Bydd cyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd St Joseph’s yn mynd ymlaen i astudio graddau Busnes a Marchnata yn y brifysgol ar ôl dwy flynedd yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam.
Cafodd Ruby A* mewn Astudiaethau Busnes, A mewn Hanes, B mewn Llenyddiaeth Saesneg a Bagloriaeth Cymru (Her Sgiliau).
Mae Mirain, Elin ac Abbie wedi llwyddo i sicrhau tair allan o 40 ysgoloriaeth i astudio’r radd ym Mangor, wedi iddyn nhw ragori yn eu harholiadau mynediad.
Maen nhw’n edrych ymlaen at ymuno â’r proffesiwn addysgu yn y dyfodol.
“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n ceisio annog y genhedlaeth ieuengaf am yr iaith a’r diwylliant sy’n dod gyda bod yn Gymraeg,” meddai Abbie, o Wrecsam, cyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd.
Ychwanegodd Mirain, o Ruthun, cyn-ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd: “Dwi’n sicr yn teimlo ei fod yn fwy pwysig nag erioed bod y swyddi addysgu yma yn cael eu llenwi er mwyn pasio’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf ac i ddatblygu addysg Gymraeg, er mwyn iddyn nhw gael yr un cyfleoedd â ni.”
Mae Lisa o Lyndyfrdwy yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Dinas Bran Llangollen, ac Elin, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam, yn diolch i ddarlithwyr yn y coleg am eu harwain a’u hysbrydoli nhw i ddilyn y llwybr yma.
“Dwi’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi fy nghefnogi a fy helpu dros i ddwy flynedd diwethaf,” meddai Lisa.
“Dwi’n gyffrous i ddechrau’r daith newydd yma ochr yn ochr â fy ffrindiau a dwi’n edrych ymlaen at gyfarfod rhai newydd yn y brifysgol.”
Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bwrsariaeth £5,000 a fydd ar gael i athrawon sydd wedi ennill Statws Athro/Athrawes Cymwys o fis Awst 2020 ymlaen, ac sydd wedi cwblhau tair blynedd o addysgu Cymraeg neu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y fwrsariaeth ar gael i ddechrau tan Hydref 2028 i asesu ei lwyddiant wrth annog athrawon i ymuno â’r proffesiwn ac aros ynddo.