Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

news story post 'LEADING names in wildlife, nature and conservation showcased career opportunities for students at a college event'

Fe wnaeth sefydliadau o bob rhan o Ogledd Cymru a thu hwnt gyfarfod â dysgwyr Rheolaeth Anifeiliaid yng Ngholeg Cambria Llaneurgain i gynnig lleoliadau gwaith a thrafod swyddi yn y sector.

Yn eu plith roedd Parc Anifeiliaid Greenacres, North Clwyd Animal Rescue, Parc Dyfrdwy, Emerald Pawtraits, a Nature’s SAFE.

Roedd cynrychiolwyr o dîm Siop Swyddi a Phrofiad Gwaith y coleg hefyd yn bresennol, yn ogystal â FloogleBinder, sy’n trefnu teithiau cynaliadwy ac alldeithiau addysg.

Dywedodd Sadie Thackaberry, Arweinydd y Cwricwlwm ar gyfer Rheolaeth Anifeiliaid, fod eu cyrsiau wedi gweld cynnydd yn nifer y dysgwyr y flwyddyn academaidd hon ac mae’r casgliad hwn yn dathlu cynnydd yn y galw am weithwyr medrus ac ymroddedig yn y diwydiant.

Ychwanegodd: “Fe gawson ni fore o sgyrsiau a chyflwyniadau cyn digwyddiad agored a gweithdai i gyflogwyr ar sut i ddod o hyd i swyddi yn y sector yma.

“Mae’r dysgwyr wedi cael cyfle i gwrdd â sefydliadau ac elusennau anhygoel, a chyn-fyfyrwyr sydd wedi mynd ymlaen i ddechrau eu busnesau eu hunain neu weithio yn rhai o sŵau gorau’r wlad, neu mewn swyddi rheolaeth anifeiliaid.

“Hoffwn i ddiolch i bawb ddaeth draw, roedd yn ddiwrnod mor werthfawr a llawn gwybodaeth a byddwn ni’n ceisio ei gynnal eto yn y dyfodol.”

Mae Jessica Humphreys, perchennog cwmni ffotograffiaeth anifeiliaid anwes Emerald Pawtraits, yn gwneud yn dda iawn o’i stiwdio ar Stad Ddiwydiannol Bromfield yn yr Wyddgrug, ar ôl lansio y llynedd.

Wedi graddio o’r cyrsiau Lefel 3 a HND mewn Rheolaeth Anifeiliaid yn Llaneurgain, dywedodd: “Fe wnes i fwynhau fy amser yn Cambria yn fawr iawn, a gyda’m cariad at ffotograffiaeth roedd y syniad o gymysgu’r ddau angerdd mawr yn fy mywyd yn ymddangos yn gam nesaf perffaith i mi ar ôl coleg.

“Mae heddiw wedi bod yn gyfle i rwydweithio gyda sefydliadau ac asiantaethau eraill a chwrdd â dysgwyr yn yr un sefyllfa ag yr oeddwn i ynddi i ddangos bod llawer o yrfaoedd gwahanol ac amrywiol ar gael yn y maes yma.”

Ychwanegodd Henny Croft, o Lanelidan, myfyriwr Lefel Mynediad 3 mewn Gofal Anifeiliaid: “Mae’r digwyddiad yma wedi bod yn ddiddorol oherwydd dwi eisiau gweithio gydag anifeiliaid, fel ceffylau neu fel twtiwr cŵn neu efallai rhywbeth arall. Mae hyn wedi dangos i mi faint o opsiynau gwahanol sydd ar gael.”

Am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost