Amanda Ellis, tiwtor blodeuwriaeth sy’n arwain y tîm o bum myfyriwr blodeuwriaeth a fydd yn arddangos eu sgiliau yn Adeilad Arddangos Canolog Manceinion ddydd Sadwrn 9 Medi er mwyn ceisio cael eu coroni’n Dîm Myfyrwyr y Flwyddyn Interflora.
Bydd gwerthwyr blodau Coleg Cambria – Hannah Jones, Tracey Davies, Emma Howells, Bethann Owen a Beth William – yn cystadlu yn erbyn timau o bedwar coleg arall.
Bydd ganddyn nhw 50 munud yn unig i greu gwenynen weithgar enfawr – symbol Manceinion – gyda blodau a dail. Dyma dasg a fydd yn profi eu sgiliau yn wirioneddol, gwthio ffiniau, ac annog creadigrwydd ac arloesedd i flaguro.
Bydd y Gystadleuaeth Tîm i Fyfyrwyr yn cael ei chynnal ar drydydd diwrnod digwyddiad Cwpan y Byd Interflora, sy’n cael ei gynnal yn y DU am y tro cyntaf ers iddo ddechrau yn 1972.
Mae’r Cwpan y Byd yn gyfle i werthwyr blodau elît o hyd a lled y byd i arddangos eu doniau rhagorol. Gyda llygaid y byd blodau ar Fanceinion ym mis Medi 2023, y gobaith yw y bydd y Gystadleuaeth Tîm i Fyfyrwyr yn ysbrydoli ein cenhedlaeth nesaf o werthwyr blodau.
Am y tro cyntaf, mae Interflora wedi dewis ehangu’r digwyddiad i greu profiad rhagorol i ymwelwyr, gan gynnwys y cyhoedd. Yn y digwyddiad bydd stondinau artisan gyda bwyd, diod a siopa, yn ogystal â gweithdai ac adloniant.
Mae Interflora yn dathlu eu pen-blwydd yn 100 oed yn 2023 a bydd y digwyddiad yn rhan o’u dathliadau canmlwyddiant.
Mae tocynnau ar gyfer digwyddiad Cwpan y Byd, gan gynnwys y Gystadleuaeth Tîm i Fyfyrwyr ar ddydd Sadwrn 9 Medi, ar gael yma Tocynnau – Cwpan y Byd Interflora