Background Splash

Gan Alex Stockton

physicsolympiad

Cafodd dysgwyr o Goleg Cambria ganlyniadau syfrdanol yn Olympiad Ffiseg Prydain (BPhO), sef cyfres o gystadlaethau sy’n cael eu goruchwylio gan ddarlithwyr enwog o brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

Cafodd tîm o saith oedd yn cynrychioli Chweched Iâl yn Wrecsam ddau ganmoliaeth, tair medal efydd, un arian ac un aur, a enillwyd gan Lois Jones, o Wersyllt.

Safodd y myfyrwyr ddau bapur arholiad heriol i brofi eu gwybodaeth am y pwnc, gan gystadlu’n erbyn dros 3,700 o ddysgwyr o 550 o ysgolion ledled y DU.

Dywedodd y darlithydd Rob Jones ei fod yn “hynod falch” o’r grŵp, gan ychwanegu: “Mae hyd yn oed cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon yn andros o gamp, mae’n rhywbeth pwysig dros ben mewn addysg ffiseg.

“Felly, mae ennill medalau a chyflawni’r aur yn anhygoel, rwy’n hynod falch ohonyn nhw i gyd.

“Maen nhw wedi gweithio mor galed, ac mae bod yn rhan o’r Olympiad yn dangos eu bod nhw ymhlith y ffisegwyr a’r datryswyr problemau ifanc gorau yn y DU.

“Rwy’n hyderus eu bod nhw wedi mwynhau’r broses a’u bod nhw’n gallu cymhwyso’r hyn maen nhw wedi’i ennill i’r llwybr academaidd neu yrfa o’u dewis nhw yn y dyfodol.”

Cynhelir Olympiad Ffiseg Prydain gan bum aelod o’r pwyllgor a thîm mawr o athrawon ac academyddion ffiseg gwirfoddol o bob cwr o’r wlad.

Mae yna gyfle bob amser i athrawon newydd gymryd rhan yn un o sawl agwedd ar y BPhO, o ysgrifennu cwestiynau, gwirio papurau arholiad, cefnogi myfyrwyr drwy fentora ar-lein, datblygu cwestiynau i’r tîm, helpu gyda hyfforddiant arbrofol ymarferol neu helpu i ddatblygu’r BPhO mewn ffyrdd newydd.

Am ragor o wybodaeth am Olympiad Ffiseg Prydain, ewch i BPhO.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Accessibility Tools