Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Golden girl Jess Pritchard rode to victory in a prestigious equestrian competition

Enillodd y fyfyrwraig o Goleg Cambria y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Hyweddu Paralympaidd Gradd Tri yn Arena Ryngwladol Addington.

Yn cynrychioli Team GB, dywedodd Jess – Dysgwr Mynediad Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid, sydd wedi’i leoli yn Llaneurgain – mai dyma fuddugoliaeth fwyaf ei bywyd.

Cwblhaodd y ferch 17 oed o Sir Gaer, a’i cheffyl, Ted, nifer o heriau gan gynnwys cylch 20m perffaith, gweithgareddau llinell ganol a ‘trot-ups’, gyda thasgau “mwy cymhleth” bob dydd.

“Roedd yn dridiau dwys o brofion a marchogaeth, felly rydw i’n falch iawn o fod wedi dod yn gyntaf,” meddai.

“Roedd ‘na farchogion yno o bob cwr o’r byd a phobl yn gwylio adre drwy’r rhyngrwyd, felly roeddwn i ar bigau’r drain braidd – yn enwedig gan fod yna oedi munud olaf pan o’n i fod i ddechrau! – ond fe wnes i lwyddo i gadw ‘mhen a chael sgoriau da.”

Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Dorin Park yng Nghaer, ychwanegodd Jess: “Rydw i’n ymarfer gartre ac yn gobeithio parhau i wella fy ngradd. Fy mreuddwyd yn y pen draw yw cynrychioli Prydain Fawr un diwrnod yn y Gemau Olympaidd – rydw i’n mynd i ddal ati i weithio’n galed i gyrraedd yno.

“Rydw i wedi ennill gwobrau a medalau o’r blaen, ond dyma’r un fwyaf eto, felly mae’n fy llenwi â hyder ar gyfer y dyfodol.

“Yn y pen draw, byddwn i wrth fy modd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd, ond fe hoffwn i hefyd helpu plant anabl i ddysgu sut i farchogaeth. Rydw i’n ffodus ‘mod i wedi cael fy magu o amgylch ceffylau, felly rydw i’n credu y byddai hynny’n rhoi llawer o foddhad.”

Mae Jess, sydd â pharlys yr ymennydd ac epilepsi, yn bwriadu marchogaeth ei cheffyl arall, Cheerio, mewn cystadlaethau arfaethedig, gyda chefnogaeth ei mam Shelly, sydd hefyd yn ei hyfforddi.

Cafodd Jess ei llongyfarch gan Allison Hillier-Jones, Anogwr Cynnydd ar gyfer Lefel Mynediad a Sylfaen yn Llaneurgain, am ei “champ ryfeddol”.

“Mae Jess yn ddysgwr ysbrydoledig a dim ond ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad y dywedodd hi wrthym ni ei bod hi’n marchogaeth gyda Team GB! Roedd yn gwbl annisgwyl ac roedden ni’n falch iawn drosti,” meddai Allison.

“Mae ei thraed hi’n gadarn ar y ddaear ac eto mae hi mor frwdfrydig a dawnus, rydyn ni’n wirioneddol falch o Jess a’i llwyddiant.”

I gael y newyddion a’r wybodaeth diweddaraf am Coleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost