Mae eich dyfodol yn dechrau yma

Noson Agored Recriwitio Staff Addysgu Peirianneg

An image showing a smiling male and female staff member of Coleg Cambria

Dewch draw i archwilio ein Noson Agored Recriwtio!

Nos Iau 27 Ebrill 5pm-7pm

Rydym yn recriwtio am staff addysgu Peirianneg yng Ngholeg Cambria.

Oes gennych chi brofiad yn y maes peirianneg? Hoffech chi wneud gwahaniaeth a hyfforddi peirianwyr y dyfodol? Ydych chi wedi ystyried addysgu yn y gorffennol ond yn poeni nad oes gennych chi gymhwyster addysgu?

Gall rŵan fod yr amser i chi wneud newid a throsglwyddo eich sgiliau a’ch gwybodaeth ymlaen i’r genhedlaeth nesaf.

O fecanwaith i gerbydau modur, mecatroneg i roboteg a pheirianneg drydanol i beirianneg awyrennau, hoffem ddarganfod rhagor amdanoch chi a’ch profiad.

Nid yw meddu ar gymhwyster addysgu yn hanfodol gan y byddwn yn buddsoddi ynoch chi ac yn datblygu eich sgiliau addysgu.

Dewch draw i’n Digwyddiad Recriwtio Darlithwyr/Tiwtoriaid Peirianneg ddydd Iau 27 Ebrill o 5pm-7pm.

Archwiliwch y cyfleoedd sydd ar gael, siaradwch â staff sydd wedi symud o’r diwydiant i addysgu ac ewch i weld ein cyfleusterau.

Ymunwch â ni yn ein Digwyddiad Agored Recriwtio a darganfyddwch y lle i chi!

Sylwch mai digwyddiad recriwtio staff yw hwn, felly os oes gennych chi ddiddordeb astudio yng Ngholeg Cambria dylech gysylltu â’r Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0300 30 30 007.

Siaradwch â'r tîm

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i Cambria!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 007

Anfonwch E-bost atom ni

Anfonwch e-bost atom ni

hr@cambria.ac.uk

Ynglŷn â’n Coleg

Sefydlwyd y coleg yn ôl yn 2014, ac ers hynny rydym wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y DU. Rydym yn un o’r colegau mwyaf yn y DU, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan-amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol.

Ar draws ein chwe safle, rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau llawn amser a rhan-amser gan gynnwys cyrsiau Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â thros 1000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu i gael cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.

Play Video
Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth ysbrydoledig o’r dyfodol yw ‘rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth.’

Ein blaenoriaeth gyffredinol yw parhau i gyflwyno addysgu a dysgu rhagorol, er mwyn ymestyn, herio ac ysbrydoli pob dysgwr i archwilio a chyflawni i’w llawn botensial. Mae hyn yn hanfodol wrth i rôl Cambria ddod yn bwysicach byth i’n cymunedau a’n heconomi.

Ein Gwerthoedd

Dangos gonestrwydd ac uniondeb

Cael eich parchu a'ch gwerthfawrogi

Bod yn garedig a chefnogol

Gweithio gydag eraill

Teimlo'n gyfartal a chynhwysol

Bod yn gymuned

Bod yn rhagorol ac ysbrydoledig

Annog ac ysgogi

Bod yn frwdfrydig

Bod yn arloesol