Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

cardenpark1

Mae’r Ystâd sydd wedi’i lleoli yn Swydd Gaer – mae’n cynnwys gwesty sydd wedi ennill gwobrau, sba a chwrs golff. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Cambria fel rhan o’i Raglen Hyfforddai Rheolwyr.

Gall prentisiaid gyflawni Tystysgrifau lefel 2 a Lefel 3 mewn Gweithredoedd Lletygarwch Trwyddedig gyda’r coleg – sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi – wrth ennill profiad gwerthfawr, cyflog cystadleuol, cymorth proffesiynol a mentora a llety os oes angen.

Dywedodd Kate Muddiman, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith yng Ngholeg Cambria, bod y cyfle i ddysgu gan staff ar y safle moethus 1,000 erw yn apelio at ddarpar ymgeiswyr.

“Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn y rhaglen yn ystod cyfnod lle mae’r diwydiant lletygarwch yn ceisio adfer yn sgil y pandemig,” meddai Kate.

“Mae hyder yn tyfu yn y diwydiant lletygarwch ac mae yna gyfleoedd gyrfa rhagorol yn y sector yma. Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi ymuno â Carden Park – un o’r lleoliadau blaenaf yn y wlad – i helpu i ddatblygu rheolwyr lletygarwch y dyfodol.”

Mae Rheolwr AD Carden Park sef Becki Newton-Chesters yn cytuno â hyn.

“Mae’r Rhaglen Hyfforddai Rheolwyr yn rhywbeth rydyn ni’n falch iawn ohoni yn Carden Park, mae’n helpu i osod y sylfeini o ran gwybodaeth lletygarwch, mewnwelediad a phrofiad i’r rhai sydd eisiau gyrfa yn y maes,” meddai hi.

“Bydd yr hyfforddai rheolwyr ar y cwrs yn profi pob agwedd o Carden Park, sydd ochr yn ochr â’u cymwysterau sydd wedi’u cyflwyno trwy Goleg Cambria sy’n ategu gwybodaeth ymarferol â gwybodaeth ddamcaniaethol.

“Maen nhw’n rhan annatod o’n tîm, ac rydyn ni’n gyffrous iawn i’w gweld nhw’n parhau i ffynnu wrth iddyn nhw symud ymlaen trwy’r rhaglen.”

Ymhlith y dysgwyr cyntaf sydd wedi ymuno â’r cynllun mae Elliot Scragg, 19, o Wrecsam; Lauren Nicholls, 18, o Wrecsam; Oscar Boulton, 20 o Gaer; Niamh Roberts, 25, Ellesmere Port; Harry Walsh, 23 , o Gaer, a Laura Thickens, 24, o Wrecsam.

Fel grŵp maent yn mwynhau’r lleoliad gwaith dwy flynedd ac yn hyderus y bydd yn rhoi hwb i’w gyrfaoedd.

Dywedodd Elliot: “Mae’n lle hyfryd i weithio ac mae wedi bod yn hollol wych, dwi’n cael mewnwelediad go iawn ac mae’n rhoi blas i ni o sut beth yw dyfodol yn y diwydiant.”

Ychwanegodd Niamh: “Mae’n ymarferol iawn ac mae gweithio mewn adrannau gwahanol yn rhoi gwahanol ddulliau hyfforddi i chi a chyfle i dyfu mewn hyder, datblygu eich sgiliau a mynd i’r afael â sefyllfaoedd o’r byd go iawn.”

Mae Harry wedi gweithio i Carden Park ers dros chwe blynedd a byddai wrth ei fodd yn treulio rhagor o flynyddoedd ar yr ochr reoli.

“Mae gweithio mewn gwahanol feysydd yn y busnes yn rhagorol, o gyllid i farchnata, digwyddiadau a rhagor, mae’r profiad yn amhrisiadwy a does dim lle gwell i ddysgu.”

Ychwanegodd Lauren: “Dyma’r pwynt dechrau gorau i ni, rydyn ni’n mireinio’n sgiliau yn Carden Park wrth ennill cymhwyster o Goleg Cambria, sydd yma bob wythnos i gyflwyno ochr addysg y rhaglen.

“Rydyn ni’n angerddol am y diwydiant ac yn edrych ymlaen at weld yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol.”

Yn ogystal â hyfforddai rheoli, mae gan Cambria ddysgwyr ar safle mewn meysydd eraill, gan gynnwys cadw griniau a choginio.

Ewch i www.cardenpark.co.uk/management-trainee-programme i ddarganfod rhagor am y Rhaglen Hyfforddai Rheoli yn Carden Park.

I weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost