Home > Oedolion a Rhan-amser > Gweld Pob Maes Pwnc > Sgiliau Byw’n Annibynnol
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Sgiliau Byw'n Annibynnol

Mae’r cyrsiau hyn yn addas i chi os oes gennych chi anawsterau dysgu a/neu anableddau, a hoffech chi archwilio a datblygu sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith. Mae gennym ystod eang o lwybrau Sgiliau Bywyd a byddwn yn rhoi cymorth i chi wrth i chi ddatblygu eich sgiliau personol, cymdeithasol ac annibynnol. Byddwn hefyd yn gwella’r cyfleoedd i chi symud ymlaen at gyflogaeth neu astudiaeth bellach.
Fel unigolyn unigryw, rydym yn gwybod y bydd gennych chi anghenion unigol, a byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i ganfod eich cyrchfannau hirdymor a gosod targedau cyraeddadwy gyda chi. Byddwch hefyd yn manteisio ar gwricwlwm unigol gyda’r cymorth yr ydych chi ei angen.
A oes gennych chi gwestiwn?
Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.