Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl Gywir

Play Video about A agriculture student standing in the middle of a crop field holding one of the leaves

Pam dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Os nad ydych eisiau gweithio dan do, efallai mai gweithio yn y diwydiant amaethyddol a helpu i dyfu a darparu adnoddau hanfodol yw’r yrfa berffaith i chi!

Mae amaethyddiaeth yn chwarae rhan sylweddol yn economi Cymru, gan gyflogi canran uwch o’r gweithlu yng Nghymru na mewn rhannau arall o’r DU, felly beth am ymuno â ni yn y sector hanfodol hwn!

Bydd prentisiaid yn cael eu hasesu yn y gwaith gan ein timau sydd â phrofiad yn y diwydiant a byddant yn gallu cyrchu adnoddau’r coleg i’w helpu gyda’u hastudiaethau.

Bydd angen i ddysgwyr sy’n cwblhau’r cymwysterau hyn fod â lefel ffitrwydd a chryfder da, gallu gweithio gydag eraill a bod â sgiliau cyfathrebu da.

Y Prentisiaethau rydym yn eu cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth amaethyddiaeth ar Lefel 2 a 3.

Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth

Gofynion Mynediad – Yn gweithio mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth

Gofynion Mynediad – Yn gweithio mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 21 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Cyflogwyr yr ydym yn gweithio â nhw

The Magellan Aerospace logo
The Electroimpact logo
The Flintshire County Council Logo

Tudalen Pynciau Llawn Amser

Gwybodaeth i'r Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.