Home > Oedolion a Rhan-amser > Gweld Pob Maes Pwnc > Cynaliadwyedd, Cadwraeth a’r Amgylchedd
Cynaliadwyedd, Cadwraeth a’r Amgylchedd
Cynaliadwyedd, Cadwraeth a'r Amgylchedd

Ydych chi’n angerddol am yr amgylchedd? Hoffech chi archwilio i’r rhyngweithiadau rhwng anifeiliaid, planhigion, pobl a’r byd modern yr ydym yn byw ynddo? Os felly, y cwrs Cynaliadwyedd, Cadwraeth a’r Amgylchedd yw’r un i chi.
Dim ond un blaned sydd gennym ni, ac hoffem ni ei gwarchod. Byddech yn gweithio mewn sector gwerthfawr iawn unwaith i chi ennill y cymwysterau hyn, gan gael eich ysgogi gan bryderon newid hinsawdd ac angen am ragor o ymarferion cynaliadwy. Yma yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich addysgu chi i fonitro poblogaethau planhigion ac anifeiliaid, sut i ddeall bygythiadau i ecosystemau a sut mae anifeiliaid a phobl yn manteisio ohonynt. Hefyd, sut i ofalu am ein tir, dwr ac aer yn well mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Pa Gyrsiau Sydd Ar GaelCymhwyster NEBOSH mewn Ymwybyddiaeth Amgylcheddol yn y Gweithle
- 26/11/2025
- Online/Northop
Cymhwyster NEBOSH mewn Ymwybyddiaeth Amgylcheddol yn y Gweithle
- 22/04/2026
- Online/Northop
Cymhwyster NEBOSH mewn Ymwybyddiaeth Amgylcheddol yn y Gweithle
- 22/07/2026
- Online/Northop
Rheoli'n Gynaliadwy IOSH
- 30/09/2025
- Online/Northop
Rheoli'n Gynaliadwy IOSH
- 05/11/2025
- Online/Northop
Rheoli'n Gynaliadwy IOSH
- 24/03/2026
- Online/Northop
Rheoli'n Gynaliadwy IOSH
- 30/06/2026
- Online/Northop
Tystysgrif Amgylcheddol NEBOSH
- 01/04/2025
- Online/Northop
Tystysgrif NEBOSH EMC1 mewn Rheolaeth Amgylcheddol
- 01/04/2025
- Online/Northop
Cymhwyster NEBOSH mewn Ymwybyddiaeth Amgylcheddol yn y Gweithle
- 26/11/2025
- Online/Northop
Cymhwyster NEBOSH mewn Ymwybyddiaeth Amgylcheddol yn y Gweithle
- 22/04/2026
- Online/Northop
Cymhwyster NEBOSH mewn Ymwybyddiaeth Amgylcheddol yn y Gweithle
- 22/07/2026
- Online/Northop
Rheoli'n Gynaliadwy IOSH
- 30/09/2025
- Online/Northop
Rheoli'n Gynaliadwy IOSH
- 05/11/2025
- Online/Northop
Rheoli'n Gynaliadwy IOSH
- 24/03/2026
- Online/Northop
Rheoli'n Gynaliadwy IOSH
- 30/06/2026
- Online/Northop
Tystysgrif Amgylcheddol NEBOSH
- 01/04/2025
- Online/Northop
Tystysgrif NEBOSH EMC1 mewn Rheolaeth Amgylcheddol
- 01/04/2025
- Online/Northop

Louise Smith Aldous
Wedi Astudio – Diploma NEBOSH mewn Rheoli’r Amgylchedd
Penderfynais astudio Diploma NEBOSH mewn Rheoli’r Amgylchedd ar ôl cwblhau Tystysgrif Gyffredinol a Thystysgrif yr Amgylchedd NEBOSH. Roedd yn teimlo fel yr her nesaf!
Dwi’n gweithio i Gymdeithas Tai ClwydAlyn fel Swyddog Iechyd a Diogelwch, felly mae’n bwysig iawn i ni fod yn ymwybodol o’r deddfau newydd a’r newidiadau mewn rheoliadau iechyd a diogelwch a’r amgylchedd. Mae’n bwysig er mwyn cadw’n preswylwyr a’n staff yn ddiogel, a diogelu’r amgylchedd a sicrhau bod ein gweithredoedd ddim yn niweidio cynefinoedd a bywyd gwyllt.
Yn ClwydAlyn ein gwerthoedd a’n cenhadaeth ydy mynd i’r afael â thlodi, wrth ymrwymo i ymddwyn yn gynaliadwy ac ystyried ein heffaith gymdeithasol, felly dyma oedd y cwrs perffaith. Mae’r coleg wedi bod yn gefnogol ac yn barod i helpu ac mae Pete fy nhiwtor wedi fy nghefnogi a fy annog!

Victoria Poulter
Astudiodd – Diploma NEBOSH mewn Rheoli’r Amgylchedd
Roeddwn i eisiau astudio Diploma NEBOSH mewn Rheoli’r Amgylchedd er mwyn datblygu fy niddordeb mewn rheoli’r amgylchedd a gweithio tuag at ehangu fy rôl a dilyniant gyrfa i gynnwys rheoli’r amgylchedd, ochr yn ochr ag iechyd a diogelwch.
Bydd y cwrs hwn yn darparu’r offer a’r wybodaeth sydd eu hangen i’m galluogi i roi’r hyn a ddysgais ar waith ac, yn y pen draw, rheoli unrhyw effeithiau amgylcheddol yn effeithiol o fentrau ein sefydliad. Gan sicrhau y gallwn ni fel sefydliad godi ymwybyddiaeth ar draws y Grŵp, lleihau unrhyw effeithiau negyddol a, lle bo modd, sicrhau’r buddion amgylcheddol mwyaf posib.
Roedd y gefnogaeth gan Cambria yn wych, roedd yna gyfathrebu da cyn dyddiad dechrau’r cwrs ac roeddwn yn gallu cysylltu â’r hyfforddwr ychydig cyn i’r cwrs ddechrau, i ddeall amserlen y cwrs fel y gallwn gynllunio fy nyddiadur gwaith o gwmpas ymrwymiadau coleg. Yn ystod y cwrs roedd y tiwtor yn wybodus iawn, gan ennyn ac annog rhyngweithio drwy gydol y cwrs. Roedd y tiwtor hefyd yn gwneud yr eitemau yn hawdd uniaethu â nhw drwy roi enghreifftiau lleol a chenedlaethol a chysylltu syniadau a phwyntiau trafod gyda diwydiannau a busnesau’r cynrychiolwyr i gyd.