“Mae wedi gwneud i mi deimlo fy mod i’n gallu siarad efo rhywun, a dwi wedi dysgu peidio â photelu fy nheimladau. Dwi’n teimlo llai o straen ac yn llai gobryderus.”
Daw’r geiriau o’r galon hyn gan un o fwy na 300 o unigolion sydd wedi manteisio ar y rhaglen Camau Cefnogol, menter iechyd meddwl a llesiant dan arweiniad Coleg Cambria mewn cydweithrediad â Chyngor Sir y Fflint.
Wedi’i ariannu gyda £767,381 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF), mae’r prosiect trawsnewidiol hwn yn darparu cymorth hanfodol i fyfyrwyr sy’n cael trafferth gyda heriau sy’n effeithio ar eu haddysg.
Trwy’r bartneriaeth, mae ystod o adnoddau wedi’u rhoi ar waith, gan gynnwys anogwyr gwydnwch, cynghorwyr llesiant, a gwasanaethau penodol i fyfyrwyr, ynghyd ag atgyfeiriadau at gwnselwyr allanol. Mae’r ymyriadau hyn wedi arwain at 910 o sesiynau cymorth unigol a chyfradd gadw nodedig o 92% ymhlith dysgwyr yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24.
Rhannodd un o’r 287 o fyfyrwyr a lwyddodd i gwblhau eu cwrs eu profiad: “Fe wnes i chwilio am gymorth oherwydd gorbryder a straen wedi’u hachosi gan eraill a gorfeddwl pethau bach. Fe wnaeth y Gwasanaethau Myfyrwyr fy atgyfeirio at anogwr gwydnwch, sydd wedi fy nysgu i weld pethau o wahanol safbwyntiau, magu hyder, a chydnabod fy ngwerth fy hun.”
“Diolch i’r cymorth, dwi’n teimlo’n fwy cadarnhaol ac yn gallu bod yn agored efo fy nheulu am sut dwi’n teimlo. Dwi hyd yn oed wedi dechrau defnyddio’r bws eto ar ôl ei osgoi am amser hir oherwydd digwyddiadau cysylltiedig â’r coleg.”
Mae Camau Cefnogol wedi profi i fod yn achubiaeth i lawer, gan gynnig ymyriadau wedi’u teilwra sy’n mynd i’r afael â heriau penodol wrth arfogi myfyrwyr ag offer i reoli eu hiechyd meddwl a’u llesiant.
Mynegodd Bethan Charles, Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr Coleg Cambria, ei gwerthfawrogiad am y cyllid a’i effaith:
“Mae ein tîm wedi gweithio’n ddiflino i sefydlu rhwydwaith o gymorth sy’n diwallu anghenion unigryw ein dysgwyr. Mae’r gwahaniaeth y mae’r rhaglen hon wedi’i wneud yn amlwg yn y cyfraddau cadw a llwyddo, yn ogystal â thwf personol y rhai rydyn ni wedi’u cefnogi.”
Amlygodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Economi, yr Amgylchedd a’r Hinsawdd, bwysigrwydd rhanbarthol y rhaglen: “Mae Camau Cefnogol yn enghraifft wych o sut mae’r UKSPF yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn Sir y Fflint. Gyda thros 300 o ddysgwyr yn manteisio ar yr adnodd hanfodol hwn, ni ellir gorbwysleisio ei effaith ar iechyd meddwl a datblygiad addysgol pobl ifanc.
“Mae’r cydweithrediad hwn rhwng Cyngor Sir y Fflint a Choleg Cambria yn dangos pŵer partneriaeth wrth fynd i’r afael â heriau go iawn a sicrhau canlyniadau ystyrlon.”
Mae llwyddiant Camau Cefnogol yn tanlinellu arwyddocâd buddsoddi mewn llesiant myfyrwyr, gan sicrhau bod pobl ifanc yn Sir y Fflint yn cael eu cefnogi yn eu teithiau addysgol a thu hwnt.