Gwneuthuro a Weldio

Play Video about A Fabrication & Welding student using a piece of equipment to smooth a metal object in a clamp whilst sparks fly off

Pam Dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Mae gwneuthuro a weldio yn ddiwydiant anferth sy’n gweithgynhyrchu gwaith metal ar gyfer amrywiaeth eang o diwydiannau a defnyddiau.

Bydd prentisiaid yn treulio amser yn ein cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd wedi’u hadnewyddu’n ddiweddar ar ein safle Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers ar gyfer diwrnod rhyddhau o’r gwaith neu asesiad. Yn ogystal â hynny byddant yn cael eu hasesu ar y safle gan ein timau asesu sy’n cael eu gwasanaethu gan y diwydiant.

Dylai prentisiaid gwneuthuro a weldio gael sgiliau ymarferol da a gallu dilyn gwybodaeth dechnegol a diagramau.

Y Prentisiaethau Rydym yn eu Cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth lefel 2 a 3 mewn Gwneuthuro a Weldio.

Lefel 2 mewn Gwneuthuro a weldio

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesu yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith ar ddiwrnod

Lleoliad – Y gweithle a Glannau Dyfrdwy neu Ffordd y Bers

Lefel 3 mewn Gwneuthuro a weldio

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 – 22 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesu yn y gwaith a rhyddhau o’r gwaith ar ddiwrnod

Lleoliad – Y gweithle a Glannau Dyfrdwy neu Ffordd y Bers

Level 2 & 3 Fabrication & Welding Apprentice Iain Byrne

Iain Byrne

Wedi Astudio – Lefel 1, 2 & 3 mewn Gwneuthuro a weldio

Ar Hyn o Bryd – Rheolwr Gwelliant a Chynnal a Chadw Parhaus ar Steel4Structures

Fe wnes i astudio Gwneuthuro a Weldio yng Ngholeg Cambria a chwblhau fy lefel 1 yn llawn amser cyn mynd ymlaen i wneud lefel 2 a 3 fel Prentis gyda Steel4Structures.

“Dechreuais fy mhrentisiaeth fel weldiwr/gwneuthurwr a gweithiais fy ffordd i fyny i fod yn Oruchwyliwr Cynhyrchu. Ym mis Medi cefais fy nyrchafu i fod yn Rheolwr Cynnal a Chadw a Gwelliant Parhaus lle rwy’n trwsio offer ac yn gwella’r gweithdy o ran effeithlonrwydd a chysur a mwynhad gweithwyr. Erbyn hyn rwy’n astudio HNC mewn Peirianneg Fecanyddol yng Nghanolfan Brifysgol Cambria.

“Mi wnes i wir fwynhau astudio yng Ngholeg Cambria a dyna pam wnes i benderfynu astudio fy HNC yno. Mae’r gweithdai weldio yn wych ac wedi’u trefnu’n dda gydag offer da ac roedd hynny’n bendant yn help i wella fy sgiliau yn gyflym. Mae’r darlithwyr a’r ymarferwyr yn y gwaith yn wych, yn wybodus iawn ac roedd dosbarthiadau llai o ran maint yn golygu ein bod ni’n gallu gwneud y gorau o’r sesiynau.

“Cefais gyfle hefyd i gymryd rhan yng nghystadlaethau Sgiliau Cymru ac enillais y wobr aur yn 2020 a 2021 am waith metel adeiladu.

“Fel myfyriwr hŷn oedd yn newydd i’r diwydiant, rhoddodd y cyrsiau sylfaen a gwybodaeth waith gwych i mi, fe wnaeth fy helpu i gael prentisiaeth gyda Steel4Structures ac mae wedi agor drysau newydd i mi o fewn y cwmni.”

Dangos Rhagor
Level 2 Children's, Care, Play, Learning and Development apprentice Tracey Griffiths

Tracey Griffiths

Studied – Level 2 Children’s, Care, Play, Learning and Development

Currently – Nursery Practitioner & Temporary Room Manager at The Homestead Day Nursery

“I came back into education as I wanted a change of career, I applied and was offered a role with The Homestead as an Apprentice Nursery Practitioner with the understanding that I complete my level 2 in childcare alongside my new job.

“Being an Apprentice has enabled me to start my journey into childcare whilst still working and it has helped me to find a career I now love, all in just over a year. My Work Based Learning Practitioner Lisa was so supportive and encouraging throughout the course which made a huge difference. The week I completed the course I was offered the Temporary Room Managers role to cover maternity leave.

“Starting an Apprenticeship at a later stage in your working life can be daunting but age is just a number, follow what feels right! You are never too late to start a new journey.”

Dangos Rhagor

Ystyried Prentisiaeth? | Taith Charlotte Kronospan

Play Video

Cyfleusterau Gwneuthuro a Weldio

Gweithdy Gwneuthuro a Weldio

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Y Cyflogwyr Rydym yn Gweithio Gyda Nhw

The Magellan Aerospace logo
The Electroimpact logo
The Flintshire County Council Logo

Tudalen Pynciau Llawn Amser

Gwybodaeth am y Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.