Home > Safleoedd y Coleg > Chweched Glannau Dyfrdwy
Chweched Glannau Dyfrdwy
Croeso
Mae Chweched Glannau Dyfrdwy, a wnaeth agor yn 2016 yn lle cyfeillgar a bywiog, sy’n cynnig llyfrgell ragorol a chyfleusterau TG blaengar sy’n cefnogi astudio ac ymchwil annibynnol.
Ymhlith y cyfleusterau mae stiwdio gelf gyda theras awyr agored, ystafell dylunio cynnyrch gydag argraffydd 3D a thorrwr laser, stiwdio ddrama, canolfan gerddoriaeth a labordy gwyddoniaeth mawr. Caiff myfyrwyr eu hannog i ddefnyddio’r llyfrgell a’r ddarlithfa newydd.
Gall pob myfyriwr ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf gyda’n cyfrifiaduron o’r radd flaenaf, yn ogystal â Chromebooks ym mhob ystafell addysgu.
Yn ogystal â’r pynciau Safon Uwch rydych chi’n eu dewis eich hun, byddwn yn eich cefnogi yn rhagor i gyflawni eich potensial trwy eich cofrestru ar y Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch y byddwch yn ei hastudio fel Safon Uwch ychwanegol ac a fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau academaidd a chyflogadwyedd ychwanegol.
Taith Rithwir 360°
Dyma eich cyfle i gymryd cip ar sut le yw’r safle cyn i chi ymweld neu cyn i chi ddechrau eich taith gyda ni, gallwch wneud hyn o gartref. Os oes gennych benset Rhithrealiti, gallwch weld y daith mewn Rhithrealiti.
Ein Cyfleusterau
Edrychwch ar rai o’n datblygiadau diweddar ac uchafbwyntiau’r safle!
Dewiswch un o’r delweddau neu eiconau isod i weld cynrychioliad 3D o’r cyfleuster hwnnw.
Os oes gennych benset Rhithrealiti, gallwch weld y daith mewn Rhithrealiti.
Dewch o hyd i gwrs sy'n addas i chi yn Chweched Glannau Dyfrdwy
Gweld ein safleoedd eraill
Edrychwch ar ein tudalennau eraill trwy ddewis un o’r lluniau isod!
Ble ydym ni
Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy
Ffordd Celstryn, Cei Connah
Glannau Dyfrdwy
Sir y Fflint
CH5 4BR
Ffôn
0300 30 30 007