Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

AliceChurm2

Datgelodd y Cydlynydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth newydd, Alice Churm, gynllun gweithredu dwy flynedd sy’n canolbwyntio ar wella mwy ar gysylltiadau cymunedol, ymgysylltu â dysgwyr a staff, ac ymgyrchu dros goleg mwy cyfartal a chynhwysol i bawb.

Wedi’i lleoli ar safle Iâl yn Wrecsam ond yn cefnogi pob safle, mae’r cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Argoed a Choleg Cambria – a fu’n gweithio mewn undebau myfyrwyr ym mhrifysgolion Rhydychen, Warwick a Lerpwl – eisiau ymgysylltu â chymunedau amrywiol drwy’r rhanbarth ac adeiladu ar ei ddiwylliant cynhwysol.

“Yn fy swyddi gyda phrifysgolion Rhydychen a Warwick yn benodol, fe wnaethon ni weithio’n galed i wella profiad pob dysgwr, waeth beth fo’u cefndiroedd, felly pan ddaeth y cyfle i ddychwelyd adref a gallu cael effaith ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn Cambria, roedd yn gyfle gwych,” meddai Alice, sy’n dod o’r Wyddgrug.

“Mae Cambria eisoes yn darparu llais a chefnogaeth cryf i fyfyrwyr ond wrth gwrs mae yna bob amser le i wella, a chafwyd cyfres o heriau newydd yn sgil y pandemig nad oedd neb erioed wedi’u hwynebu o’r blaen.

“Wedi’n hysgogi gan y cynllun gweithredu a luniwyd gennym ni sy’n mynd â ni at 2024 – rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n staff a’n myfyrwyr i’w cefnogi i ddylanwadu ar newid o ran cydraddoldeb – mae hynny’n rhan enfawr o hyn.”

Mae Alice a’r tîm llais myfyrwyr wrthi’n recriwtio swyddogion myfyrwyr yn y meysydd canlynol: Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), LHDTC+, Aml-Ffydd, Hŷn, Trawsryweddol, Anabledd, Merched, a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol yn ôl Alice, a bydd yn ymgysylltu â sefydliadau cymunedol i greu cysylltiadau newydd ac adeiladu ar gysylltiadau sydd eisoes yn bodoli ar draws y gogledd ddwyrain.

“Yn y pen draw, rydyn ni yma i bawb, i bob dysgwr, dim ots ble maen nhw na beth yw eu hunaniaeth,” ychwanegodd.

“Y flaenoriaeth yw cydweithio â’n corff myfyrwyr a’n staff amrywiol i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cyfartal, cynhwysol a diwylliannol gymwys, a pharhau i ddarparu’r safonau uchel hynny ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod yma yn y coleg.”

Ychwanegodd Cath Sullivan, Dirprwy Brif Weithredwr Cambria (Profiadau Pobl a Diwylliant): “Rydyn ni’n hynod o falch bod Alice wedi ymuno â’r tîm yng Ngholeg Cambria wrth iddi rannu ein hangerdd dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn ein coleg a’n cymunedau yn ogystal.”

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at equalityanddiversity@cambria.ac.uk.

Ewch i www.cambria.ac.uk i ddysgu mwy am yr ystod o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria. 

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost