Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau

Play Video

Pam Dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Mae sector adeiladu’r DU yn ddiwydiant sydd werth biliynau o bunnoedd ac mae prentisiaid adeiladu yn rhan enfawr o’r gweithlu ar draws disgyblaethau adeiladu amrywiol.

Mae’r sector hwn yn gyfle gwych i ddysgwyr y mae’n well ganddynt fod yn ymarferol yn eu gwaith a gall arwain at swyddi rheoli a thechnegol mewn swyddfa.

Bydd Prentisiaid Adeiladu yn treulio amser yn ein cyfleusterau o’r radd flaenaf a adnewyddwyd yn ddiweddar yn ein safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy neu Ffordd y Bers i gael eu rhyddhau am y dydd o’r gwaith neu i gael eu hasesu yn ogystal â chael eu hasesu ar y safle gan ein timau asesu sydd â phrofiad yn y diwydiant.

Efallai y bydd myfyrwyr sydd am astudio tuag at gymhwyster crefftau adeiladu, plymwaith neu osod trydan yn gallu cwtogi hyd y rhaglen os ydynt wedi cwblhau blwyddyn sylfaen yn llawn amser yn y coleg.

Mae angen i gyflogwyr crefft ac adeiladu gynnwys ystod eang o waith yn eu maes i fodloni gofynion tystiolaeth y cymhwyster.

Bydd gofyn i brentisiaid sy’n astudio cymhwyster adeiladu wneud cymysgedd o dasgau corfforol ar y safle yn y gweithle a bydd angen iddynt fod yn fanwl gywir yn eu gwaith.

Y Prentisiaethau Rydym yn eu Cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth lefel 3 mewn crefftau adeiladu, plymwaith a gosod trydan.

Lefel 3 mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Gosod Electrodechnegol  

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol,  TGAU A-C (9-4) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 48 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Crefftwr Gosodiadau Gwresogi ac Awyru 

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-C (9-4) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 48 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy

Lefel 3 mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Plymwaith a Gwresogi

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-C (9-4) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 48 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Adeiladu – Saernïaeth Bensaernïol

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-D (9-3) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 36 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Adeiladu – Gwaith Saer ar Safle

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-D (9-3) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 36 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Adeiladu – Gosod Brics 

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-D (9-3) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 42 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Adeiladu – Plastro Soled

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-D (9-3) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 42 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Adeiladu – Paentio ac Addurno

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol, TGAU A-D (9-3) mewn Mathemateg, Saesneg a Phwnc Technegol*

Hyd Arferol – 36 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod

Lleoliad – Ffordd y Bers

*Er enghraifft – gwyddoniaeth neu dechnoleg ddylunio

Cyfleusterau Plymwaith a Thrydan

Joel Thomas

Joel Thomas

Wedi astudio – Gwaith Saer ac Asiedydd

Erbyn hyn – Asiedydd yn Annwyl Group

“Dwi wedi mwynhau fy Mhrentisiaeth yn fawr iawn. Mae wedi bod yn gydbwysedd da rhwng gweithio ar safle ac yn y coleg. Dwi’n mwynhau gweithio gyda phawb yn y gweithdy ac mae’r asiedyddion mwy profiadol wedi rhannu cymaint o sgiliau gyda mi.

“Fel dewis gyrfa, faswn i wir yn argymell gwaith asiedydd gan ei fod mor greadigol ac mae cymaint mwy iddo nag oeddwn i erioed wedi’i ddychmygu. Roeddwn i eisiau dysgu crefft erioed a dwi eisiau aros yn y gweithdy unwaith i mi gymhwyso.

“Os ydych chi’n ystyried prentisiaeth, fy nghyngor i ydi ewch amdani 100%, cyn gynted â phosibl. Mae llawer o gefnogaeth ar gael ac mae’n gyfle i gael cyflawni rhai cymwysterau, wrth gael eich talu i ddysgu hefyd.”

Dangos rhagor
Hannah Jones

Hannah Jones

Wedi astudio – Gwaith Saer ac Asiedydd

Erbyn hyn – Asiedydd yn Annwyl Group

“Dwi wedi cwblhau pum mis o fy mhrentisiaeth hyn yn hyn a dwi’n meddwl ei fod mor ddiddorol. Fe wnes i fwynhau gwaith coed yn fawr iawn yn yr ysgol uwchradd ac fe wnes i ddechrau ei wneud fel hobi yn ystod y pandemig.

“Fe wnes i benderfynu mod i eisiau dilyn cwrs gwaith saer ac asiedydd yn y coleg cyn gwneud cais llwyddiannus am brentisiaeth gydag Anwyl.

“Roeddwn i’n un o dair merch wnaeth ddechrau’r cwrs y llynedd yng Ngholeg Cambria, a ni oedd y merched cyntaf erioed i ymuno â’r cwrs hwnnw. Mae crefftau fel gwaith saer yn dal i gael eu dominyddu gan ddynion ond mae hynny’n dechrau newid.

“”Dwi wedi cael cefnogaeth wych gan Goleg Cambria ac Anwyl ers i mi ddechrau. Fy nghyngor i ferched eraill sy’n ystyried dysgu crefft ydi mynd amdani.”

Dangos rhagor
Level 3 Plumbing and Gas Apprentice Ryan Hanley

Ryan Hanley

Wedi Astudio – Plymio a Nwy Lefel 3

Ar Hyn o Bryd –Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Rydw i wedi dysgu sut i roi system gwres canolog i mewn o’r dechrau i’r diwedd ac rydw i’n gwybod fy ffordd o amgylch boeleri, ac rydw i hefyd yn gallu gosod ystafelloedd ymolchi a phlymio mewn ceginau.

“Roedd yr addysgu bob amser yn dda ac roeddwn i’n dod ymlaen yn dda gyda fy holl diwtoriaid a fy asesydd David. Roeddwn i bob amser yn cael fy rhoi ar ben ffordd ac yn teimlo bod pawb yn addysgu’n wahanol gyda rhywbeth i’w roi a chyfrannu at fy nhwf.

“Roedd pawb yn gefnogol iawn wrth fy helpu i gyrraedd lle rydw i heddiw, mae’r ymdeimlad o hyder rydw i wedi’i gael yn treiddio i agweddau eraill ar fy mywyd ac rwy’n teimlo fy mod i wedi tyfu llawer fel person. Cynyddodd fy hyder yn fawr pan wnes i gwblhau’r cymhwyster nwy oherwydd ei fod yn gyfrifoldeb mawr ac mae angen ei gymryd o ddifrif.

“Fy nghyngor i fyfyrwyr eraill yw peidio â digalonni, byddwch yn rhagweithiol, a bod â sgiliau cyfathrebu da o ran trefnu eich tystiolaeth. Ar wahân i hynny cofiwch ddangos parch a gwrandewch ar David!”

Dangos rhagor
Hannah Jones

Hannah Jones

Studied – Carpentry and Joinery

Currently – Carpenter at Annwyl Group

“I’m five months into my apprenticeship and finding it so interesting. I really enjoyed woodwork in high school and took it up as a hobby during the pandemic.

“I decided I wanted to do carpentry and joinery at college before successfully applying for an apprenticeship with Anwyl.

“I was one of just three girls who started last year’s course at Coleg Cambria, and we were the first ever females to join that course. Trades like carpentry are still very male-dominated but that is starting to change.

“I’ve had great support from Coleg Cambria and Anwyl since I started. My advice to other girls considering learning a trade is to go for it.”

Show more

Adran Trydan

Cyfleuster Plymwaith a Gwresogi

Siaradwch â'r tîm

Os rydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
A hairdressing student cutting someone's hair in a salon

Jane Moore

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
A Construction Apprentice in their office looking towards the camera with plans on the stand up table below her

Alice Stansford

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Y Cyflogwyr Rydym yn Gweithio gyda Nhw

The Magellan Aerospace logo
The Electroimpact logo
The Flintshire County Council Logo

Tudalen Pynciau Llawn Amser

Gwybodaeth am y Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.