main logo

Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol

A motor vehicle apprentice standing taking a hero shot in front of a car with the bonnet open
Pwy all wneud prentisiaeth?

16 oed neu'n hŷn

Gall unrhyw un sy'n hŷn nag 16 ymgymryd â phrentisiaeth

Cyflogedig/Uwchsgilio

Os ydych chi'n weithiwr sydd eisiau uwchsgilio a rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa

Cyflogaeth yn y Dyfodol

Gall cyflogwr gynnig eich rhoi chi ar brentisiaeth

Sut mae'n gweithio

Yng Nghymru, mae angen i Brentisiaid fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos i gwblhau Prentisiaeth. Rhaid i’r cyflogwr fod yn awyddus i’ch cefnogi chi gyda’r Brentisiaeth gan y byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle ac efallai y bydd angen i chi fynd i’r coleg yn rheolaidd (mae hyn yn dibynnu ar y cymhwyster) i ddysgu sgiliau newydd a chwblhau unrhyw arholiadau.

Bydd ymarferydd sydd â phrofiad yn y diwydiant yn cael ei bennu i chi a fydd yn dod i’r gweithle ac yn gosod tasgau i chi i gasglu tystiolaeth sy’n mynd tuag at eich cymhwyster. Hefyd byddant yn gwirio eich llesiant ac yn sicrhau nad oes unrhyw broblem neu yn eich cyfeirio chi at gymorth ychwanegol yn Cambria os oes angen.

Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau ar wefan Llywodraeth Cymru
Beth mae prentisiaeth yn ei gynnwys?
1

Ymrwymiad gennych chi i weithio'n galed a bod yn angerddol am eich datblygiad.

2

Ymrwymiad gan eich cyflogwr i gefnogi eich datblygiad a'ch dysgu.

Cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch ymarferydd a'ch tiwtoriaid.

Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, byddwch wedi ennill sawl cymhwyster a thystysgrif prentisiaeth lawn.

Lefelau Prentisiaeth

Gellir darparu Prentisiaethau ar Lefel 2 – Lefel 6

Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2

Dyma’r man cychwyn ar gyfer prentisiaethau, mae’n rhoi’r sylfeini a dealltwriaeth o’r swydd i chi ac mae’n cyfateb i 5 TGAU

Prentisiaeth Lefel 3

Mae Lefel 3 yn ddilyniant naturiol o Lefel 2 ac mae’n rhoi rhagor o wybodaeth fanwl i chi am y pwnc ac mae’n gyfwerth â llwyddo mewn 2 gymhwyster Safon Uwch

Prentisiaeth Uwch Lefel 4 a 5

Mae cymwysterau Lefel 4/5 NVQ a HNC yn gyfwerth â’r flwyddyn gyntaf mewn Prifysgol fel arfer. Mae angen lefel uchel o wybodaeth a dealltwriaeth i astudio ar y lefel hon

Prentisiaeth Gradd Lefel 6

Mae’r cymwysterau Lefel 6 yn raddau a ddarperir mewn partneriaeth â’n partneriaid Prifysgol

Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Cwestiynau Cyffredin

Mae angen i chi fod yn gyflogedig i wneud Prentisiaeth

Gallwch wneud prentisiaeth mewn sawl sector – Cyllid, Digidol, Rheoli, Amaethyddiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo, Gwallt a Harddwch – i enwi ond ychydig!

Rhaid i brentisiaid gael eu talu o leiaf yr isafswm cyflog Prentisiaeth gan eu cyflogwr, ond mae’r rhan fwyaf o leoedd yn talu rhagor. Gallwch weld y gofynion cyflog diweddaraf ar wefan y Llywodraeth

Mae llawer o gymorth ar gael i Brentisiaid trwy’r coleg gan gynnwys trwy eu hasesydd a gwasanaethau myfyrwyr.

Gall prentisiaid hefyd gyrchu ACAS neu wasanaethau cynghori eraill i gael cyngor