Prentisiaethau - Garddwriaeth a Chadwraeth Amgylcheddol

Play Video

Pam Dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Os rydych yn hoff o fod yn yr awyr agored a gweithio’n ymarferol, gall y diwydiant hwn fod yn berffaith i chi, byddwch yn gweithio yn yr awyr agored trwy’r flwyddyn er mwyn cadw mannau yn yr awyr agored i edrych ar eu gorau a byddwch yn datblygu technegau newydd i ddatblygu eich hunain a’r diwydiant.

Bydd prentisiaid yn cael eu hasesu yn y gwaith gan ein timau sydd â phrofiad yn y diwydiant ac yn gallu cyrchu cymorth yn y coleg.

Bydd angen i ddysgwyr a fydd yn cwblhau’r cymwysterau hyn allu bodloni gofynion corfforol o weithio yn yr awyr agored, bydd angen iddynt allu addasu a gweithio fel rhan o dîm.

Y Prentisiaethau Rydym yn eu Cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth lefel2,3,a 4 mewn garddwriaeth a chadwraeth amgylcheddol

Lefel 2 mewn Garddwriaeth

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

 

Lefel 3 mewn Garddwriaeth

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 3 mewn Cadwraeth Amgylcheddol

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 4 mewn Garddwriaeth

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 30 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Alex Evans (1)

Alex Evans

Wedi Astudio – Lefel 2 mewn Blodeuwriaeth

Ar Hyn o Bryd – Gweithio yng Nghlwb Golff Maesdu 

Mi wnes i ddechrau’r cymhwyster yma er mwyn symud ymlaen ac ennill rhagor o wybodaeth yn fy ngwaith. Mi wnes i ennill rhagor o wybodaeth am glefydau a phlâu penodol a sut i’w rheoli nhw mewn modd diogel wrth ddysgu amrywiaeth o bethau am iechyd a diogelwch yn y gweithle.

“Yn sicr mae wedi bod yn fwy buddiol i mi yn fy ngyrfa wrth gael rhagor o wybodaeth o ran swyddi/tasgau penodol. Rydych chi’n dysgu pethau eraill fyddech chi byth wedi gwybod amdanyn nhw heb wneud y gwaith trwy’r coleg.”

Dangos Rhagor
Level 3 Horticulture Apprentice Michelle Evans

Michelle Evans

Wedi Astudio – Prentisiaeth Lefel 3 mewn Garddwriaeth

Ar Hyn o Bryd – Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau ar Outco

Dwi wir wedi mwynhau gweithio drwy’r cwrs yma. Dwi’n teimlo mod i wedi ennill rhagor o wybodaeth yn y meysydd dan sylw ac roedd fy nhiwtor bob amser yn barod i gynnig help pan fo angen ac yn llawn gwybodaeth am yr holl feysydd.”

Dangos Rhagor
Level 2 & 3 Horticulture Apprentice Lee Jones

Lee Jones

Wedi Astudio – Prentisiaeth Lefel 2 a 3 mewn Garddwriaeth

Ar Hyn o Bryd – Gofalwr Griniau Cynorthwyol ar Clwb Golff Conwy

“Dwi wedi cofrestru yng Ngholeg Cambria ers 2 flynedd bellach yn astudio cwrs dyfarniad Lefel 3 dysgu yn y gwaith mewn garddwriaeth. Mae’n rhaid i mi ddweud ei bod wedi bod yn daith wych ac yn ddefnyddiol iawn yn fy ngwaith bob dydd.

“Mae’r gefnogaeth dwi wedi’i chael gan fy nhiwtor wedi bod yn anghredadwy a bydda’ i bob amser yn ddiolchgar iawn am ei hamser, ei hymdrech a’i harbenigedd.”

Dangos Rhagor
Level 2 Horticulture Apprentice Dylan Evans

Dylan Evans

Wedi Astudio – Prentisiaeth Lefel 2 mewn Garddwriaeth

Ar Hyn o Bryd – Cwrs Golff Pwllglas Rhuthun

Dwi wedi mwynhau’r ddwy flynedd o astudio’r cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 a dwi’n teimlo eu bod nhw wedi bod o fudd mawr i mi yn fy ngwaith a’m bywyd o ddydd i ddydd. Dwi’n teimlo mod i’n fwy hyderus a bod fy nysgu wedi gwella’n sylweddol. 

“Mae Maria wedi bod yn ymarferydd dysgu yn y gwaith gwych ac wedi bod mor barod i helpu, gan roi amser i mi ddod i arfer gydag elfen TG y cwrs yn ogystal â fy annog i edrych ar bethau yn y ffordd orau.”

Dangos Rhagor

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
A hairdressing student cutting someone's hair in a salon

Jane Moore

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
A Construction Apprentice in their office looking towards the camera with plans on the stand up table below her

Alice Stansford

“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.

I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Y Cyflogwyr Rydym yn Gweithio Gyda Nhw

The Magellan Aerospace logo
The Electroimpact logo
The Flintshire County Council Logo

Gwybodaeth i'r Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.