Home > Oedolion a Rhan-amser > Gweld Pob Maes Pwnc > Llwybr Saesneg a Mathemateg > Saesneg a Mathemateg
Saesneg a Mathemateg
Gwella eich Saesneg a Mathemateg
TGAU Saesneg a Mathemateg
Paratoi ar gyfer TGAU gyda ni…
Eisiau gwella eich sgiliau mewn llythrennedd neu rifedd? Eisiau gwella eich rhagolygon swydd neu ennill cymhwyster i symud ymlaen i gwrs astudio pellach? Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Sgiliau Hanfodol Cymru achrededig AM DDIM* wedi’u lleoli mewn lleoliadau cymunedol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint ac ar safleoedd Cambria.
Mae ein cyrsiau yn caniatáu i chi weithio ar eich cyflymder eich hun mewn amgylchedd cyfeillgar, hamddenol. Mae opsiynau ar-lein ar gael hefyd.
Pam astudio gyda ni....
MAGU HYDER A LLWYDDO
ENNILL CYMWYSTERAU CYDNABYDDEDIG AM DDIM*
*Yn amodol ar gymhwysedd
ASTUDIO GYDAG ERAILL AR YR UN LEFEL
CYMRYD EICH CAMAU CYNTAF TUAG AT DDYCHWELYD I DDYSGU
DATBLYGU SGILIAU SY'N EICH HELPU I SYMUD YMLAEN
Paratoi i symud ymlaen i astudio PELLACH neu Gyflogaeth
Y cyrsiau Paratoi ar gyfer TGAU sydd ar gael
Gwybodaeth am y cyrsiau:
Mae’r cwrs Gwella Eich Saesneg yn addas ar gyfer unrhyw un sydd angen gweithio ar eu sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando, o’r pethau sylfaenol hyd at lefel TGAU.
Gall y dosbarthiadau eich helpu i wella eich rhagolygon swydd, eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach, eich helpu i gefnogi plant gyda’u gwaith cartref a datblygu eich hyder gyda’ch sgiliau Saesneg.
Yn y dosbarthiadau byddwch chi’n gweithio ar eich lefel eich hunain ar y pynciau sydd eu hangen arnoch. Gall y pynciau gynnwys:
- atalnodi
- gramadeg
- sillafu
- darllen er gwybodaeth
- ysgrifennu gwahanol fathau o ddogfennau
- cymryd rhan mewn trafodaethau
- pynciau eraill yn ôl yr angen.
Bydd eich tiwtor yn cytuno ar eich cynllun dysgu unigol eich hun gyda chi.
Pan fyddwch yn barod gallwch gymryd cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu ar y lefel briodol o Fynediad 1, Mynediad 2, Mynediad 3, Lefel 1 neu Lefel 2. Efallai y byddwch wedyn yn gallu dechrau gweithio tuag at y lefel nesaf.
Caiff y dosbarthiadau eu cynnig mewn llawer o leoliadau gwahanol, gan gynnwys prif safleoedd y coleg, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd ac anghysbell. Gallwch ymuno â’r dosbarthiadau unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.
Hyd y cwrs: 3 awr yr wythnos – Dosbarthiadau yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar-lein ar gael.
Cost: AM DDIM*
Oes gennych chi ddiddordeb? Cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn eich ffonio yn ôl am sgwrs.
*Yn amodol ar Gymhwysedd
Sylwch y bydd angen mynd i sesiwn wyneb yn wyneb i ddechrau i gynnal yr asesiad cychwynnol i nodi eich lefel sgiliau presennol ac unwaith y byddwch yn barod i ymgymryd â’r cymhwyster Sgiliau Hanfodol gwirioneddol, bydd angen i chi hefyd ddod i mewn i’r coleg i gwblhau hyn.
Gwybodaeth am y cyrsiau:
Mae’r cwrs Gwella Eich Mathemateg yn addas ar gyfer unrhyw un sydd angen gweithio ar eu sgiliau rhifedd, o’r pethau sylfaenol hyd at lefel TGAU.
Gall y dosbarthiadau eich helpu i wella eich rhagolygon gwaith, eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach, eich helpu i gefnogi plant gyda’u gwaith cartref a datblygu eich hyder gyda’ch sgiliau mathemateg.
Yn y dosbarthiadau byddwch yn gweithio ar eich lefel eich hun ar y pynciau sydd eu hangen arnoch. Gall y pynciau gynnwys:
- adio a thynnu
- lluosi a rhannu
- ffracsiynau, canrannau a degolion
- cymhareb a chyfrannedd
- mesur metrig
- perimedr, arwynebedd a chyfaint
- graffiau a siartiau
- arian
- pynciau eraill yn ôl yr angen.
Bydd eich tiwtor yn cytuno ar eich cynllun dysgu unigol eich hun gyda chi. Pan fyddwch yn barod gallwch gymryd cymhwyster Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru ar y lefel briodol o Fynediad 1, Mynediad 2, Mynediad 3, Lefel 1 neu Lefel 2. Efallai y gallwch wedyn ddechrau gweithio tuag at y lefel nesaf.
Caiff y dosbarthiadau eu cynnig mewn llawer o leoliadau gwahanol, gan gynnwys prif safleoedd y coleg, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd ac anghysbell. Gallwch ymuno â’r dosbarthiadau unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.
Hyd y cwrs: 2 awr yr wythnos – Dosbarthiadau yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar-lein ar gael.
Cost: AM DDIM*
Oes gennych chi ddiddordeb? Cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn eich ffonio yn ôl am sgwrs.
*Yn amodol ar Gymhwysedd
Sylwch y bydd angen mynd i sesiwn wyneb yn wyneb i ddechrau i wneud yr asesiad cychwynnol i nodi lefel bresennol eich sgiliau ac unwaith y byddwch yn barod i wneud y cymhwyster Sgiliau Hanfodol gwirioneddol bydd angen i chi hefyd ddod i’r coleg i gwblhau hyn.
Cysylltwch â ni a byddwn yn eich ffonio'n ôl
Dewch i gael TGAU mewn Saesneg a/neu Fathemateg a dechrau eich dyfodol….
Mae TGAU mewn Saesneg a/neu Fathemateg yn agor drysau i gyfleoedd newydd ar gyfer eich dyfodol. P’un ai bod hynny’n waith hyrwyddo, gwella rhagolygon gyrfa, lle mewn prifysgol neu sicrhau prentisiaeth.
Yng Ngholeg Cambria mae gennym enw da profedig ar gyfer helpu myfyrwyr o bob oed i gyflawni graddau TGAU gwell a fydd yn eu galluogi i gymryd cam nesaf eu taith yn hyderus.
Rydym yn cynnig cyrsiau naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae’n hanfodol eich bod yn dod yn rheolaidd.
Os rydych yn ansicr o’ch lefel Mathemateg a Saesneg ar hyn o bryd peidiwch â phoeni! Yn ystod eich sesiwn gyntaf gyda ni, bydd ein tîm addysgu profiadol a chefnogol yn sicrhau eich bod chi ar y lefel astudio gywir.
Pam astudio gyda ni....
ENNILL CYMWYSTERAU CYDNABYDDEDIG
DATBLYGU SGILIAU SY'N EICH HELPU I SYMUD YMLAEN
ASTUDIO GYDAG ERAILL AR YR UN LEFEL
CYMRYD EICH CAMAU CYNTAF TUAG AT DDYCHWELYD I DDYSGU
MAGU HYDER A LLWYDDO
CAEL EICH CYNORTHWYO AR BOB CAM
Ein Cyrsiau
Pa Gyrsiau Sydd Ar Gael
Mae Coleg Cambria yn cynnig amrywiaeth o fodelau cyflwyno ar gyfer TGAU Mathemateg yn amrywio o ar-lein/o bell i ddosbarthiadau nos wyneb yn wyneb. Mae ein modelau yn darparu hyblygrwydd i astudio mewn lle ac amser sy’n addas i chi.
Mae TGAU Mathemateg yn canolbwyntio ar ddatrys problemau, rhesymu a chymwysiadau ymarferol. Mae’r cwrs yn ymdrin â phynciau fel algebra, geometreg, ystadegau a thebygolrwydd. Nod y cwrs yw rhoi’r sgiliau damcaniaethol ac ymarferol i chi.
Bydd gennych chi asesiadau rheolaidd a bydd gwaith yn cael ei osod a’i farcio’n rheolaidd i roi darlun clir i chi o’ch cryfderau a’ch meysydd i’w datblygu.
Mae Coleg Cambria yn cynnig amrywiaeth o fodelau cyflwyno ar gyfer TGAU Saesneg yn amrywio o ddosbarthiadau nos ar-lein/o bell i ddosbarth nos wyneb yn wyneb. Mae ein modelau yn darparu hyblygrwydd i astudio mewn lle ac amser sy’n addas i chi.
Mae TGAU Saesneg yn cynnwys elfennau ysgrifenedig a llafar, wedi’u cynllunio i alluogi myfyrwyr i gyfathrebu’n gywir, yn briodol ac yn effeithiol ar lafar ac ysgrifennu.
Byddwch chi hefyd yn cael cyfle i brofi amrywiaeth o gyfryngau a datblygu’r gallu i wneud ymateb personol gwybodus i amrywiaeth o ysgogiadau a thestunau.
Beth am glywed gan rai o'n cyn-fyfyrwyr

Hollie Haines
TGAU Mathemateg
“Cyn dechrau fy nghwrs TGAU Mathemateg roeddwn i wedi colli fy swydd oherwydd y cyfnod clo.
O ganlyniad i gael D mewn TGAU mathemateg o’r ysgol, swyddi a oedd yn talu’n isel, rhan amser yn unig roeddwn i’n gallu ymgeisio ar eu cyfer. Doedd y swyddi yma ddim yn addas gan fy mod i’n rhiant sengl i ddau o blant.
I fod yn hollol onest, roeddwn i’n nerfus am ddychwelyd yn ôl i addysg, ond roeddwn i’n gwybod bod angen i mi fod yn ddewr a chymryd y cam cyntaf.
Gwnes i gysylltu â Cambria ac esbonio, oherwydd anawsterau a’r ffaith fy mod i ddim yn hoffi’r ysgol yn gyffredinol, doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn i wella ar fy ngradd D mewn TGAU Mathemateg.
Gwnes i esbonio hefyd mai fy nod oedd symud ymlaen i’r Brifysgol ac yn y pen draw dod yn Nyrs Iechyd Meddwl cwbl gymwys.
Roedd y staff yn y Coleg yn wych ac yn barod i helpu. Gwnaethant nhw egluro y byddai angen i mi gael gradd C mewn Mathemateg yn fwy na thebyg yn ogystal â bod wedi cwblhau cyrsiau Mynediad i Addysg uwch – Gofal Iechyd er mwyn llwyddo i gael lle ar fy nghwrs delfrydol yn y Brifysgol.
Doeddwn i ddim yn meddwl y buaswn i’n gallu llwyddo, ond gwnaeth y coleg fy helpu i gael ffydd ynof fi fy hun a fy annog i ymuno â’r cyrsiau.
Blwyddyn yn ddiweddarach, gwnes i lwyddo i gael gradd B mewn TGAU Mathemateg yn ogystal â chymhwyster Mynediad i Addysg Uwch – Gofal Iechyd! Doeddwn i methu coelio’r peth! Roeddwn i wrth fy modd a dwi’n diolch yn fawr iawn i’r tîm addysgu.
Doedd y profiad ddim yn hawdd ond gwnes i wneud fy ngorau a mynd i bob dosbarth – a gwnes i lwyddo!
Buaswn i ddim wedi gallu llwyddo heb gymorth y tiwtoriaid, roedden nhw mor amyneddgar gyda mi ac yn gwneud i mi deimlo y gallwn i bob amser ofyn cymaint o gwestiynau ag oedd angen i mi nes i mi ddeall.
Heddiw, dwi’n astudoo ar gyfer gradd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caer.
Mae cymryd y cam cyntaf gyda Choleg Cambria wedi newid fy mywyd a buaswn i’n argymell i unrhyw un sy’n poeni am ddod yn ôl i addysg i gymryd anadl ddofn, bod yn ddewr a mynd amdani…beth sydd gennych chi i golli!”

Christopher Horrocks
Prentis Trydanol Lefel 3
“Cyn i mi ddychwelyd i addysg doeddwn i ddim yn hapus gyda’r yrfa roeddwn i wedi’i dewis ond rŵan fy mod i bron yn Drydanwr cymwys, rydw i mor falch fy mod wedi penderfynu mynd yn ôl i’r coleg!
Fel unrhyw oedolyn sy’n dychwelyd i fyd addysg roeddwn i’n nerfus. Rydw i’n 38 ac yn dad sengl felly roedd yn benderfyniad mawr i’w wneud. Mae’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael gan Goleg Cambria wedi bod yn anhygoel a bydd y tîm wrth law yn eich arwain chi drwy’r cymhwyster.
Wrth astudio ar gyfer fy nghymhwyster Trydanol fe wnaeth Coleg Cambria fy helpu i ailsefyll fy arholiadau TGAU ac mae fy nghanlyniadau wedi rhoi mwy o hyder i mi gymryd camau yn fy ngyrfa ddewisedig. Nid dim ond i bobl ifanc mae coleg!
Mae fy mhrofiad dros y blynyddoedd diwetha’ wedi bod yn daith gofiadwy a diolch i’r coleg rydw i wedi llwyddo i gael gwaith cyflogedig.
I unrhyw oedolion sy’n ystyried cymryd y camau cyntaf hynny ar gyfer dyfodol mwy disglair, fy nghyngor i yw hyn – ewch ati ar unwaith, cofrestrwch gyda Choleg Cambria a chael y swydd ddelfrydol honno sydd wastad wedi mynd â’ch bryd!
Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i’r holl dimau am eu cefnogaeth a’u hymroddiad wnaeth fy helpu i gyflawni fy nodau.”