Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

The success of a booming culture club was music to the ears of students in Wrexham

Croesawodd Culture Collective Coleg Cambria dros 50 o ddysgwyr i’w digwyddiad diweddaraf ym mwyty Iâl.

I ddathlu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni, cynhaliodd y coleg berfformiad arbennig yn lleoliad yr Hafod.

Cyflwynodd y trefnwyr, Judith Alexander a Tim Feak, y siaradwyr gwadd talentog Tony Cordoba, Arweinydd Ieuenctid ar gyfer Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) a Joseph George o Syniadau Mawr Cymru, gyda’r ddau yn chwarae offerynnau ac yn canu i’r rhai oedd yn bresennol.

Roedd y sesiwn yn cynnwys te prynhawn â thema Gymreig gyda Bara Brith cartref, a bu Tony, sy’n hanu o Nicaragua, a George, sydd â gwreiddiau yn un o lwythau Nigeria, yn rhannu eu meddyliau a’u profiadau o ddiwylliant Cymru.

Cafwyd sgwrs hefyd gan Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Ania Jones am y Gymraeg; roedd hi’n annog dysgwyr i fod â mwy o hyder wrth ddefnyddio eu mamiaith lle bynnag y bo modd.

Meddai Judith, Cydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth Cambria: “Mae’r cyfnewid gwybodaeth a’r profiadau hyn yn cyfoethogi safbwyntiau ein dysgwyr ac yn meithrin cymuned fwy cynhwysol a rhyng-gysylltiedig.”

Ychwanegodd Tim, sy’n Brif Gaplan yn y coleg: “Mae wedi bod yn wych gweld Culture Collective yn mynd o nerth i nerth.

“Mae gennym ni gymaint i’w ddathlu a’i ddysgu oddi wrth ein gilydd ac mae straeon a pharodrwydd ein dysgwyr a’r gymuned ehangach i ddod at ei gilydd a chael hwyl bob amser yn fy nghyffwrdd i!”

Bydd y dathliad Culture Collective nesaf yn cael ei gynnal ar safle Cambria yn Llysfasi, ger Rhuthun, ym mis Mehefin.

Am restr lawn o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal eleni, anfonwch e-bost at judith.alexander@cambria.ac.uk neu tim.feak@cambria.ac.uk.

Ewch i www.cambria.ac.uk am y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf o Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost