Bydd y coleg – sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain – yn cystadlu yng Ngwobr y British Council am Ragoriaeth mewn Gwaith Rhyngwladol yng nghategori Beacon Sefydliad y Colegau (AoC).
Cafodd Cambria eu canmol am eu gwaith ym myd addysg ar y llwyfan rhyngwladol; mae’r anrhydedd yn ymwneud ag ymweliad gan fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 a Lefel 3 â Fietnam y llynedd, lle roedden nhw’n treulio pythefnos gyda merched mewn canolfan cymorth cymdeithasol a myfyrwyr mewn ysgolion cynradd lleol, gan gyflwyno gweithdai ar Saesneg sgyrsiol a’r Gymraeg.
Cafodd y daith ei threfnu gan Lisa Radcliffe, Pennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Technegol yng Nglannau Dyfrdwy, mewn partneriaeth â Challenges Abroad, sy’n cyflwyno ac yn arwain anturiaethau moesegol i bobl ifanc ledled y byd, gyda chyllid yn cael ei ddarparu gan Gynllun Turing Adran Addysg Llywodraeth y DU.
Dywedodd Lisa y bydd y “cyfle anhygoel” yn arwain at berthynas hirsefydlog rhwng y coleg a’r cymunedau wnaethon nhw ymweld â nhw mewn ardaloedd gan gynnwys Ho Chi Minh a Mekong Delta.
Wrth adfyfyrio ar y profiad, dywedodd: “Cambria oedd y coleg cyntaf i gymryd rhan ar raglen beilot Challenges Abroad Fietnam, felly roedd yn fraint enfawr.
“Roedd ein hamser ni yno, yn enwedig yng nghanolfan y merched, yn agoriad llygad go iawn. Bydd y rhaglen yma’n parhau i ddatblygu a chyflwyno sgiliau bywyd hanfodol i helpu’r merched yma i ddod yn fwy annibynnol a gobeithio y byddan nhw’n mynd ymlaen i gael teuluoedd a gyrfaoedd eu hunain.
“Roedd yn emosiynol iawn i’r dysgwyr ond hefyd fe wnaeth fagu eu hyder a dangos ochr arall i iechyd a gofal cymdeithasol iddyn nhw.”
Ychwanegodd: “Mae cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Beacon AoC yn anrhydedd fawr ac mae’n atgyfnerthu ein penderfyniad a’n hymrwymiad ni i roi cyfleoedd i’n dysgwyr ar y llwyfan rhyngwladol wrth barhau i gefnogi a chreu partneriaethau newydd gyda chymunedau ledled y byd.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cambria, Yana Williams, fod ffocws y coleg ar amrywiaeth a chynhwysiant yn “flaenoriaeth allweddol” i staff a dysgwyr a dywedodd: “Mae cael ein cydnabod unwaith eto gan yr AoC yn anrhydedd, roedd hwn yn brofiad anhygoel ac yn agoriad llygad i’n myfyrwyr a’n staff ac yn arwain y ffordd ar gyfer prosiectau a lleoliadau eraill gyda’n partneriaid byd-eang.”
Bydd aseswyr annibynnol yn ymweld â phob enwebai cyn cyhoeddi’r enillwyr mewn seremoni fis Mawrth nesaf.
Am ragor o wybodaeth am Wobrau Beacon AoC, ewch i Wobrau Beacon 2024/25 | Cymdeithas y Colegau.
Fel arall, dilynwch @nfcdiversity a @aoc_info ar gyfryngau cymdeithasol a defnyddiwch yr hashnodau #AoCBeacons a #LoveOurColleges.
Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.