Home > Prentisiaethau > Gweld Pob Maes Pwnc > Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gwybodaeth am Brentisiaethau
Pam Dewis Prentisiaeth?
Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.
Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.
Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.
Mae Prentisiaid Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithio mewn diwydiant hanfodol wrth ddarparu cymorth a gofal i unigolion, gan eu galluogi nhw i fyw mor gyfforddus ac annibynnol â phosib.
Mae’r sector gofal yn amrywiol, gall prentisiaid gefnogi unigolion sy’n byw mewn lleoliadau fel cartrefi gofal, preswyl neu nyrsio, yn y gymuned gyda chymorth neu gartref yr unigolyn ei hun.
Bydd prentisiaid sy’n ymgymryd â’r cymhwyster hwn yn ennill gwybodaeth greiddiol sy’n gysylltiedig â gofal, naill ai ar-lein neu yng ngweithle’r prentisiaid, neu ar un o’n safleoedd y coleg cyn i’w gwaith ymarferol gael ei asesu yn y gweithle.
Mae’n rhaid i’r rhai sy’n dymuno gweithio mewn gofal fod yn amyneddgar, parchus, gofalgar, bod â sgiliau cyfathrebu da a gallu gweithio fel rhan o dîm.
Y Prentisiaethau Rydym yn eu Cynnig
Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth lefel 2, 3, 4 a 5 mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn amgylchedd gofal
Hyd Arferol – 19 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a phresenoldeb gweithdy
Lleoliad – Yn y gweithle, o bell, yn y coleg
Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
Gofynion Mynediad – Cymhwyster craidd a chyflogaeth mewn amgylchedd gofal.
Hyd Arferol – 19 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a phresenoldeb gweithdy
Lleoliad – Yn y gweithle
Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Plant a Phobl Ifanc
Gofynion Mynediad – Cymhwyster craidd a chyflogaeth mewn amgylchedd gofal.
Hyd Arferol – 19 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith a phresenoldeb gweithdy
Lleoliad – Yn y gweithle
Lefel 4 mewn Arferion Proffesiynol
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol. Gweithio ar lefel Arweinydd Tîm.
Hyd Arferol – 24 mis
Dull Astudio ac Asesu – Rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod gydag aseiniadau ysgrifenedig ac asesiad yn y gwaith.
Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer
Gofynion Mynediad – Lefel 4 mewn Paratoi ar gyfer arwain a rheoli. Dirprwy Reolwr neu Reolwr Cofrestredig
Hyd Arferol – 36 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiadau gyda’r asesydd yn y gweithle. Prosiect gwella busnes.
Ymweld â'n horiel
Astudiaethau Achos
Kimberly Jones
“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.
I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”
Jane Moore
“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.
I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”
Alice Stansford
“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.
I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!
Y Cyflogwyr Rydym yn Gweithio Gyda Nhw
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16 oed neu'n hŷn
Gall unrhyw un sy'n hŷn nag 16 ymgymryd â phrentisiaeth
Cyflogedig/Uwchsgilio
Os ydych chi'n weithiwr sydd eisiau uwchsgilio a rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa
Cyflogaeth yn y Dyfodol
Gall cyflogwr gynnig eich rhoi chi ar brentisiaeth
Sut mae'n gweithio
Yng Nghymru, mae angen i Brentisiaid fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos i gwblhau Prentisiaeth. Rhaid i’r cyflogwr fod yn awyddus i’ch cefnogi chi gyda’r Brentisiaeth gan y byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle ac efallai y bydd angen i chi fynd i’r coleg yn rheolaidd (mae hyn yn dibynnu ar y cymhwyster) i ddysgu sgiliau newydd a chwblhau unrhyw arholiadau.
Bydd ymarferydd sydd â phrofiad yn y diwydiant yn cael ei bennu i chi a fydd yn dod i’r gweithle ac yn gosod tasgau i chi i gasglu tystiolaeth sy’n mynd tuag at eich cymhwyster. Hefyd byddant yn gwirio eich llesiant ac yn sicrhau nad oes unrhyw broblem neu yn eich cyfeirio chi at gymorth ychwanegol yn Cambria os oes angen.
Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau ar wefan Llywodraeth Cymru
Beth mae prentisiaeth yn ei gynnwys?
Ymrwymiad gennych chi i weithio'n galed a bod yn angerddol am eich datblygiad.
Ymrwymiad gan eich cyflogwr i gefnogi eich datblygiad a'ch dysgu.
Cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch ymarferydd a'ch tiwtoriaid.
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, byddwch wedi ennill sawl cymhwyster a thystysgrif prentisiaeth lawn.
Lefelau Prentisiaeth
Gellir darparu Prentisiaethau ar Lefel 2 – Lefel 6
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2
Dyma’r man cychwyn ar gyfer prentisiaethau, mae’n rhoi’r sylfeini a dealltwriaeth o’r swydd i chi ac mae’n cyfateb i 5 TGAU
Prentisiaeth Lefel 3
Mae Lefel 3 yn ddilyniant naturiol o Lefel 2 ac mae’n rhoi rhagor o wybodaeth fanwl i chi am y pwnc ac mae’n gyfwerth â llwyddo mewn 2 gymhwyster Safon Uwch
Prentisiaeth Uwch Lefel 4 a 5
Mae cymwysterau Lefel 4/5 NVQ a HNC yn gyfwerth â’r flwyddyn gyntaf mewn Prifysgol fel arfer. Mae angen lefel uchel o wybodaeth a dealltwriaeth i astudio ar y lefel hon
Prentisiaeth Gradd Lefel 6
Mae’r cymwysterau Lefel 6 yn raddau a ddarperir mewn partneriaeth â’n partneriaid Prifysgol
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!
Cwestiynau Cyffredin
Mae angen i chi fod yn gyflogedig i wneud Prentisiaeth
Gallwch wneud prentisiaeth mewn sawl sector – Cyllid, Digidol, Rheoli, Amaethyddiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo, Gwallt a Harddwch – i enwi ond ychydig!
Rhaid i brentisiaid gael eu talu o leiaf yr isafswm cyflog Prentisiaeth gan eu cyflogwr, ond mae’r rhan fwyaf o leoedd yn talu rhagor. Gallwch weld y gofynion cyflog diweddaraf ar wefan y Llywodraeth
Mae llawer o gymorth ar gael i Brentisiaid trwy’r coleg gan gynnwys trwy eu hasesydd a gwasanaethau myfyrwyr.
Gall prentisiaid hefyd gyrchu ACAS neu wasanaethau cynghori eraill i gael cyngor