ond ar-lein y tro hwn gyda thiwtor arbennig o’r enw Non Lewis Edwards. Roedd yn grŵp hyfryd, ac roedd yn fendigedig cael dosbarth i fynd iddo’n wythnosol yn ystod pandemig Covid-19.

“Mi wnes i ddysgu gymaint y flwyddyn honno, a gwneud ffrindiau dros Brydain i gyd ac un o Sbaen hyd yn oed! Roedd yn ddosbarth mor gefnogol, ac roedden ni’n cael ein hannog i rannu ffyrdd newydd o ddefnyddio ein Cymraeg er pleser.

“Mi wnaeth hyn fy annog i i ddefnyddio fy Nghymraeg bob dydd trwy wrando ar bodlediadau, darllen llyfrau ac ysgrifennu’n greadigol yn Gymraeg hefyd.”

Aeth Sophie ymlaen i gwblhau cwrs Hyfedredd ar-lein gyda’r tiwtor Catrin Jones a hyd yn oed wedi dechrau dau ddosbarth Hyfedredd newydd, i gyd gyda Cambria.

Mae’n hapus iawn gyda’i chynnydd mewn cyfnod mor fyr, ond ni ddychmygodd hi erioed y byddai’n ennill teitlau Eisteddfodol mor fawreddog.

Canmolwyd ei cherdd ysbrydoledig Glannau gan y cyflwynydd teledu a’r bardd enwog Ifor ap Glyn am ddefnyddio’r cefnfor fel trosiad ar gyfer iechyd meddwl.

“Roedd yn llawer o hwyl mynd i’r Eisteddfod, ac roedd yn bleser cyfarfod ag Ifor,” meddai Sophie.

“Dydw i dal yn methu coelio’r holl bethau gwych oedd ganddo i’w dweud am fy ngherdd yn ystod y seremoni, roedd yn brofiad ffantastig.”

Dywedodd hefyd: “Dwi mor falch mod i wedi penderfynu dysgu Cymraeg gyda Cambria a dwi wedi ennill cymaint mwy na dim ond sgil newydd.

“Dwi wedi cyfarfod ffrindiau gwych a thiwtoriaid angerddol, yr hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth ac am wneud y dysgu mor hwyl. Dwi hefyd wedi dod o hyd i angerdd newydd am ysgrifennu yn Gymraeg.

“Diolch i’r holl bobl wych yna, a’r cariad a chefnogaeth gan deulu a ffrindiau, dwi wedi cael yr hyder i rannu fy ysgrifennu yn Gymraeg.

“Mae dwy o fy ngherddi bellach wedi’u cyhoeddi yn Ffosfforws (Cyhoeddiadau’r Stamp) ac rydw i wedi cyhoeddi stori fer yn Curiadau (Barddas).

“Dwi wedi teimlo cymaint o groeso i’r gymuned wych o siaradwyr Cymraeg a dwi’n edrych ymlaen at barhau i ddysgu mwy gyda Cambria.”

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn cael ei chydlynu gan y Sefydliad Addysg a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Trwy gydol mis Medi, bydd yr ymgyrch flynyddol yn annog pobl ledled Cymru i ddarganfod eu hangerdd a pharhau i ddysgu.

Ar wefan Cymru’n Gweithio (www.cymrungweithio.llyw.cymru), bydd cannoedd o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb am ddim, yn ogystal â sesiynau rhagflas, cyrsiau ac adnoddau ar gael gyda chyngor ac arweiniad am lwybrau a chymorth sydd ar gael fel ail-hyfforddi, Cyfrifon Dysgu Personol, gofal plant a diswyddo.

Bydd Cambria yn cynnal sesiynau galw heibio i unrhyw un sydd â diddordeb mewn addysg oedolion trwy gydol yr wythnos hon: dydd Mawrth yng Nghanolfan Gymunedol Pengwern yn Llangollen rhwng 10am a 12pm; dydd Mercher yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt rhwng 12.30pm a 2.30pm; a Neuadd Gymunedol Brynteg ddydd Iau rhwng 2.30pm a 4.30pm.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost