Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

ILSteambuild3

Cymerodd y dysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) o safle Llaneurgain ran mewn sesiynau amrywiol a gynlluniwyd i wella iechyd a llesiant, hybu hyder ac atgyfnerthu cyfeillgarwch.

Mynychwyd y rhaglen, a drefnwyd gan Cambria Heini, Menter Myfyrwyr a’r Llais Myfyrwyr, gan un ar bymtheg o gynrychiolwyr myfyrwyr SBA.

Canmolodd Robert Jones, Swyddog Ymgysylltu Llais Myfyrwyr, y grŵp am gofleidio’r diwrnod, a gynhaliwyd ar safle Cambria yng Nglannau Dyfrdwy.

Ychwanegodd: “Rydyn ni mor falch o’r grŵp. Roedd hi’n gyfres lwyddiannus o weithgareddau ac fe wnaethon nhw ymgymryd â phob her!

“Yn ogystal â chwaraeon a gemau fe wnaethon nhw roi cynnig ar ioga, celf, a chrefftau menter, ac yn y prynhawn cafwyd trafodaeth am faterion amserol gan gynnwys a ddylai ysgolion roi gwaith cartref i ddysgwyr.

“Roedd llawer ohonyn nhw’n nerfus iawn i ddechrau ond buan y daethon nhw o hyd i’w llais a magu hyder. Fe wnaethon nhw hyd yn oed mynd ar y llwyfan i siarad â meicroffon a chyflwyno eu pwyntiau i weddill y grwpiau – fe wnaethon nhw’n wych.”

Mark added: “We were so glad to be able to support this team building and assist the students in raising their voices – it was a great day.” 

Am ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth eang o gyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol sydd ar gael yng Ngholeg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk/adults/subject-areas-2/independent-living-skills. Fel arall, dilynwch @ilsnorthop ar y cyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost