Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Top performing Tilhill Forestry Diploma student celebrated with award

Mae Armon Edwards wedi ennill y wobr ‘Myfyriwr sydd wedi Perfformio Orau’ ar Ddiploma Estynedig Lefel 3 Tilhill Forestry mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth yng Ngholeg Cambria Llysfasi, am adroddiad prosiect gorau’r flwyddyn a oedd yn edrych ar y potensial i bweru peiriannau coedwig gyda batris, a thanwydd amgen eraill.

Ers dechrau’r cwrs, mae Armon, enillwr y wobr, wedi gwasanaethu fel cynrychiolydd cyngor safle myfyrwyr a cholegau, gan ennill parch myfyrwyr a staff yn y broses. Mae wedi ymgysylltu’n barhaus â’r cwrs drwy wirfoddoli gyda diwrnodau agored ac arddangosiadau ar benwythnosau, ochr yn ochr â gwirfoddoli i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, lle cwblhaodd ei leoliad profiad gwaith.

I ddathlu ei gyflawniad, fe gafodd Armon dlws pren wedi’i gerfio’n arbennig ynghyd â gwerth £250 o dalebau. Cafodd y wobr ei chyflwyno gan Simon Miller, Rheolwr Ardal Gogledd Cymru Tilhill Forestry, ochr yn ochr â darlithydd Coleg Cambria, Andy White, yng nghyfarfod Is-adran y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol (RFS), a gafodd ei gynnal yn Ystâd Penarlâg.

Wrth gael ei gyflwyno ar gyfer y wobr, dywedodd Armon:

“Dwi’n falch fy mod i wedi ennill y wobr, gan ei fod yn ymgorfforiad ac yn arddangosiad o’r gwaith a wnes i dan arweiniad darlithwyr a chynorthwywyr dysgu profiadol yng Ngholeg Cambria Llysfasi. Dwi’n ddiolchgar am y cyfle y maen nhw wedi’i roi i mi a dwi’n edrych ymlaen at beth sydd i ddod yn fy nyfodol.”

“Fe ges i fy nghyfeirio at gwrs Diploma Tilhill gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ac ro’n i eisiau dilyn hyfforddiant ar gyfer defnyddio peiriannau yn ddiogel trwy’r gadwyn gyflenwi, felly fe wnes i fachu’r cyfle.

“Dwi wedi bod ar brofiad gwaith yn barod gyda thîm Cymru a’r Gororau yn swyddfa Tilhill Forestry Bala, yn amrywio o geisiadau cynllunio i gynaeafu a gwaith arolygu o fewn eiddo cleientiaid, a dwi’n bwriadu gweithio ym maes rheoli coedwigoedd a choetiroedd.

Dywedodd Andy White, cydlynydd Diploma Tilhill yn Llysfasi: “Mae Armon wedi cynhyrchu gwaith i’r safonau uchaf yn gyson trwy gydol ei gwrs lefel 3 mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth. Mae ei berfformiad mewn sgiliau ymarferol a chyflawniad academaidd wedi bod yn rhagorol, yn enwedig gan ei fod wedi gorfod cydbwyso gwaith coleg â phrofiad gwaith a gweithredu fel gofalwr. “Mae Armon yn ystyriol iawn, ac mae wedi dangos gofal, parch ac amynedd mawr wrth gefnogi ac annog myfyrwyr eraill, ar ei gwrs ac ar draws y safle. Mae hefyd wedi gwneud defnydd da o’i gymwysterau peirianneg blaenorol wrth ddefnyddio ei sgiliau yn ei brosiect ymchwiliol, gan edrych ar y potensial i bweru peiriannau coedwig gyda batris a thanwydd amgen eraill, dyma adroddiad prosiect gorau’r flwyddyn.”

Dywedodd Simon Miller, Rheolwr Ardal Gogledd Cymru Tilhill Forestry, wrth gyflwyno’r wobr: “Mae’n bleser llwyr cyflwyno’r wobr hon i Armon, mae’n amlwg ei fod yn fyfyriwr gweithgar a brwdfrydig, gyda dyfodol disglair mewn coedwigaeth. Mae Tilhill Forestry yn gweithio’n barhaus i gynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr talentog fel Armon ddilyn gyrfa mewn coedwigaeth.

“Mae Diploma Tilhill mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth, yn rhan o bartneriaeth unigryw rhwng Coleg Cambria Llysfasi a Tilhill Forestry, sydd wedi’i gynllunio’n arbennig i uwchsgilio pobl yng Nghymru ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn coedwigaeth. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i helpu myfyrwyr i ddod yn barod ar gyfer cyflogaeth ac mae’n llwybr rhagorol cyn gwneud cais am ein rhaglen i raddedigion. Dwi’n dymuno pob lwc i Armon a gobeithio y bydd yn profi gyrfa hir a llwyddiannus ym myd coedwigaeth.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan; https://www.tilhill.com/about-us/tilhill-diploma/

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost