Wrth i’ch person ifanc ddechrau yn y coleg am y tro cyntaf, bydd bywydau y ddau ohonoch yn newid, yn ogystal â’r ffyrdd y byddant eich angen chi. Y peth pwysicaf yw y byddant eich angen chi o hyd. Byddwn ni yng Ngholeg Cambria yn cynorthwyo eich person ifanc i ennill y sgiliau a’r cymwysterau cywir i’w paratoi nhw ar gyfer bywyd ar ôl y coleg, ond ar gyfer datblygu personol, annibyniaeth a sefydlogrwydd, byddant yn chwilio am gymorth gennych chi.
Gall dysgu i lywio’r rhan newydd yma o’u bywyd fod yn frawychus ac yn heriol, i chi yn ogystal ag iddyn nhw, a dyna pam rydym yma i’ch cynorthwyo chi a’ch person ifanc.
Yng Ngholeg Cambria byddwn yn annog eich person ifanc i gyflawni eu potensial llawn, gan gynyddu eu hyder a rhoi profiadau go iawn iddynt i sicrhau pan fyddant yn gadael y coleg eu bod yn barod ar gyfer eu camau nesaf.
Bydd myfyrwyr yn astudio mewn cyfleusterau gwych, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf a byddant yn cael eu haddysgu gan staff arbenigol, a fydd yn rhoi’r offer angenrheidiol iddynt ar gyfer addysg uwch, prentisiaeth neu yrfa wych.
Bydd pob myfyriwr yn cael cymorth anogwr cynnydd a fydd yn cyflwyno ein rhaglen MADE sef Cynyddu Cyrhaeddiad a Datblygu Pawb i sicrhau eu bod ar y trywydd iawn i lwyddo a byddant yn cael sesiynau hyfforddi grŵp a thiwtorialau un i un rheolaidd.
Mae ein perthynas gyda myfyrwyr yn cynnwys chi fel eu rhiant neu warcheidwad, felly mae pob croeso i chi gysylltu â gwasanaethau myfyrwyr os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau ynghylch cynnydd eich person ifanc yn y coleg. Byddwn yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda chi drwy adroddiadau a nosweithiau rhieni hefyd i roi gwybodaeth i chi ynglŷn â’u cynnydd.
Hoffwn glywed eich safbwyntiau ar brofiad eich person ifanc yn Cambria. Er mwyn i ni gael yr wybodaeth bwysig hon, bob blwyddyn rydym yn cysylltu â rhieni trwy ein Harolwg Rhieni blynyddol.
Croeso i Goleg Cambria lle byddwch yn astudio mewn cyfleusterau
ardderchog, yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ac yn cael cymorth gan ein
staff arbenigol a fydd yn eich ysbrydoli i lwyddo. Rydym yn goleg arobryn sy’n
defnyddio dull cynhwysol i annog a chefnogi ein holl ddysgwyr i fod y gorau
gallan nhw fod.
Efallai y byddwch yn poeni am symud o ysgol lai i’r hyn sy’n teimlo fel coleg mawr, ond byddwch yn cael cymorth bob cam o’r ffordd.
Rydym yn ymfalchïo nid yn unig yn y dysgu yn yr ystafell ddosbarth a’r cymorth ychwanegol rydym yn ei gynnig yno, ond hefyd yn y cymorth bugeiliol pwrpasol ychwanegol y bydd eich Anogwr Cynnydd personol yn ei roi i chi i sicrhau eich bod chi’n cyflawni eich rhaglen.
Yn ddiweddar, rydym wedi cynyddu’r cymorth hollgynhwysol ar gyfer dysgwyr y tu allan i’r ystafell ddosbarth i sicrhau y gallwch gyflawni eich nodau gyda chymorth pwrpasol gan ein staff iechyd a llesiant ac anogwyr gwytnwch i ddiwallu eich anghenion unigol. Bydd ystod eang o weithgareddau chwaraeon a llesiant am ddim ar gael i chi trwy ein rhaglen Cambria Heini, yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o glybiau a gweithgareddau Llais
Myfyrwyr hefyd.
Ar bob un o’n safleoedd, gall ein holl fyfyrwyr gael brecwast am ddim yn ein lleoedd bwyd i’w helpu i gael dechrau da i’r diwrnod a chanolbwyntio trwy’r dydd! Rydym yma i’ch helpu i ennill y sgiliau a’r cymwysterau iawn i’ch paratoi ar gyfer bywyd ar ôl gadael y coleg, p’un a ydych chi’n dymuno mynd i astudio ar lefel brifysgol, dechrau prentisiaeth neu ddechrau gyrfa wych.
Sue Price
Pennaeth
Coleg Cambria
Diogelwch a lles eich person ifanc yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym wedi ymrwymo i wneud pob ymdrech i wneud yn siŵr bod ein myfyrwyr a’n staff yn ddiogel ac yn cael eu gwarchod rhag unrhyw niwed. Mae Tîm Diogelu y coleg yn cynnig cymorth ac arweiniad i blant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed, neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol.
Mae gennym ddyletswydd i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed rhag bygythiad syniadau eithafol, dylanwad grwpiau terfysgol a pheryglon radicaleiddio. Mae ein Strategaeth Prevent yn nodi ein dulliau a’n cyfrifoldebau. Mae’n canolbwyntio ar addysg, parch a darparu lle diogel i’n myfyrwyr i drafod materion, holi cwestiynau a rhannu safbwyntiau a nodau i helpu pobl warchod eu hunain.
Gallwch chi neu eich person ifanc gysylltu â’r tîm unrhyw bryd ar 0300 30 30 009 neu anfon e-bost at safeguarding@cambria.ac.uk. Fel arall galwch heibio’r Gwasanaethau Myfyrwyr ar unrhyw un o’n safleoedd.
Os fyddwch chi’n ymuno â ni fel myfyriwr llawn amser, mae digonedd o gymorth ar gael i chi. Bydd yr ystod o gymorth ariannol yn dibynnu ar eich amgylchiadau a ble byddwch chi’n astudio.
Mae’r Lwfans Cynnal Addysg (LCA) Cymru ar gael i chi os ydych yn fyfyriwr llawn amser 16 i 18 oed sy’n byw yng Nghymru. Os ydych yn gymwys byddwch yn cael lwfans o £40 yr wythnos.
Cyn i chi wneud cais ar gyfer y LCA mae ychydig o bethau y bydd angen i chi wirio i sicrhau eich bod yn gymwys, fel:
Gwnewch gais drwy becyn gwneud cais sydd i’w gael o’r Gwasanaethau Myfyrwyr neu drwy lawrlwytho ffurflen gais o’r wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gael i chi os ydych yn fyfyriwr 19 oed neu’n hŷn ac ar gwrs llawn amser neu ran amser dros 275 awr y flwyddyn ac rydych chi’n byw yng Nghymru. Mae’n grant o hyd at £1,500 sydd wedi’i asesu ar incwm, ac sydd â’r nod o’ch annog chi i barhau gyda’ch addysg, ble na allai hyn fod yn bosibl fel arall. Gwnewch gais drwy becyn gwneud cais sydd i’w gael o’r Gwasanaethau Myfyrwyr neu drwy lawrlwytho ffurflen gais o’r wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn ar gael i chi os ydych yn fyfyriwr llawn amser neu ran amser sy’n 16 oed neu’n hŷn, ac sydd ag anawsterau wrth gwblhau eich cwrs oherwydd heriau ariannol. Gall yr arian eich helpu gyda chostau astudio fel gofal plant neu gyfarpar.
I fod yn gymwys mae angen i chi:
Gwnewch gais drwy gael Ffurflen Gais gan y Gwasanaethau Myfyrwyr.
Mae gennym ganolfan gofal plant groesawgar a chartrefol yn Cambria, sef Toybox yng Nglannau Dyfrdwy. Gallwn gynnig cymorth ariannol i chi os oes angen. Darllenwch am y feithrinfa a beth allwn ei gynnig i chi a’ch plentyn isod.
Yma ym Meithrinfa Toybox, rydym am wneud yn siŵr eich bod chi a’ch plentyn yn dod i amgylchedd sy’n gynnes a chyfeillgar, a dyna pam rydym yn falch o ddweud ein bod yn cynnig y gofal plant gorau yn y lleoliad harddaf.
Rydym yn darparu ‘gofal addysgol’ i blant rhwng 3 mis a phum mlwydd oed, gyda chymysgedd iach o ddysgu a chwarae. Mae ein cwricwlwm wedi’i adeiladu o amgylch meysydd i gefnogi ac annog llesiant a datblygiad personol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deallusol eich plentyn.
Mae gan bob maes o fewn y feithrinfa gwricwlwm i’w ddilyn, sy’n cynnwys datblygu personol a chymdeithasol, iaith a llythrennedd, mathemateg, datblygu corfforol a chreadigol.
