Home > Polisi Preifatrwydd
Polisi Preifatrwydd
Polisi i Fyfyrwyr
Polisi i Rieni
Hysbysiad Preifatrwydd Dysgwyr Coleg Cambria
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ynglŷn â sut mae’n casglu ac yn defnyddio eich data personol i gyflawni ei rwymedigaethau diogelu data.
Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw rhoi gwybod i chi sut mae Coleg Cambria yn casglu ac yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, a chyda phwy rydym yn rhannu’r data hwn. Mae hyn yn cynnwys yr hyn rydych yn ei ddweud wrthym amdanoch chi fel dysgwr, a’r dewisiadau a wnewch ynghylch pa wybodaeth rydych chi am i ni ei rhannu gyda chi neu ei hanfon at eraill. Yn ogystal, mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut rydym yn gwneud hyn ac yn darparu gwybodaeth am eich hawliau preifatrwydd a sut mae cyfreithiau diogelu data yn eich diogelu.
Cysylltwch â Ni
Coleg Cambria yw’r rheolwr data ac os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad hwn, diogelu data neu’r ffordd yr ydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data yn y cyfeiriadau canlynol:
Post: Coleg Cambria, Ffordd Celstryn, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy, CH5 4BR.
Email: dpo@cambria.ac.uk
Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, ei defnyddio a pham rydym yn ei chasglu
Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol trwy gydol ein prosesau gwneud cais a chofrestru (er enghraifft trwy ein prosesau gwneud cais ar bapur ac ar ar-lein) i’n galluogi i wirio pwy ydych chi, prosesu eich cais, eich cofrestru ar gwrs a darparu gweinyddiaeth barhaus nes i chi gwblhau eich astudiaethau gyda ni.
Y gwahanol fathau o wybodaeth rydym yn eu casglu:
Efallai byddwn yn casglu’r mathau o wybodaeth a ganlyn amdanoch chi yn ystod eich astudiaethau, yn dibynnu ar y math o gwrs a’ch anghenion unigol:
- Gwybodaeth yn ymwneud â’ch hunaniaeth: enw, enwau blaenorol, gwybodaeth gyswllt, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni a rhywedd.
- Gwybodaeth am eich perthynas agosaf a/neu gyswllt brys.
- Rhif Yswiriant Gwladol, cenedligrwydd, a chopïau o ddogfennau adnabod (e.e. pasbort neu gerdyn adnabod cenedlaethol) er diben cymhwysedd cyllid y llywodraeth.
- Gwybodaeth am eich dewisiadau astudio presennol ac yn y dyfodol.
- Hanes academaidd neu gynnydd presennol: graddau a ragfynegwyd, cymwysterau, sgorau asesiadau, canlyniadau arholiadau, a dyddiadau astudio.
- Gwybodaeth cyflogaeth (os yw’n berthnasol i’ch astudiaethau).
- Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau neu wybodaeth cymorth ychwanegol, ac unrhyw amgylchiadau personol sy’n gysylltiedig â’ch astudiaethau.
- Mamiaith, lefelau Cymraeg, a dewisiadau iaith.
- Cyflyrau meddygol neu iechyd, gan gynnwys unrhyw anabledd sydd ag angen addasiadau rhesymol.
- Euogfarnau troseddol (lle bo’n berthnasol).
- Manylion cyfrif banc ar gyfer taliadau sy’n ymwneud â’ch rhaglen gymorth.
- Gwybodaeth am fudd-daliadau gwladol er mwyn asesu a ellir gostwng ffioedd.
- Gweithdrefnau disgyblu, cwyno neu rybuddion a roddwyd i chi.
- Monitro cyfleoedd cyfartal: tarddiad ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, iechyd, a chrefydd neu gred.
- Gwybodaeth lles: amgylchiadau a hanes bywyd teuluol/cartref.
- Ffotograffiaeth
- Data presenoldeb a rhesymau dros absenoldeb.
