Background Splash

Gan Alex Stockton

AICOcambria2

Treuliodd dysgwyr Menter ac Entrepreneuriaeth BTEC o safle Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam ddiwrnod yn Aico yng Nghroesoswallt.

Aico yw arweinydd y farchnad Ewropeaidd mewn diogelwch bywyd yn y cartref, gan gynnwys larymau, synwyryddion a darparwr datrysiadau blaenllaw Rhyngrwyd Pethau (IoT), HomeLINK.

Fe wnaeth carfan o 18 aelod o’r coleg gyfarfod â thîm Cyswllt Cymunedol Aico, Laura Opechowska a Jane Pritchard a chymryd rhan mewn trafodaethau a theithiau a oedd yn archwilio hanes a chyflawniadau’r cwmni.

Fe wnaethon nhw hefyd yn ymweld ag adrannau amrywiol wrth weithio ar dasgau, dylunio cynnyrch a datblygu cynllun recriwtio.

Meddai Judith Alexander, Cydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth Cambria: “Bu’r dysgwyr yn archwilio diwylliant sefydliadol Aico a chyfleusterau o’r radd flaenaf wrth ddatblygu syniadau entrepreneuraidd, magu hyder trwy heriau, a chael mewnwelediadau gwerthfawr i wahanol lwybrau gyrfa.

“Rydym yn ddiolchgar am y lletygarwch cynnes yn Aico, aeth Laura a Jane allan o’u ffordd i sicrhau eu bod yn cael profiad cadarnhaol.”

Ychwanegodd: “Mae gallu ymweld â chwmnïau allanol yn ein helpu i gyfoethogi dysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o feddylwyr ac entrepreneuriaid arloesol, gan ddatblygu mewnwelediadau a dealltwriaeth o brosesau, swyddogaethau a gwerthoedd sefydliadol busnes.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost