Background Splash

Gan Alex Stockton

CelynJones

Bydd cyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd St Joseph’s yn mynd ymlaen i astudio graddau Busnes a Marchnata yn y brifysgol ar ôl dwy flynedd yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam.

Cafodd Ruby A* mewn Astudiaethau Busnes, A mewn Hanes, B mewn Llenyddiaeth Saesneg a Bagloriaeth Cymru (Her Sgiliau).

Nesaf bydd yn dechrau gradd mewn Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Birmingham, gyda blwyddyn ar leoliad gwaith yn y diwydiant.

“Dydw i ddim yn 100% yn siŵr beth dwi eisiau ei wneud gyda fy ngyrfa eto, efallai swyddog gweithredol sy’n gweithio ym maes ecwiti preifat neu ymgynghori ar strategaeth. Am y tro dwi wrth fy modd yn dechrau’r bennod newydd hon yn fy mywyd,” meddai Ruby.

“Dwi eisiau diolch i fy narlithwyr yn Cambria, y gwnaeth eu cefnogaeth a’u hymroddiad fy helpu i baratoi ar gyfer y cymwysterau Safon Uwch hyd eithaf fy ngallu.

“Gwnaeth y coleg chwarae rhan fawr wrth ddatblygu fy annibyniaeth, a menter, a fydd yn sicr o gymorth yn fy astudiaethau yn y dyfodol.”

Hefyd cafodd Celyn B mewn Astudiaethau Busnes, B mewn Celf a B mewn Mathemateg a nesaf bydd yn mynd i Brifysgol Caerwrangon i astudio am radd mewn Marchnata Digidol.

Ei breuddwyd yw gweithio ym maes rheoli marchnata mewn asiantaeth greadigol yn Ffrainc.

“Dwi mor hapus gyda fy nghanlyniadau a dwi eisiau diolch i Goleg Cambria, mae pawb wedi bod yn wych ac roedd y gefnogaeth a gefais gan ddarlithwyr a staff yn anhygoel bob amser,” meddai Celyn.

“Dwi eisiau diolch yn arbennig i fy nhiwtor Busnes Mel Henry am ei harweiniad, o ddechrau’r cwrs yr holl ffordd hyd at y diwedd. Mae fy nghymhelliant parhaus a’m canlyniadau yn llawer i’w gwneud â hi – diolch!”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost