Home > Bywyd Coleg > Buddion Myfyrwyr
Buddion Myfyrwyr
Cerdyn Gostyniadau i Fyfyrwyr
Gostyngiadau yn y Gampfa
UniDays
Gofal Plant a Chyllid Gofal Plant
Cerdyn Rheilffyrdd 16-25
TOTUM
Fel myfyriwr Coleg Cambria, gallwch chi gofrestru i gael cerdyn TOTUM (enw newydd ar gyfer cerdyn NUS extra), a fydd yn eich galluogi chi i gael dros 200 o ostyngiadau i fyfyrwyr yn y DU.
Cewch chi ddewis cerdyn 1 blynedd am ddim, cerdyn 2 flynedd am £24.99, neu gerdyn 3 mlynedd am dim ond £24.99. Gan fod y rhan fwyaf o’r gostyngiadau gwych hyn ddim ond ar gael ar-lein, nid yw’n bosib eu cyrchu nhw heb gerdyn TOTUM.
Dim ond rhai o'r gostyngiadau sydd ar gael i chi gyda'ch cerdyn
10% ODDI AR EICH SIOPA YN CO OP
.
GOSTYNGIAD O 10%
.
25% I FFWRDD
.
15% I FFWRDD
.
10% oddi ar bopeth
.
60% I FFWRDD
.
20% I FFWRDD
.
10% I FFWRDD
.
Ewch i totum.com i gofresru ar gyfer eich Cerdyn Totum a Cherdyn Profi Oedran
Dyma dim ond rhai o’r cannoedd o gynigion i fyfyrwyr, gan gynnwys arbedion mewn ffasiwn, iechyd a harddwch, technoleg a llawer rhagor, peidiwch ag oedi.
Lifestyle Fitness
Does dim angen i chi fynd yn bell na gwario llawer i fwynhau sesiwn ymarfer ffitrwydd. Mae Lifestyle Fitness wedi’i leoli ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy ac mae’n ganolfan benodol ar gyfer iechyd a llesiant. Mae’n darparu ar gyfer bob lefel ffitrwydd a grŵp oedran ac yn ymfalchïo mewn dros 100 darn o offer, gan gynnwys pwysau rhydd, peiriannau pwysau a chyfarpar cardio, stiwdio bocsio, ardal weithredol a phrif stiwdio.
Fel aelod, mae 30 o ddosbarthiadau am ddim ar gael i chi bob mis ac ymgynghoriad hyfforddwr personol i dracio eich cynnydd, neu eich helpu gyda chynllun ffitrwydd. Cymerwch gip isod ar ba ddosbarthiadau y gallech ymuno â nhw a dysgwch sut y gallwch gofrestru ar gyfer Lifestyle Fitness heddiw.
Pa ddosbarthiadau am ddim allwch chi ymuno â nhw?
Troelli
Pilates
Yoga
'Bodypump' Les Mills
'Bodycombat' Les Mills
'GRIT' Les Mills
Coesau, boliau a phenolau
Sesiynau Cylchol a Rhagor
Sut i ymuno
Ymunwch â’n campfa breifat ar y safle, Lifestyle Fitness yng Nglannau Dyfrdwy, gyda gostyngiad hael os ydych chi’n fyfyriwr yng Ngholeg Cambria!
Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Lifestyle Fitness i gynnig aelodaeth myfyriwr am bris gostyngol i chi. Unwaith y byddwch chi’n cofrestru yma yn y coleg, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â’n campfa Lifestyle, ac yn mynd â’ch cerdyn myfyriwr gyda chi i gael defnyddio’r gostyngiadau.
Arbed gyda UNiDAYS
Pa fuddion allwch chi eu cael gyda UniDays
25% oddi ar adidas
.
6 MIS AM DDIM GYDA AMAZON PRIME
.
50% oddi ar Bella italia
.
35% oddi ar dominos
.