- Gwybodaeth mynediad cyfrif.
- Canlyniadau arholiadau, cymwysterau, ac adroddiadau cynnydd.
- Cwynion neu ganmoliaeth, a chofnodion gwahardd/atal.
- Datganiadau tystion, manylion cyswllt, cofnodion ac adroddiadau.
- Recordiadau fideo a sain o fannau cyhoeddus ac i’r myfyrwyr (e.e. mynedfeydd, coridorau, ffreuturau).
- Cyfeiriadau IP a data defnyddio’r wefan. Cofnodion cyn-fyfyrwyr.
Pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth
Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth at y dibenion canlynol:
- Eich addysg a’ch lles: Darparu addysgu, gwasanaethau dysgu, a chymorth academaidd.
- Ymchwiliadau disgyblu: Atal, canfod, ymchwilio, neu erlyn troseddau.
- Ymdrin ag ymholiadau neu gwynion: Trin unrhyw bryderon neu gwynion rydych yn eu codi.
- Diweddariadau gwybodaeth neu ddibenion marchnata: Anfon gwybodaeth berthnasol am gyrsiau, gwasanaethau, a digwyddiadau (gyda’ch caniatâd).
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol: Bodloni rhwymedigaethau sy’n ymwneud â diogelu, iechyd a diogelwch, neu atal troseddau
Proffilio a Gwneud Penderfyniadau Awtomataidd
asesiadau. Gall proffilio gynnwys dadansoddi data megis presenoldeb, perfformiad academaidd, asesiadau anghenion dysgu ychwanegol, neu ymgysylltu â deunyddiau dysgu i deilwra gwasanaethau cymorth, gwella canlyniadau dysgu, neu nodi myfyrwyr sydd mewn perygl.
Mae unrhyw broffilio a wnawn bob amser yn cael ei adolygu gan aelod o staff i sicrhau bod y canlyniadau’n briodol ac yn gywir. Mae gennych hawl i wrthwynebu unrhyw broffilio ac i ofyn i berson adolygu unrhyw benderfyniadau a wneir yn y modd hwn.
Os oes gennych unrhyw bryderon am broffilio neu sut y defnyddir eich data, cysylltwch â ni: dpo@cambria.ac.uk
Sut rydym yn defnyddio deallusrwydd artiffisial
Mae Coleg Cambria yn deffnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial (AI: Artficial Intelligence) i wella agweddau amrywiol ar eich profiad dysgu a gwasanaethau cymorth. Defnyddir yr offer hyn i gynorthwyo staff i ddarparu addysg o ansawdd uchel a dysgu personol, ond nid ydynt yn gwneud penderfyniadau terfynol ynghylch eich asesiadau na dilyniant academaidd heb oruchwyliaeth ddynol. Defnyddir yr offer AI at ddibenion a all gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Marcio:Gall AI fod o gymorth yng nghamau cyntaf asesu gwaith myfyrwyr i nodi meysydd i’w gwella, er bod graddau terfynol ac adborth bob amser yn cael eu darparu gan diwtor dynol.
- Adborth: Gall offer AI gynnig adborth personol ar unwaith ar aseiniadau, gan helpu myfyrwyr i wella mewn amser real.
- Cymedroli: Gall AI helpu i sicrhau cysondeb yn y marcio ar draws gwahanol bynciau a chyrsiau.
- Hunanarfarnu a gwella: Mae AI yn darparu offer i fyfyrwyr asesu eu perfformiad eu hunain a nodi meysydd ar gyfer hunan-wella.
- Sicrhau ansawdd: Mae AI yn helpu i fonitro a chynnal safonau addysgol uchel trwy ddadansoddi data ac adborth myfyrwyr.
- Gwahaniaethu: Mae AI yn cefnogi strategaethau addysgu wedi’u teilwra, gan alluogi profiadau dysgu personol sy’n bodloni anghenion myfyrwyr unigol.
- Addysgu a dysgu personol: Mae AI yn helpu i gyflwyno cynnwys wedi’i deilwra a chymorth yn seiliedig ar gynnydd unigol ac arddulliau dysgu personol.
- Olrhain cynnydd: Mae offer AI yn helpu i fonitro cynnydd academaidd ac yn rhybuddio staff am unrhyw fyfyrwyr y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt.
- Dadansoddi data a rhagweld: Mae AI yn cynorthwyo i ddadansoddi setiau data mawr i ragfynegi tueddiadau, megis perfformiad myfyrwyr yn y dyfodol neu risgiau cadw.
- Cynorthwyydd AI Adroddiadau Hunanasesu: Mae AI yn cynorthwyo staff i lunio adroddiadau a nodi meysydd allweddol ar gyfer gwelliant sefydliadol.
- Cyfieithu byw: Mae AI yn cynnig gwasanaethau cyfieithu amser real i gefnogi siaradwyr anfrodorol mewn gwersi neu wrth gyfathrebu.
- Cefnogaeth gwasanaethau myfyrwyr:Mae AI yn helpu i ddarparu gwasanaethau myfyrwyr yn fwy effeithlon, gan gynnwys ateb ymholiadau cyffredin.
- Cefnogaeth cofrestru: Mae offer AI yn helpu i symleiddio’r broses gofrestru, gan sicrhau profiad llyfnach i fyfyrwyr.
- Dadansoddiad ymyrraeth: Mae AI yn helpu i nodi myfyrwyr a allai elwa o ymyriadau ychwanegol yn seiliedig ar berfformiad ac ymgysylltiad.
- Dadansoddiad teimladau: Mae AI yn dadansoddi adborth myfyrwyr i fesur teimlad a boddhad cyffredinol gyda’r cwrs neu’r gwasanaethau a ddarperir.
Er y gellir defnyddio AI ar gyfer proffilio i gynorthwyo gydag olrhain cynnydd, personoli dysgu, a nodi myfyrwyr sydd mewn perygl, mae’n bwysig nodi nad yw AI yn gwneud unrhyw benderfyniadau awtomataidd sy’n cael effaith gyfreithiol neu arwyddocaol arnoch chi. Mae unrhyw broffilio a wnawn gan ddefnyddio AI bob amser yn cael ei adolygu gan aelod o staff i sicrhau bod y canlyniadau’n gywir, yn briodol ac yn deg.
Eich Hawliau:
-
Mae gennych hawl i:
- Wrthwynebu proffilio: Gallwch ofyn i beidio â bod yn destun proffilio sy’n effeithio’n sylweddol arnoch chi.
- Ymyrraeth ddynol: Gallwch ofyn i aelod o staff adolygu unrhyw benderfyniadau sy’n ymwneud â’ch cynnydd academaidd neu gymorth sy’n cynnwys proffilio neu AI.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech arfer eich hawliau, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data trwy anfon e-bost at dpo@cambria.ac.uk
Preifatrwydd Plant:
Os ydych yn iau nac 18 oed, rydym yn cymryd gofal arbennig i sicrhau eich bod yn deall sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio iaith symlach neu ganllawiau ychwanegol i’ch helpu i ddeall eich hawliau a’r ffyrdd mae eich data’n cael ei ddefnyddio.
Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth:
Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch mewn sawl ffordd:
- O’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu wrth wneud cais neu gofrestru ar raglen trwy ffurflenni cais.
- Pan fyddwch yn cyfathrebu â ni dros y ffôn, e-bost, neu wyneb yn wyneb.
- Gan sefydliadau eraill fel y Gwasanaeth Cofnodion Dysgwyr, eich cyn ysgol, cyrff dyfarnu, neu’ch noddwr/cyflogwr sy’n cefnogi’ch astudiaethau.
- Trwy ddata defnyddio’r wefan a’r ap, gan gynnwys cwcis, cyfeiriadau IP, a thechnolegau olrhain eraill.
- Trwy recordiadau teledu cylch cyfyng a systemau diogelwch eraill.
Rhannu eich gwybodaeth ag eraill:
At y dibenion y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad hwn, efallai y byddwn yn rhannu eich data gyda:
- Adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth (e.e. yr Adran Addysg).
- Eich cyflogwr (os yw’n noddi’ch astudiaethau).
- Rhieni/gwarcheidwaid, a/neu bersonau perthynas agosaf enwebedig. (ar gyfer myfyrwyr o dan 18 oed) neu gyda’ch caniatâd)
- Cyrff dyfarnu ar gyfer eich cymwysterau.
- Proseswyr TG a data (e.e. darparwyr gwasanaethau AI, darparwyr dadansoddeg gwefan).
- Asiantaethau atal neu ganfod trosedd (e.e. yr heddlu).
- Contractwyr trydydd parti (e.e. diogelwch TG, argraffu allanol).
- Gwasanaeth Cofnodion Dysgwyr ar gyfer eich Rhif Dysgwr Unigryw a’ch Cofnod Dysgu Personol.
- Archwilwyr allanol, darparwyr arolygon, ac asiantaethau iechyd.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol
Bydd y Coleg yn cadw eich data personol am gyfnodau amrywiol yn dibynnu ar ei gynnwys. Dyma dabl yn nodi am ba hyd y byddwn yn cadw eich data:
Y Math o Gofnod | Ei gadw am | Pam rydyn ni’n ei gadw | |||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymholiadau Myfyrwyr, Ceisiadau a Chofrestriadau | |||||||||||||||||||
Cofnodion trin ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr | Diwedd y flwyddyn academaidd ganlynol | Ymholiadau cyffredinol yn gysylltiedig â chofrestru yn y flwyddyn academaidd gyfredol neu’r flwyddyn ddilynol. | |||||||||||||||||
Cofnodion sy’n nodi sut cafodd ceisiadau dysgwyr na chofrestrodd wedyn eu trin. | Diwedd y flwyddyn academaidd ganlynol | Er mwyn ymateb i ymholiadau | |||||||||||||||||
Datgeliadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer myfyrwyr a fydd yn cysylltu â phlant neu oedolion diamddiffyn. | 6 mis | Cod Ymarfer y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd | |||||||||||||||||
Cofnodion Academaidd Myfyrwyr | |||||||||||||||||||
Cofnodion llawn y myfyrwyr, gan gynnwys dogfennau sy’n ymwneud â gwneud cais/cofrestru; cyflawniadau academaidd; trosglwyddo, diddymu neu derfynu astudiaethau; arolygon cyrchfannau cyntaf | Y flwyddyn academaidd gyfredol +10 mlynedd | Galluogi’r coleg i roi tystlythyrau am amser rhesymol.
Terfynau amser ar gyfreitha hefyd.
| |||||||||||||||||
Gwybodaeth sy’n ymwneud ag arholiadau a pherfformiad academaidd (dyddiadau astudio, rhaglen astudio, marciau, dyfarniad terfynol ac ati) | Am byth | Darparu tystlythyrau a chadarnhau cofrestriadau / dyfarniad terfynol, ac ati | |||||||||||||||||
Cofnodion sy’n cynnwys ymddygiad a chanlyniadau camau disgyblu yn erbyn myfyrwyr unigol. | Y flwyddyn academaidd gyfredol +6 blynedd | Deddf Cyfyngiadau 1980 | |||||||||||||||||
Cofnodion sy’n cynnwys sut cafodd cwynion ffurf | Y flwyddyn academaidd gyfredol +6 blynedd | Deddf Cyfyngiadau 1980 | |||||||||||||||||
Cofnodion presenoldeb myfyrwyr unigol | Y flwyddyn academaidd gyfredol +10 mlynedd | Galluogi’r coleg i roi tystlythyrau am amser rhesymol | |||||||||||||||||
Gweinyddu Cyrsiau | |||||||||||||||||||
Rhestrau dosbarthiadau a Rhaglenni ar gyfer cyflwyno / marcio gwaith. | Cwblhau astudiaethau + 1 flwyddyn | Er mwyn ymateb i ymholiadau | |||||||||||||||||
Sgiliau Astudio | |||||||||||||||||||
Dogfennau sy’n cael eu defnyddio gan y Tîm Sgiliau Astudio i alluogi myfyrwyr i gael y lefel o gymorth sydd ei angen arnynt. Mae hyn yn cynnwys dogfennau sy’n cyfeirio at y manylion bywgraffyddol, manylion y cwrs, hanes anghenion cymorth, galluoedd ac anawsterau, adroddiadau seicolegwyr addysg, Cynllun Gweithredu Sgiliau Astudio, llythyrau atgyfeirio ar gyfer asesiadau, gohebiaeth arall. | Y flwyddyn academaidd gyfredol + 6 blynedd | Galluogi’r coleg i roi gwybodaeth i gyn fyfyrwyr am gyfnod rhesymol o amser. Terfynau amser ar gyfreitha hefyd. | |||||||||||||||||
Teledu Cylch Cyfyng (TCC) | |||||||||||||||||||
Fideos TCC o wahanol leoliadau ledled ein safleoedd | Hyd at 28 diwrnod (hyd at 2 flynedd yn dilyn cau unrhyw ymchwiliad) | Darparu tystiolaeth yn gysylltiedig â throseddau. diogelu a digwyddiadau perthnasol eraill. | |||||||||||||||||
Cofnodion Iechyd a Diogelwch | |||||||||||||||||||
Llyfrau damweiniau a chofnodion ac adroddiadau am ddamweiniau | 6 blynedd | Nawdd Cymdeithasol (Hawliadau a Thaliadau), Rheoliadau 1979; RIDDOR 1985; Terfynau amser ar gyfreitha | |||||||||||||||||
Cofnodion trefnu lleoliadau gwaith/astudio myfyrwyr i sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cynnal. | Cwblhau astudiaethau + 1 flwyddyn | Er mwyn ymateb i ymholiadau |
Eich hawliau a’ch dewisiadau
Mae gennych yr hawliau canlynol dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol:
- Cael gwybod am y data sydd gan Goleg Cambria a sut mae’n cael ei brosesu.
- Gwneud cais i weld eich gwybodaeth bersonol (Cais Mynediad Gwrthrych Data).
- Cywiro gwallau yn eich data
- Cyfyngu neu wrthwynebu prosesu eich data.
- Gofyn i gael dileu eich data (lle bo’n berthnasol)
- Gofyn am gopi o’ch data mewn fformat cludadwy.
- Tynnu caniatâd yn ôl (os yw prosesu yn seiliedig ar ganiatâd).
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
I gael rhagor o wybodaeth neu i arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â’n Swyddfa Diogelu Data trwy anfon e-bost at: dpo@cambria.ac.uk.dpo@cambria.ac.uk
Sut i gwyno
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut rydym yn trin eich data personol, gallwch gyflwyno cwyn i ni. Os ydych yn parhau i fod yn anhapus, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.
Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwefan: https://www.ico.org.uk/make-a-complaint
Diweddarwyd Ddiwethaf – 16/09/2024
I Wneud Cais Mynediad am Wrthrych Data
Hysbysiad Preifatrwydd i Rieni/Gofalwyr/Gwarcheidwaid
Yng Ngholeg Cambria, rydym yn gwerthfawrogi’r ymddiriedaeth rydych yn ei roi ynom mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn amlinellu sut rydym yn casglu, defnyddio a diogelu eich data fel rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid.
Pwy Ydym Ni
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ynglŷn â sut mae’n casglu ac yn defnyddio eich data personol i gyflawni ei rwymedigaethau diogelu data. Ni yw’r rheolydd data sy’n gyfrifol am eich gwybodaeth bersonol.
