Home > Bywyd Coleg > Bywyd Myfyrwyr
Codwch eich llais yng Ngholeg Cambria. Mae Llais Myfyrwyr yn ffordd wych i gyfrannu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, drwy gyflwyno eich syniadau chi a’ch ffrindiau o ran gwella’r coleg a’ch profiad yma.
Does dim byd gwell i’w roi ar eich CV neu gais prifysgol na Llywydd y Myfyrwyr. Byddech chi’n un o ddim ond dau Lywydd yng Ngholeg Cambria, felly mae’n swydd gwerth chweil! Byddwch yn help llaw ac yn glust i’ch holl gyd-fyfyrwyr ac yn gwrando ar eu sylwadau neu bryderon. Yn ogystal â hynny, byddwch yn:
Os bydd eich cais i fod yn Is-lywydd myfyrwyr yn llwyddiannus, byddwch yn un o ddim ond pum myfyriwr sy’n ddigon ffodus i gael y swydd hon. Fel is-lywydd, bydd llawer o’ch cyfrifoldebau yn debyg i rai’r cynrychiolwyr dosbarth a safle, ond byddwch hefyd yn:
Efallai y byddai’n well gennych fod yn Gynrychiolydd Safle. Byddech yn un o ddeuddeg cynrychiolydd safle ar eich safle, gyda’r deuddeg cynrychiolydd fel arfer yn dod yn ffrindiau cyflym iawn. Fel Cynrychiolydd Cyngor Safle, bydd gennych chi holl ddyletswyddau Cynrychiolydd Dosbarth, ond byddwch hefyd yn:
Beth am gael eich ethol fel cynrychiolydd eich dosbarth i roi llais i’ch cyfoedion. Byddwch yn cael hyfforddiant a chefnogaeth gan y coleg yn y tymor cyntaf i’ch helpu yn eich swydd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru i fynd trwy wefan Llais Myfyrwyr. Fel cynrychiolydd dosbarth byddwch yn:
Yn ystod eich amser fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, byddwch yn cael hyfforddiant hanfodol i’ch cynorthwyo chi yn eich swydd. Wrth ddefnyddio’r sgiliau hyn byddwch yn gallu codi trafodaethau gyda’ch dosbarth bob tymor â’u cyflwyno i’ch meysydd Cwricwlwm yn y cyfarfod Cynrychiolydd Myfyrwyr.
Mae llawer o fanteision o fod yn Gynrychiolydd Myfyrwyr! Ar ben yr holl hyfforddiant byddwch yn ei gael, byddwn hefyd yn rhoi hwdi Cynrychiolwyr Myfyriwr am ddim i chi a bydd gennych hefyd yr opsiwn o fynd ar ddiwrnod adeiladu tîm am ddim gyda chynrychiolwyr eraill o bob un o safleoedd Coleg Cambria.
Cymerwch ran yn Llais Myfyrwyr i wneud gwahaniaeth yn ystod eich cyfnod yn y coleg. Dyma’r ffordd orau i godi eich llais ac nid yn unig y byddwch yn gweld newid cadarnhaol yng Ngholeg Cambria; chi fydd yn gyfrifol am y newid hwnnw.
Mae sawl ffordd i gymryd rhan, ond y ffordd gyflymaf yw rhoi eich hun ymlaen i fod yn Gynrychiolydd Dosbarth fis Medi eleni drwy roi gwybod i’ch tiwtor bod gennych chi ddiddordeb. Fel Cynrychiolydd Dosbarth etholedig, chi fydd yn llais i’ch ffrindiau dosbarth, gallu cynnal eich cyfarfodydd dosbarth eich hun a mynd i gyfarfodydd Adolygu Cynrychiolwyr i drafod materion myfyrwyr ar draws y coleg. Dyma gyfle gwych i ddweud eich dweud!