Home > Rhybudd Tywydd Garw
Mae'r bysiau yn dod yn gynnar i gasglu myfyrwyr
Dyddiad: 20/10/23
Mae’r rhif ffôn hwn ar gael 7am – 6.30pm ddydd Llun i ddydd Iau a 7am – 6pm ar ddydd Gwener. Ond bydd ar gael tan 6.30pm heddiw.
Cau Safle Llysfasi
Oherwydd bod llifogydd yn effeithio ar y ffyrdd o amgylch ein safle Llysfasi, rydym wedi penderfynu cau’r safle am weddill y diwrnod. Mae trefniadau wedi’u gwneud i’r bysiau ddod yn ôl i’r safle er mwyn sicrhau taith ddiogel adref i’n myfyrwyr sydd ar y safle. Bydd staff yn aros ar y safle nes bod pob myfyriwr wedi gadael y safle yn ddiogel.
Cludiant Coleg
Oherwydd yr amodau anffafriol parhaus ar safleoedd ein Colegau, rydym yn gwneud trefniadau ar hyn o bryd i’n bysiau cludiant ddod yn gynnar i’n safleoedd fel bod ein myfyrwyr yn gallu teithio adref yng ngolau dydd ac o ystyried yr oedi sy’n cael ei ragweld ar gyfer amseroedd teithio.
Wrth i’r prynhawn fynd yn ei flaen, byddwn yn cyfathrebu â myfyrwyr trwy’r Ap Myfyrwyr a’r staff addysgu, i roi gwybod iddynt a ydy eu bws cludiant am adael yn gynnar. Tan hynny, mae’n ofynnol i bob myfyriwr fod yn y dosbarth yn unol â’u hamserlen. Rydym yn rhagweld y bydd hwn yn ddull graddol ac ar ôl ei gwblhau byddwn yn sicrhau bod y myfyrwyr sy’n weddill sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu hannog i deithio’n ddiogel adref. Bydd staff yn aros ar y safle nes bod pob myfyriwr wedi gadael y safle’n ddiogel, ac ar yr adeg honno bydd y safleoedd ar gau.
Sylwch y bydd Meithrinfa ToyBox ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy yn parhau ar agor fel arfer.