Mae gennym bum ystafell ar gyfer pum grŵp oedran gwahanol. Mae’r ystafell lindysyn ar gyfer plant 0-12 mis. Mae’n llawn o deganau confensiynol a gweithgareddau cyfannol fel basgedi trysor, swigod, cerddoriaeth a chwarae dŵr i annog y babanod i archwilio a mwynhau eu hamgylchedd dan do ac yn yr awyr agored.
Mae ein hystafell buwch goch gota ar gyfer plant 12-18 mis oed. Yno maent yn cael eu hannog i symud rhagor trwy chwarae meddal, teganau gwthio ymlaen a rhagor.
Caiff y plant yn yr ystafell pili-pala (18 mis oed – 2½ oed) eu hannog i gyfathrebu, chwarae gyda’i gilydd ac i ddod o hyd i’w llais wrth wneud gweithgareddau megis pobi a chwarae â thywod.
Yn yr ystafell gwenyn, mae plant 2½ – 3 oed yn cael ystod eang o gyfleoedd dysgu trwy dywod, chwarae hydrin, llyfrau, chwarae bloc, chwarae archwiliadol, chwarae rôl a symud.
Mae’r plant yn yr ystafell sioncyn y gwair (3-5 oed) yn dilyn Y Cyfnod Sylfaen, sy’n caniatáu i’ch plant fod yn greadigol, yn ddychmygus ac i gael hwyl wrth ddysgu. Mae hyn yn rhoi sgiliau i blant adeiladu arnynt a datblygu yn barod ar gyfer yr ysgol.
Ein horiau agor yw:
Dydd Llun – 8.00am – 5.45pm
Dydd Mawrth – 8.00am – 5.45pm
Dydd Mercher – 8.00am – 5.45pm
Dydd Iau – 8.00am – 5.45pm
Dydd Gwener – 8.00am – 5.45pm
Mae Meithrinfa Toybox ar agor drwy gydol y flwyddyn ac eithrio Gwyliau Banc, ac un wythnos adeg y Nadolig. Sylwer os bydd y feithrinfa ar agor ar Noswyl Nadolig, yr amser cau fydd 1.00pm.
Rydym wedi’n lleoli ar safle Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy. Os oes angen i chi gysylltu â ni ffoniwch 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at toybox@cambria.ac.uk
Nid ydym am i anawsterau ariannol amharu ar eich addysg. Os ydych chi’n astudio’n llawn amser yng Ngholeg Cambria (neu’n dymuno gwneud hynny), os oes gennych chi blant sy’n iau nag oedran ysgol a’ch bod ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at gostau gofal plant.
Cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.
Yma yng Ngholeg Cambria mae gennym ni gysylltiadau da, gyda chludiant ar gael o amrywiaeth eang o leoliadau ledled Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Nid yn unig hynny; os ydych chi’n fyfyriwr llawn amser neu addysg uwch, rydyn ni’n cynnig cludiant â chymhorthdal un ai teithio ar fysiau’r Coleg neu docynnau bysiau cyhoeddus Arriva.
I fod yn gymwys am gludiant â chymhorthdal bydd angen i chi fyw dros 3 milltir o safle’r coleg agosaf sy’n cyflwyno’ch dewis o gwrs*. Os ydych chi’n teithio ar eich beic, bydd rheseli beiciau ar gael i chi yn y rhan fwyaf o safleoedd.
*Yn amodol ar gymhwysedd
Os na allwch chi ddod o hyd i’ch llwybr, peidiwch â phoeni! Rydyn ni wrth law i ddod o hyd i’r ffordd hawsaf a chyflymaf i chi ein cyrraedd ni. Ffoniwch 0300 30 30 007 a byddwn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i deithio’n ddiogel i’r coleg ac oddi yno.
Gallwch weld amserlenni bysiau’r coleg a mannau codi drwy lawrlwytho’r dogfennau defnyddiol isod.
Peidiwch â phoeni, rydym yma i helpu. Nid yw pob safle wedi’i restru ar yr amserlenni, felly ffoniwch ni neu anfonwch e-bost at transport@cambria.ac.uk a gallwn drafod eich opsiynau cludiant.
Gall darparwyr cludiant a gwybodaeth amserlenni newid. Er eglurder, cysylltwch â’r Gwasanaethau Myfyrwyr dros y ffôn/e-bost gan ddefnyddio’r manylion uchod.