Ewch i UniDays.com i gorfrestru am ddim
Gofal Plant
Mae gennym ganolfan gofal plant groesawgar a chartrefol yn Cambria, Toybox yng Nglannau Dyfrdwy. Gallwn gynnig cymorth ariannol i chi os bydd ei angen arnoch. Darllenwch am y feithrinfa a’r hyn y gallant ei gynnig i chi a’ch plentyn isod.
Toybox
Yma ym Meithrinfa Toybox, rydym am wneud yn siŵr eich bod chi a’ch plentyn yn dod i amgylchedd sy’n gynnes a chyfeillgar, a dyna pam rydym yn falch o ddweud ein bod yn cynnig y gofal plant gorau yn y lleoliad harddaf.
Rydym yn darparu ‘gofal addysgol’ i blant rhwng 3 mis a phum mlwydd oed, gyda chymysgedd iach o ddysgu a chwarae. Mae ein cwricwlwm wedi’i adeiladu o amgylch meysydd i gefnogi ac annog llesiant a datblygiad personol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deallusol eich plentyn.
Ewch i’r wefan yma – https://toybox-nursery.cambria.ac.uk/?lang=cy
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Mae gan bob maes yn y feithrinfa gwricwlwm i’w ddilyn, sy’n cynnwys datblygiad personol a chymdeithasol, iaith a llythrennedd, mathemateg, datblygiad corfforol a chreadigol.
Mae gennym bum ystafell ar gyfer pum grŵp oedran gwahanol. Mae’r ystafell lindysyn ar gyfer plant 0-12 mis. Mae’n llawn o deganau confensiynol a gweithgareddau cyfannol fel basgedi trysor, swigod, cerddoriaeth a chwarae dŵr i annog y babanod i archwilio a mwynhau eu hamgylchedd dan do ac yn yr awyr agored.
Mae ein hystafell buchod coch cwta ar gyfer plant 12-18 mis oed. Yno maen nhw’n cael eu hannog i symud rhagor trwy chwarae meddal, teganau gwthio ymlaen a mwy.
Anogir y plant yn yr ystafell pili-pala (18 mis oed – 2½ oed) i gyfathrebu, chwarae gyda’i gilydd ac i ddod o hyd i’w llais ynghyd â gweithgareddau a rennir megis pobi a chwarae â thywod.
Yn yr ystafell cacwn, mae plant 2½ – 3 oed yn cael ystod eang o gyfleoedd dysgu trwy dywod, chwarae hydrin, llyfrau, chwarae bloc, chwarae archwiliadol, chwarae rôl a symud.
Mae’r plant yn yr ystafell sioncod y gwair (3-5 oed) yn dilyn Dysgu Sylfaen, sy’n caniatáu i’ch plant fod yn greadigol, yn ddychmygus ac i gael hwyl wrth ddysgu. Mae hyn yn rhoi sgiliau i blant adeiladu arnynt a datblygu yn barod ar gyfer yr ysgol.
Ein horiau agor yw:
Dydd Llun – 8.00am – 5.45pm
Dydd Mawrth – 8.00am – 5.45pm
Dydd Mercher – 8.00am – 5.45pm
Dydd Iau – 8.00am – 5.45pm
Dydd Gwener – 8.00am – 5.45pm
Mae Meithrinfa Toybox ar agor drwy gydol y flwyddyn ac eithrio Gwyliau Banc ac un wythnos adeg y Nadolig. Sylwer os bydd y feithrinfa ar agor ar Noswyl Nadolig, yr amser cau fydd 1.00pm.
