Gweithgareddau Myfyrwyr

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

A Deeside Sixth Form student playing table tennis on the first floor
Sefyll Allan

Gwnewch y gorau o’ch amser yng Ngholeg Cambria wrth gymryd rhan yn ein clybiau a’n cymdeithasau. Yn unrhyw un o’r clybiau isod byddwch yn dysgu sgiliau newydd, cynyddu eich hyder y tu allan i’r dosbarth, a gwneud ffrindiau gyda phobl sy’n rhannu’r un diddordebau â chi.

Rydym yn credu fod addysg yn cael ei gadarnhau wrth ei gyfuno gyda gweithgaredd cyfoethogi cymdeithasol. Bydd eich ceisiadau prifysgol a’ch CV yn sefyll allan llawer mwy na pe byddai eich profiad yn y coleg yn cynnwys mynd i ddosbarthiadau yn unig. Gwnewch y mwyaf o’ch amser gyda ni.

Mae cymryd rhan yn hawdd, ewch draw i’r adran Gwasanaethau Myfyrwyr i ddarganfod rhagor.

Grwpiau Trafod

Grwpiau LHDTC+

Iaith Arwyddion

Grwpiau Gofalwyr Ifanc

Clwb Cerddoriaeth

Grwpiau Chwaraeon

Clwb Mentergarwch

Dungeons & Dragons

Ysgrifennu Creadigol

Warhammer

Clwb Myfyrwyr Rhyngwladol

Clwb Gwyddbwyll

Anime

Grwpiau Rhedeg

Dylunio Gwefannau

Beth arall allwch chi gymryd rhan ynddynt?

Gwnewch wahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned gydag un o’n clybiau sydd fwyaf gwerth chweil. Byddwch yn gweithio gyda sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol, yn gwirfoddoli mewn gwahanol ardaloedd ac yn cael profiad gwerthfawr, sy’n aml yn newid bywyd.

Os ydych chi eisiau dechrau eich busnes eich hun ryw ddydd, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Mae llawer o bobl ifanc eisiau bod yn rheolwr arnyn nhw eu hunain, am lawer o wahanol resymau. Gallwch chi wneud rhywbeth rydych chi’n angerddol amdano ar eich telerau eich hun, creu’r bywyd rydych chi ei eisiau ac adeiladu rhywbeth y gallwch chi fod yn falch ohono. Gadewch i ni ddangos i chi sut.

Mae clybiau’n cael eu cynnal bob pythefnos ar draws ein safleoedd.

Dydd Llun: 12.15 – 13.15 – CAD Iâl
Dydd Mawrth: 12.00 -13.00 – Parth Dysgu Llysfasi
Dydd Mercher: 12.15 – 13.15 – CAD Ffordd y Bers
Dydd Iau: 12.00 – 13.00 – Parth Dysgu Glannau Dyfrdwy
Dydd Gwener: 12.00 – 13.00 – Parth Dysgu Llaneurgain

Anfonwch e-bost at enterprise@cambria.ac.uk i drefnu apwyntiad sy’n addas i chi.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofalu amdanoch chi’ch hun gyda’n cymdeithas llesiant. Dyma gyfle i gael manteisio ar ystod o weithgareddau sy’n cefnogi eich llesiant personol eich hun. Bydd y coleg yn cefnogi gweithgareddau trwy weithio gyda chi i ddatblygu ardaloedd ac adnoddau priodol.

Yng Ngholeg Cambria mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Os hoffech chi gymryd rhan mewn hyrwyddo’r gwerthoedd hyn a dathlu amrywiaeth, ymunwch â ni. Gwnewch wahaniaeth.