Chwaraeon Elît

A football in the air hitting the net of a football goal

Academi Pêl-Droed Cambria

Ein Hacademïau a'n Hysgoloriaethau

Os ydych chi wrth eich bodd gyda phêl-droed, p’un a ydych chi wedi bod yn cicio pêl ers i chi allu cerdded neu os ydych chi eisiau dod oddi ar y fainc am y tro cyntaf, mae gennym ni dîm i chi. Darganfyddwch am bob un o’n timau gwych isod.

Mae’r tîm pêl-droed dynion yn ddewis hynod o boblogaidd i fyfyrwyr. Rydym yn cynnal treialon yn yr ail wythnos ym mis Medi bob blwyddyn.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Rhwng gemau, byddwch yn cael y cyfle i weithio ar ddatblygiad tactegol a gwaith ffitrwydd.

Mae’r tîm yn cystadlu ar brynhawn dydd Mercher yn y gynghrair AOC y Colegau a’r twrnamaint cenedlaethol Colegau Cymru.

Wrth chwarae ar brynhawn dydd Mercher byddwch yn cael y rhyddid i astudio yn ogystal â chwarae i’r tîm. Hefyd byddwch yn cael cyfleoedd i gwblhau rhagor o gymwysterau ar y cyd a’ch tîm elit.

Rydym yn credu, ni waeth beth rydych chi’n ei astudio yn Cambria, y dylech chi gael y cyfle i gynrychioli ein timau elitaidd. Rydym wedi ymrwymo i gyfuno rhagoriaeth academaidd a chwaraeon, gan gefnogi eich uchelgeisiau yn y dosbarth ac ar y maes.

Hefyd byddwch y cael cyfleoedd i gwblhau rhagor o gymwysterau ar y cyd a’ch tîm elit.

Rydym yn cynnal treialon yn ystod mis Medi, gyda gemau cystadleuol yn dechrau’n fuan wedyn. Rydym yn chwilio am chwaraewyr newydd bob amser i gryfhau’r sgwad, felly peidiwch â phoeni; gallwn roi cyfle i chi ymuno a’r tîm hyd yn oed os ydych chi’n methu’r treial cychwynnol ym mis Medi.

Mae Darryl Cumberlidge yn gyfrifol am y maes hwn.

Mae Pêl-droed ac Addysg Ymddiriedolaeth Gymunedol CPD Wrecsam yn rhaglen newydd sy’n recriwtio dynion a merched rhwng 16-18 oed i ddod yn rhan o’r Rhaglen Ysgoloriaethau Pêl-droed ac Addysg.

Bydd myfyrwyr chwaraeon yn hyfforddi’n wythnosol gyda staff Ymddiriedolaeth Gymunedol CPD Wrecsam, gan gystadlu yn y Gynghrair Pêl-droed ac Addysg Cymunedol yn cynrychioli CPD Wrecsam.

Bydd disgwyl i fyfyriwr astudio gyda Cambria gyda’r cyfle i gwblhau cymhwyster lefel 2 neu lefel 3 mewn chwaraeon, bydd cyfleoedd hefyd i gwblhau cymwysterau ychwanegol i gyfoethogi eich gyrfa yn rhagor.

Mewn lluniau