Rydym wedi’n lleoli ar safle Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy. Os oes angen i chi gysylltu â ni ffoniwch 01978 267 159 neu anfonwch e-bost at toybox@cambria.ac.uk
Meithrinfa Iâl
Gallwn ddarparu amgylchedd hapus, diogel, ysgogol a gofalgar i blant rhwng 3 mis a 4 oed tra byddwch yn astudio yn y coleg. Rydym yn deall pwysigrwydd datblygiad eich plentyn, darparu amrywiaeth o weithgareddau, a diwrnodau llawn hwyl. Rydym hefyd yn gwybod y bydd gan eich plentyn ei anghenion unigol ei hun a byddwn yn gweithio’n galed i’w bodloni. Ym Meithrinfa Iâl, rydym yn cydnabod ac yn dathlu cefndiroedd diwylliannol a chrefyddol amrywiol pob plentyn. Gofelir am bob plentyn heb wahaniaethu ac mewn amgylchedd o barch. Rydym yn croesawu plant ag anawsterau ac anableddau dysgu, ac rydym am fod yn hyderus y gallwn ddiwallu eu hanghenion. Dyna pam, lle bo angen, y byddwn yn ceisio eich cymorth fel rhiant/gofalwr, yn ogystal â’n Cydlynydd Anghenion Ychwanegol ac asiantaethau allanol i sicrhau bod y gofal gorau posibl ar gael.
Lawrlwytho arolygiad
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Mae gan y feithrinfa 2 ardal chwarae awyr agored (gan gynnwys gardd berlysiau a llysiau) a 7 ystafell fewnol sy’n cynnwys:
- ystafell chwarae fawr
- ystafell chwarae/ystafell gysgu fach
- cyntedd
- toiledau a man newid cewynnau
- ystafell gotiau
- ystafell storio
- cegin.
Rydym ar agor i fyfyrwyr o ddydd Llun tan ddydd Gwener, 8.45am – 4.25pm, yn ystod oriau tymor safle Parc y Gelli.
Mae Meithrinfa Iâl ar safle llachar, siriol, wedi’i gynnal a’i gadw’n dda ar safle Parc y Gelli, Coleg Cambria Iâl, Wrecsam.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os hoffech wneud trefniadau i ymweld â’r feithrinfa, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r Goruchwylwyr, Barbara Bury neu Pam Owen, ym Meithrinfa Iâl, Ffordd Parc y Gelli, Wrecsam, LL12 7AA
ffôn: 01978 267591
e-bost: yalenursery@cambria.ac.uk
Cyllid
Nid ydym am i anawsterau ariannol amharu ar eich addysg. Os ydych chi’n astudio’n llawn amser yng Ngholeg Cambria (neu’n dymuno gwneud hynny), os oes gennych chi blant sy’n iau nag oedran ysgol a’ch bod ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at gostau gofal plant.
Cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0300 30 30 007 neu anfonwch e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk am fanylion y Gronfa Cymorth i Ddysgwyr; gallwch wneud cais am gymorth cyn gynted ag y byddwch yn cofrestru ar gwrs amser llawn yng Ngholeg Cambria. Byddwn ni’n gofalu amdanoch chi a’ch plentyn.
Arbed arian gyda cherdyn rheilffyrdd
Mae’r Cerdyn Rheilffyrdd 16-25 (a elwir hefyd yn Gerdyn Rheilffyrdd Myfyrwyr neu Gerdyn Rheilffyrdd Person Ifanc) yn gerdyn gostyngiad sy’n galluogi i chi arbed 1/3 oddi ar docynnau trên cymwys ym Mhrydain.
Gall myfyrwyr ac oedolion ifanc ddefnyddio’r Cerdyn Rheilffordd 16-25 ar docynnau Arferol Unrhyw Amser, Adegau Tawel, Tocyn Sengl Adegau Tawel Iawn a Thocynnau Dychwelyd, yn ogystal â Thocynnau Dosbarth Arferol a Thocynnau Dosbarth Cyntaf Uwch.
Pa fuddion y gallwch eu disgwyl gyda Cherdyn Rheilffyrdd?
Gallwch arbed 1/3 oddi ar gludiant tren trwy'r flwyddyn
.
Gallwch ei ddefnyddio ar adegau teithio prysur (£12 o leiaf yn berthnasol)
(£12 o leiaf yn berthnasol)
Gallwch deithio dosbarth cyntaf am lai
.