Cysylltwch â Ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad hwn, diogelu data neu’r ffordd yr ydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r dulliau canlynol:
- Post: Coleg Cambria, Ffordd Celstryn, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy, CH5 4BR
- Rhif Ffôn: 01978 515459
- E-bost:: dpo@cambria.ac.uk
Pa Wybodaeth Rydym yn ei Chasglu a Pham
Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol i gefnogi taith addysgol eich person ifanc, sicrhau eu lles, a rhannu gwybodaeth â chi. Gallai’r wybodaeth y byddwn yn ei gasglu cynnwys:
- Manylion Cyswllt: Eich enw, cyfeiriad, e-bost, a rhif ffôn i gyfathrebu am gais, cynnydd, digwyddiadau a chamau nesaf eich person ifanc.
- Gwybodaeth Gyswllt Argyfwng: Manylion y byddwch yn eu rhoi er mwyn sicrhau y gallwn gysylltu â chi petai argyfwng yn ymwneud â’ch person ifanc.
- Adborth: Ymatebion o arolygon rhieni a grwpiau ffocws rhieni i’n helpu i wella ein gwasanaethau.
Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i:
- Rhoi gwybod i chi am gais, cynnydd, presenoldeb a llesiant eich person ifanc.
- Rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau a chyfleoedd coleg sydd o fudd i daith addysgol eich person ifanc, fel nosweithiau agored, ffeiriau gyrfa, neu seremonïau gwobrwyo.
- Darparu diweddariadau am y camau nesaf, gan gynnwys cyfleoedd prentisiaeth, cyngor UCAS, neu lwybrau pontio eraill
- Cysylltu â chi mewn argyfwng.
- Casglu adborth i wella ein gwasanaethau a’ch profiad..
Sail Gyfreithlon ar gyfer Prosesu
Rydym yn dibynnu ar y seiliau cyfreithlon canlynol i brosesu eich data:
- Buddiant Dilys: Er mwyn cefnogi addysg, lles a chyfleoedd y dyfodol eich person ifanc. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â’u cynnydd, presenoldeb, neu ddigwyddiadau sydd i ddod.
- Goblygiadau Cyfreithiol: Cydymffurfio â chyfrifoldebau diogelu a lles.
- Caniatâd: Efallai y byddwn yn gofyn am eich caniatâd ar gyfer cyfathrebiadau nad ydynt yn hanfodol, fel arolygon neu ddigwyddiadau dewisol.
Eich Hawliau a’ch Dewisiadau
Mae gennych hawl i:
- Gyrchu’r data personol sydd gennym amdanoch chi.
- Gofyn am gywiriadau i wybodaeth anghywir.
- Tynnu caniatâd yn ôl ar gyfer cyfathrebu diangen.
- Gwrthwynebu prosesu lle bo’n berthnasol o dan gyfraith diogelu data.
Gallwch arfer eich hawliau trwy gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data trwy anfon e-bost at dpo@cambria.ac.uk.
Rhannu Eich Gwybodaeth
Caiff eich gwybodaeth bersonol ei thrin yn gyfrinachol. Ni fyddwn yn rhannu eich data gyda thrydydd parti oni bai bod hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu gyda’ch caniatâd penodol.
Sut Rydym yn Diogelu Eich Gwybodaeth
Rydym yn gweithredu mesurau diogelwch priodol i ddiogelu eich data personol rhag cael eu cyrchu heb awdurdod, eu newid neu ddatgelu.
Newidiadau i’r Polisi Hwn
Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd. Rydym yn eich annog i’w hadolygu’n rheolaidd er mwyn cael gwybod sut y byddwn yn diogelu eich gwybodaeth.
Diweddarwyd Diwethaf
Diweddarwyd y polisi hwn ddiwethaf ar – 01/03/2025
I gael gwybodaeth fanylach, cyfeiriwch at ein Polisi Preifatrwydd llawn yn
Diolch am fod yn aelod gwerthfawr o gymuned Coleg Cambria.