Home > Prentisiaethau > Gweld Pob Maes Pwnc > Gofal Ceffylau
Gofal Ceffylau
Os ydych chi wrth eich bodd gyda cheffylau a’r syniad o ofalu amdanynt bob dydd, yna efallai y byddai gyrfa mewn gofal ceffylau yn berffaith i chi. Yng Ngholeg Cambria, gallwn gynnig y dechrau gorau ar gyfer eich dyfodol ym myd ceffyleg. Mae gennym dîm o hyfforddwyr a darlithwyr hynod o gymwys ac ymroddedig i’ch arwain a’ch cynorthwyo chi i lwyddo yn eich gyrfa ddewisol.
Byddwch yn rhan o ddiwydiant sy’n cyfrannu at ddisgyblaethau rasio ac olympaidd byd eang, sy’n bridio rhai o’r ceffylau cystadlu gorau yn y byd. Mae’r ystod helaeth o rolau yn cynnwys marchogion proffesiynol, hyfforddwr, twtiwr i gyfrwywr, milfeddyg, maethegydd, technegydd deintyddol, ffisiotherapydd, ceiropractydd a llawer rhagor.
Prentisiaehau Sylfaen Lefel 2
Prentisiaethau Lefel 3
Mae’r holl Brentisiaethau’n cynnwys y canlynol:
- Asesiadau Cychwynnol a Diagnostig
- Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
- Cymhwyso Rhif
- Cyfathrebu
Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch chi ddechrau prentisiaeth, gallwch chi gael cyflogaeth eich hun neu gallwch chwilio ein swyddi gwag, neu siarad â’n tîm ymroddedig, pa bynnag lwybr rydych chi’n penderfynu sy’n iawn i chi, rydyn ni yma i’ch helpu chi i lwyddo.