Home > Prentisiaethau > Popeth sydd angen i chi ei wybod
Prentisiaethau: Popeth sydd angen i chi ei wybod
Pam dewis prentisiaeth?
Cwestiynau cyffredin
Sut i wneud cais
Pam Dewis Prentisiaeth?
Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.
Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.
Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.
Mae dysgu wedi’i gyfuno rhwng y gweithle o dan oruchwyliaeth hyfforddwyr cymwys gyda hyfforddiant yng Ngholeg Cambria i gefnogi hynny.
Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ddechrau eich gyrfa ac agor y drws i ragolygon cyflogaeth cyffrous yn y dyfodol!
Prif Fanteision
Ennill cyflog
Cael hyfforddiant
Ennill cymhwyster cydnabyddedig
Datblygu sgiliau wrth weithio
Gwyliau â thâl
*Mae prentisiaethau Lefel 2 a 3 wedi'u hariannu i bob oedran
Mae modd ariannu prentisiaethau uwch ar gyfer pob oedran (yn amodol ar feini prawf cymhwysedd).
Mae prentisiaid yn cael eu hyfforddi yn y gwaith ac yn y coleg. Bydd faint o amser rydych yn ei dreulio yn y coleg yn dibynnu ar ba brentisiaeth rydych yn ei dilyn.
* Gall meini prawf cymhwysedd eraill fod yn berthnasol (fel amser yn y swydd).
Gweld Pob Maes Pwnc
Sgiliau Hanfodol
Mae sgiliau hanfodol yn rhan bwysig o’ch prentisiaeth. Eu nod yw gwella eich llythrennedd, rhifedd a’ch llythrennedd digidol. Maent yn eich helpu chi i gyflawni eich prentisiaeth ac maen nhw ar gael hyd at Lefel 3, yn dibynnu ar y cymwysterau sydd gennych chi yn barod (a’r brentisiaeth rydych chi’n ei dilyn).
Mae pob prentis yn cael asesydd sy’n cefnogi eich dysgu.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf fi?
Mae prentisiaethau ar gael ar wahanol lefelau. Mae’r cymwysterau sydd gennych chi yn pennu ar ba lefel fyddwch chi’n dechrau arni; bydd angen i chi fod yn gweithio mewn swydd addas hefyd.
Mae’r holl brentisiaethau’n cynnwys asesiad llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol cychwynnol.
Beth yw'r lefelau gwahanol?
Prentisiaethau sylfaen lefel 2
Mae gan bob rhaglen ofynion mynediad gwahanol, o ddim cymwysterau ffurfiol i lefelau penodol o Saesneg a Mathemateg.
Prentisiaethau lefel 3
Fel arfer byddai angen pump TGAU gradd A* i C arnoch chi (gan gynnwys Saesneg a Mathemateg), neu mae angen i chi fod wedi cwblhau prentisiaeth lefel 2.
Prentisiaethau uwch lefel 4
Fel arfer mae angen i chi fod wedi cwblhau prentisiaeth lefel 3 neu fod â chymwysterau, sgiliau neu brofiad cyfwerth.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Mae’n dechrau ar isafswm cyflog prentis ond mae llawer o gyflogwyr yn talu rhagor.
Dim problem! Mae llawer o gwmnïau yn defnyddio prentisiaethau i ail hyfforddi staff, neu fel cyfle i ddysgu a datblygu.
Mae llawer o opsiynau gwahanol ar gael i chi gan gynnwys Hyfforddeiaeth. Byddwch chi’n cael lwfans hyfforddi tra rydych chi’n ymgymryd â’r rhaglen ac mae’n gallu eich rhoi chi mewn lle gwell i gael prentisiaeth.
Byddwch chi’n ennill cymwysterau sy’n cael eu cymeradwyo gan y diwydiant a phrofiad gwaith helaeth yn ystod prentisiaeth. Mae rhai prentisiaethau uwch yn cynnwys Graddau Sylfaen, HNC neu Raddau. Gall hyn eich gwneud chi’n fwy cyflogadwy na rhywun graddedig – roedd Syr Alex Ferguson, Rebecca Adlington OBE a John Frieda i gyd yn brentisiaid.
Mae hyd prentisiaeth yn dibynnu ar y math o gymhwyster a lefel y cymhwyster. Gall prentisiaeth gymryd rhwng 1 a 4 blynedd i’w chwblhau.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru.
Rhaid i chi fod: Yn 16 oed neu’n hŷn. Wedi gweithio o leiaf 16 awr Gwaith 51% o’r amser yng Nghymru am gyfnod eich prentisiaeth. Ddim mewn addysg amser llawn.
Gwneud Cais am Brentisiaeth
Os ydych chi wedi penderfynu yr hoffech roi hwb i’ch gyrfa gyda phrentisiaeth, y cam nesaf yw gwneud cais am un sy’n iawn i chi. Rydym wedi manylu ar yr opsiynau isod, ond os oes gennych chi unrhyw gwestiynau anfonwch e-bost at Cambria ar gyfer Busnes neu ffoniwch 0300 30 30 006!
Rydym Wedi Amlinellu’r Broses Isod mewn Tri Cham Rhwydd
Darganfod Prentisiaethau
I ddod o hyd i brentisiaethau, mae nifer o adnoddau ar-lein i edrych arnynt. Mae Siop Swyddi Cambria yn lle gwych i ddechrau, ond mae Gyrfa Cymru a gwefannau swyddi hefyd a fydd yn rhestru cyfleoedd wrth iddynt godi. Efallai y bydd gennych chi gysylltiadau personol trwy ffrindiau neu deulu sy'n gwybod am swyddi gwag.
Paratowch
Unwaith y byddwch yn gweld swydd wag rydych am wneud cais amdani, paratowch i gyflwyno cais o ansawdd uchel a byddwch yn barod ar gyfer proses gyfweld bosibl, yn debyg i gyfweliad swydd. Cymerwch eich amser, crëwch gais rydych chi'n falch ohono a gofynnwch i rywun ei adolygu cyn i chi ei gyflwyno.
Siaradwch â'ch cyflogwr
Unwaith y byddwch chi mewn cyflogaeth, gallwch siarad â'ch cyflogwr am ddod yn brentis. Os ydynt yn cytuno, cysylltwch â Thîm Ymgysylltu â Chyflogwyr Cambria ar gyfer Busnes ar 0300 30 30 006 neu dros e-bost i drafod y camau nesaf.
Gofynion Mynediad Cyffredinol
Mae’r gofynion mynediad cyffredinol i ddod yn brentis yng Nghymru fel a ganlyn:
- Rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn
- Cael eich cyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos
- Gweithio 51% yng Nghymru trwy gydol eich prentisiaeth
- Peidio â bod mewn addysg amser llawn.
Angen Cyngor?